Disgrifiad Swydd (DS) Band 4

Proffil Grŵp - Arbenigwr Gweinyddwr Busnes

(BAS)

Disgrifiad Swydd - BAS: Uwch Weinyddwr Achosion

Uned Rheoli Troseddwyr







Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-2434-JD-B4 : BAS : Senior Case Administrator OMU v4.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

4.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

04/08/2021

Statws

Llinell Sylfaen

Cynhyrchwyd gan

Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y DS


Disgrifiad Swydd


Teitl Swydd

Uwch Weinyddwr Achosion - Uned Rheoli Troseddwyr

Proffil y Grŵp

Gweinyddwr Busnes Arbenigol

Lefel yn y Sefydliad

Cyflenwi

Band

4




Trosolwg o'r swydd

Swydd weinyddol mewn sefydliad yw hon.


Mae’r rôl hon wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer Sefydliadau Lleol sydd â lefelau trosi uchel.

Crynodeb

Mae’r swydd hon yn gweithredu fel Uwch Weinyddwr Achosion, gan adrodd yn uniongyrchol i Reolwr Canolfan Band 5. Mae’r rôl yn cynnwys archwilio a llunio amrywiol brosesau gofynnol yn nhîm Gweinyddu Achosion yr adran Uned Rheoli Troseddwyr (OMU).


Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel dirprwy i Reolwr Canolfan Band 5 mewn perthynas â gwaith y Ddalfa, a bydd yn gyfrifol am wirio a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Carchardai ar gyfer Cyfrifo Dedfrydau.


Yn ogystal â’r rôl gweinyddwr achosion safonol, mae’r rôl yn cynnwys gwaith rheoli llwyth achosion a ddyrennir.


Mae hon yn swydd anweithredol heb gyfrifoldebau rheolaeth linell. Mae’r rôl hon yn cylchdroi.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:


  • Trefnu, llunio a chynnal cofnodion manwl gywir ar gyfer y maes gwaith, e.e. rhestrau gwirio ayb.

  • Ymgymryd â’r gweithgareddau trafodol sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth Rheoli Troseddwyr. Mae hyn yn cynnwys prosesu’r gwaith papur canlynol yn barod i’w wirio a’i drosglwyddo ymlaen gan Reolwr y Ganolfan:

    • Adroddiad Rhyddhau / Adroddiad Cyn-rhyddhau

    • Ceisiadau am fechnïaeth

    • Rhyddhau ar Drwydded Dros Dro (ROTL)

    • Cyrffyw Cyfyngu i’r Cartref (HDC)

    • Asesu Troseddwyr a Rheoli Dedfrydau (OaSys)

    • Trefniadau Amlasiantaeth ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA)

    • Ail-gategoreiddio

    • Cyfrifo dedfrydau, gan gynnwys cynnal archwiliadau cychwynnol

    • Apeliadau

    • Cofrestr Troseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw (VISOR)

    • Cynllunio Asesiadau Risg Amlasiantaeth (MARAP)

    • Dyfarniadau

    • Carcharwyr a ddedfrydwyd am gyfnod amhenodol

    • Ceisiadau am Barôl

    • Gohebiaeth Gyfreithiol

    • Ceisiadau am Drwydded

    • Rhyddhau dros nos ar sail ailsefydlu

    • Dirwyon Carcharorion

    • Gwladolion Tramor/Allgludo/Mewnfudo

    • Risg i Blant/Diogelu Plant



  • Gorchmynion Atal/Aflonyddu

  • Gweinyddiaeth Categori A

  • Gwaith papur galw’n ôl

  • Diogelu'r Cyhoedd

  • Sicrhau bod rhestr tasgau dyddiol gorfodol wedi’u cwblhau a bod tasgau wedi'u dyrannu'n deg o fewn y tîm.

  • Sicrhau bod yr holl waith papur rhyddhau a throsglwyddo wedi’i gwblhau gan y tîm.

  • Bod yn gyfrifol am wirio a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Cyfarwyddiadau Gwasanaeth Carchardai ar gyfer Cyfrifo Dedfrydau

  • Bod yn un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl gyfathrebu â’r tîm, blaenoriaethu a dosbarthu i’r unigolyn priodol neu’r adran berthnasol yn y sefydliad, e.e. rheoli blwch derbyn y ddalfa/yr OMU.

  • Cysylltu â rhanddeiliaid ac asiantaethau perthnasol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o wybodaeth a’i bod yn cael ei rhannu’n ddigonol e.e. cysylltu â rheolwyr achos Adran Gwaith Achos Amddiffyn y Cyhoedd ar gyfer achosion parôl penodol.

  • Rheoli a gwirio cronfeydd data’r sefydliad, systemau ffeilio â llaw a logiau gwybodaeth, gan ymateb o fewn amserlenni a llunio adroddiadau yn ôl y gofyn, e.e. Ansawdd data, Cronfeydd data llwyth achosion, Logiau HDC ayb.

