Swydd Ddisgrifiad (SDd) - Y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol (NPS)
Band 5 NPS
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol /
Datblygu a Newid Busnes
Swydd Ddisgrifiad: Arweinydd Partneriaethau a
Rhanddeiliaid
Cyfeirnod y Ddogfen
NPS-JES-0026_Band 5 Partnership and Stakeholder Lead_v2.0
Math o Ddogfen
Rheolaethol
Fersiwn
2.0
Dosbarthiad
Annosbarthedig
Dyddiad Cyhoeddi
03/07/19
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Pennaeth y Grŵp
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Gwobrwyo
Tystiolaeth ar gyfer y SDd
NPS-JES-0026_Band 5 Partnership and Stakeholder Lead_v2.0
Swydd Ddisgrifiad - NPS
Teitl y Swydd
Arweinydd Partneriaethau a Rhanddeiliaid
Cyfarwyddiaeth
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol / Datblygu a Newid Busnes
Band
5
Trosolwg o’r swydd
Mae'r Arweinydd Partneriaethau a Rhanddeiliaid yn gyfrifol am ddatblygu gallu’r
systemau i adeiladu perthnasau gydag uwch randdeiliaid rhwng NPS, y Cwmnïau
Adsefydlu Cymunedol (CRCs) a phartneriaethau eraill.
Mae gan NPS raglen a meysydd polisi eang ac amrywiol, gyda’r mwyafrif ohonynt yn
cael eu cyflawni ar y cyd â phartneriaid eraill - gall yr amrywiaeth hyn ei wneud yn
heriol inni gydlynu ein gweithgareddau ac osgoi unrhyw ddryswch. Ni fydd deiliad y
swydd yn ‘rheoli’ gweithgareddau sefydliadau partner a rhanddeiliaid NPS, ond bydd
yn gweithredu fel ymgynghorydd i Ddirprwy Gyfarwyddwyr a’u Rhanbarthau, ac yn eu
helpu i dargedu eu mewnbwn a dilyn y trywyddau gorau.
Mae deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth partner newid busnes i
Ddirprwy Gyfarwyddwyr Rhanbarthol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn unol â
chyfarwyddyd yr Uwch Reolwr Integreiddio Systemau.
Crynodeb
Bydd y tîm integreiddio systemau yn gyfrifol am sicrhau bod NPS yn gweithio mor
effeithiol ag sy’n bosib gyda’r CRCs a phartneriaid cyflawni eraill. Bydd y rolau yn
cynnwys adnabod a chydlynu cyflawni i wella effeithiolrwydd gweithrediadau. Yng
Nghymru, bydd y rolau hyn yn mynd y tu hwnt i’r Gwasanaeth Prawf - byddant hefyd
yn cynnwys integreiddio’r carchardai / gwasanaeth prawf.
Cyfrifoldebau,
Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r
Gweithgareddau a
dyletswyddau canlynol:
Dyletswyddau
Datblygu partneriaethau a rhanddeiliaid
• Darparu mewnwelediad strategol allweddol, i alluogi briffio gweinidogion ar
roi newid ar waith ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol
• Arwain ar waith NPS i ddatblygu dull proffesiynol i reoli rhwydweithiau a
rhanddeiliaid allweddol er mwyn darparu mecanwaith cyflawni allweddol ar
gyfer NPS a’i berthnasau gyda Phartneriaid
• Ymgymryd â rôl awduro a chomisiynu i sefydlu partneriaethau newydd ac
effeithiol ar gyfer NPS
• Datblygu dull ar gyfer rheoli perthnasau ar gyfer NPS, yn unol â dulliau
HMPPS
• Arbrofi gyda syniadau a phrosesau newydd ar gyfer rheoli perthnasau ar
draws NPS
• Cydlynu datblygiadau Rhanbarthau eraill yng nghyswllt rheoli perthnasau
• Cydlynu mewnbwn NPS i brosesau a systemau traws-Whitehall.
Gweithredu rheoli newid cysylltiol
• Cynllunio a dylunio’r newid sydd ei angen i wneud partneriaethau gyda
phartneriaid cyflawni mor effeithiol ag sy’n bosibl
• Cydlynu mewnbwn gweithredol i brosiectau’r Pencadlys i wella rhyngwynebu
rhwng rhanddeiliaid a phartneriaid.
Cyfathrebu’n effeithiol
• Darparu gwybodaeth, adborth a chyngor
• Dylanwadu a pherswadio
• Defnyddio sgiliau, arddulliau a dulliau priodol.
Gwella eich perfformiad eich hun
• Rheoli adnoddau a datblygiad proffesiynol eich hun.
NPS-JES-0026_Band 5 Partnership and Stakeholder Lead_v2.0
Defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau allweddol
• Cysylltu â staff i gael, i goladu ac i ddadansoddi gwybodaeth, drwy ddatblygu
systemau a llunio adroddiadau yn ôl yr angen
• Datblygu a defnyddio data i adnabod patrymau a thueddiadau a gweithredu’n
briodol i gynnal a gwella perfformiad
• Cynllunio, gweithredu a rheoli systemau o ran cyfnewid gwybodaeth, data a
chudd-wybodaeth sensitif.
Rheoli amrywiaeth ac ansawdd
• Cyfrannu at ddiwylliant o systemau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn
gwerthfawrogi amrywiaeth
• Rhoi polisïau amrywiaeth y gwasanaeth ar waith a chydweithio’n effeithiol â’r
Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar
hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn
addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn
angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y
swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â Deiliad y
Swydd yn y lle cyntaf.
Ymddygiadau
• Rheoli Gwasanaeth o Safon
• Cydweithio
• Newid a Gwella
• Gweld y Darlun Mawr
• Arweinyddiaeth
• Cyfathrebu a Dylanwadu
Cryfderau
Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8
Profiad hanfodol
• Profiad o reoli rhanddeiliaid
• Profiad o weithredu prosiectau newid yn llwyddiannus
• Profiad gweithredol o weithio o fewn cyd-destun Prawf.
Anghenion technegol
NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc perthnasol (neu brofiad ymarferol
perthnasol)
Microsoft: Word, Excel, Outlook, a PowerPoint
Gallu
Cymwysterau Gofynnol
• Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd
cyn iddynt gychwyn swydd
• Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd
rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi
cwblhau cyfnod prawf i HMPPS.
• Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n
cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.
Oriau Gwaith (Oriau
Anghymdeithasol) a
Lwfansau
NPS-JES-0026_Band 5 Partnership and Stakeholder Lead_v2.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Ymddygiadau
Gallu
Profiad
Technegol
Argymhellir dewis
cryfderau yn lleol,
awgrymir 4-8
NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth
.
Rheoli Gwasanaeth o Safon
Profiad o reoli rhanddeiliaid
mewn pwnc perthnasol (neu brofiad
ymarferol perthnasol)
Sgiliau TG; Microsoft: Word,
Profiad o weithredu prosiectau
Cydweithio
Access, Excel, Outlook, a PowerPoint
newid yn llwyddiannus
(neu raglen gyfwerth, e.e. Lotus Notes_
Profiad gweithredol o weithio o
Newid a Gwella
fewn cyd-destun Prawf
Gweld y Darlun Mawr
Arweinyddiaeth
Cyfathrebu a Dylanwadu
NPS-JES-0026_Band 5 Partnership and Stakeholder Lead_v2.0