Swydd Ddisgrifiad (SDd)

Band 4

Proffil Grŵp: Hwylusydd (F)

Swydd Ddisgrifiad: F: Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth Cyngor ac Arweiniad Cymru






Cyfeirnod y Ddogfen Math o Ddogfen Fersiwn

Dosbarthiad Dyddiad Cyflwyno

Statws Cynhyrchwyd gan

Awdurdodwyd gan Tystiolaeth ar gyfer Swydd Ddisgrifiad







OR-JES-582-JD-B4 : F: Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth Cyngor ac Arweiniad Cymru v8.0

Rheolaeth

4.0

Swyddogol

8 Awst 2024

Gwaelodlin


Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd



Y Tîm Gwobrwyo












OR-JES-582-JD-B4 : F: Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth Cyngor ac Arweiniad Cymru v8.0

Swydd Ddisgrifiad



Teitl Swydd

F: Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth Cyngor ac Arweiniad Cymru

Proffil Grŵp

Hwylusydd

Lefel yn y Sefydliad

Cyflawni

Band

4












Trosolwg o’r swydd

Mae hon yn swydd sy’n ymwneud â charcharorion mewn sefydliad yng Nghymru.

Crynodeb

Bydd y deiliad swydd yn gyfrifol am roi cyngor ac arweiniad i garcharorion ar gyfleoedd sgiliau dysgu a chyflogaeth sydd ar gael. Mae’n cyfrannu at gynllunio dedfryd a lleihau aildroseddu.

Mae hon yn swydd anweithredol heb unrhyw gyfrifoldebau rheolwr llinell neu gyfrifoldebau goruchwylio. Nid yw’r swydd hon yn cylchdroi.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Darparu proses Cyngor ac Arweiniad cynhwysfawr i

garcharorion o fewn y sefydliad.

  • Mynychu’r Bwrdd Dyrannu Gweithgaredd i fonitro a

blaenoriaethu dyraniad gweithgaredd yn ôl anghenion unigol y carcharorion.

  • Hyrwyddo cyfleoedd addysg a hyfforddiant drwy’r

sefydliad.

  • Cynorthwyo Rheolwyr Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth i sicrhau

bod carcharorion wedi cofrestru ar y cyrsiau cywir sy’n briodol i’w hanghenion.

  • Prosesu ceisiadau dysgu agored a Phrifysgol Agored.

Hwyluso a chynghori ar gyllid a chwblhau gwaith papur mynychu.

  • Cysylltu gyda holl feysydd gwaith yn y sefydliad i

gydlynu hyfforddiant cynefino dysgu a sgiliau sy’n weddill.

  • Cefnogi cyflawniad y Sgiliau Dysgu a

Chyflogaeth. Dangosyddion Darparu Gwasanaeth drwy fynychu’r sesiynau ailsefydlu penodedig a’r bwrdd rhyddhau.

  • Ymchwilio cyrsiau mewnol neu allanol priodol gan gasglu gwybodaeth ar feini prawf mynediad a chost i ddarparu

gwybodaeth i garcharorion.

  • Cynorthwyo a chefnogi carcharorion, eu cyfeirio i

gyfleoedd addysg a hyfforddiant priodol; mewnol ac allanol.

  • Monitro asesiadau cynefino a’u dilyn fel bo’n

briodol.

  • Monitro a gwerthuso darpariaeth arweiniad a chyngor a

llunio adroddiad misol ar berfformiad a gwneud argymhellion ar gyfer gwella.

  • Cysylltu gyda chydweithwyr rheoli troseddwyr i

gyfrannu at gynllunio dedfryd.














































OR-JES-582-JD-B4 : F: Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth Cyngor ac Arweiniad Cymru v8.0


  • Cynnal cofnodion carcharorion priodol, darparu ystadegau

a llunio adroddiadau ysgrifenedig.

  • Cyfrannu at y system Cymhellion a Breintiau a Enillwyd (IEP) pan fo’r angen.

  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd tîm a

chyfarfodydd allanol fel bo’r angen.

  • Cynllunio a hwyluso cyfarfod â mentoriaid.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae’n bosib y bydd angen ystyried addasiadau sylweddol o dan y Cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan leolir y swydd yng Nghymru) Cymraeg.























Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil



Ymddygiadau

  • Cyfathrebu a dylanwadu

  • Arweinyddiaeth

  • Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Cydweithio

Cryfderau

Rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol.

Profiad


Gofynion Technegol

Bydd yn ofynnol meddu ar neu weithio tuag at gymhwyster Cyngor ac Arweiniad cydnabyddedig hyd at o leiaf lefel 3.

Gallu

Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
















Cymwysterau Gofynnol

Peidiwch â newid y blwch hwn

· Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

· Bydd pob ymgeisydd allanol yn gorfod cwblhau cyfnod

prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf o fewn HMPPS.

· Mae’n ofynnol i holl staff ddatgan pa un a ydynt yn aelod o

grŵp neu sefydliad mae HMPPS yn ei ystyried yn hiliol.















Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

37 awr yr wythnos.












OR-JES-582-JD-B4 : F: Dysgu Sgiliau a Chyflogaeth Cyngor ac Arweiniad Cymru v8