  • Trefnu unrhyw gyfarfodydd gan gynnwys paratoi gwaith papur, cofnodion a phwyntiau gweithredu, e.e. Cyfarfodydd misol yr OMU, y tîm rheoli risg rhyngadrannol.

  • Gweithredu fel gweinyddwr arbenigol a pharhau i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth o’r holl brosesau. Arwain ar y gwaith darparu a chymathu ar gyfer prosesau neu bolisïau newydd o fewn y swyddogaeth.

  • Datblygu canllawiau hyfforddi a nodiadau atgoffa i’w defnyddio wrth ddatblygu a hyfforddi cydweithwyr iau.

  • Gweithredu fel mentor/cydlynydd cynefino ar gyfer yr holl staff newydd yn y swyddogaeth, gan weithio i ddatblygu eu set sgiliau gychwynnol ac i gynyddu gwybodaeth a gallu. Nodi unrhyw feysydd sy’n peri pryder/meysydd diffyg a rhoi gwybod i reolwr y ganolfan cyn gynted â phosibl.

  • Ar y cyd â Rheolwr y Ganolfan, adolygu prosesau newydd a chyfredol, a darparu cyngor ac ymgynghoriad arbenigol i Bennaeth yr Adran ar gyfer ac yn ystod trafodaethau ynghylch prosesau newydd a phenderfyniadau cynllunio.

  • Ymchwilio i wallau gweinyddol yn yr adran ac adrodd arnynt gan ddefnyddio dull gwrthrychol o ddatrys problemau.


Cyflawni tasgau rheoli/gweinyddol eraill gan gynnwys:

  • Llenwi ffurflenni monitro ar gyfer y maes gwaith, e.e. cysylltu â Rheolwr y Ganolfan.

  • Paratoi gwaith papur i’w wirio gan y rheolwr, gan gynnal 20% o’r holl wiriadau cychwynnol yn ôl yr angen a rhoi gwybod am dueddiadau a datblygu atebion i’w cyflwyno i Reolwr y Ganolfan. Cwblhau archwiliadau 2 ddiwrnod.

  • Pan fo angen, mynychu cyfarfodydd ar ran yr uned.

  • Fel uwch weinyddwr, gweithio i ddarparu arloesedd a newid.

  • Gweithio ochr yn ochr â Rheolwr y Ganolfan a’i gynghori yn ystod gwerthusiadau staff blynyddol.

  • Rolau a chyfrifoldebau ad hoc yn ôl yr angen.


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir iddynt fod yn hollgynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosib y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.


Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu’n Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru).


Ymddygiadau

  • Newid a Gwella

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad

  • Gwybodaeth ymarferol a phrofiad o waith y Ddalfa gan gynnwys cefndir llwyddiannus o gyfrifo dedfrydau a swyddogaethau Gweinyddol Achosion eraill, ac wedi bod yn gweithio yn yr amgylchedd hwnnw am dros 12 mis.

Gofynion Technegol

  • Cwblhau hyfforddiant ar Gyfrifo Dedfrydau i Lefel Uwch.

  • Rhaid i ddeiliaid y swydd gwblhau hyfforddiant penodol yn eu harbenigedd gweinyddol ar ôl dechrau yn y swydd.

  • Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd lwyddo mewn asesiad i ddangos ei fod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc.

Gallu

  • Gallu delio’n effeithiol ac yn bendant â staff ar bob lefel

  • Gallu defnyddio MS Word a MS Excel

  • Casglu a dadansoddi gwybodaeth




Cymhwysedd Sylfaenol

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS).

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf.



Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

37 awr yr wythnos

Proffil Llwyddiant







Ymddygiadau

Cryfderau


Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol,

argymhellir 4-8


Gallu


Profiad


Technegol



Newid a Gwella


Gallu delio’n effeithiol ac yn bendant â staff ar bob lefel

Gwybodaeth ymarferol a phrofiad o waith y Ddalfa gan gynnwys cefndir llwyddiannus o gyfrifo dedfrydau a swyddogaethau Gweinyddol Achosion eraill, ac

wedi bod yn gweithio yn yr amgylchedd hwnnw am dros 12 mis.

Cwblhau hyfforddiant ar Gyfrifo Dedfrydau i Lefel Uwch.

Cyfathrebu a Dylanwadu


Gallu defnyddio MS Word a MS Excel


Rhaid i ddeiliaid y swydd gwblhau hyfforddiant penodol yn eu harbenigedd gweinyddol ar ôl dechrau yn y swydd.

Cydweithio


Casglu a dadansoddi gwybodaeth


Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd lwyddo mewn asesiad i ddangos ei fod yn addas

i weithio gyda Phobl Ifanc.

Rheoli Gwasanaeth o Safon





Gwneud Penderfyniadau Effeithiol





Dewiswch eitem.





Dewiswch eitem.






OR-JES-2434-JD-B4 : BAS : Senior Case Administrator OMU v4.0v4.0