Swydd Ddisgrifiad (SDd) - Y Gwasanaeth Prawf (PS)

Band 4 PS

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf

Swydd Ddisgrifiad: Swyddog Prawf


Cyfeirnod y Ddogfen

PS-JES-0032 Probation Officer v8.0

Math o Ddogfen

Rheolaeth

Fersiwn

8.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyflwyno

24 Chwefror 2023

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad - PS

Teitl y Swydd

Swyddog Prawf

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf

Band

4

Trosolwg o’r swydd

Bydd deiliaid y swydd yn ymgymryd â’r ystod llawn o dasgau rheoli troseddwyr gyda phobl ar brawf sydd dan oruchwyliaeth, yn cynnwys asesu, gweithredu dedfrydau, a chynhyrchu adroddiadau; gan ddefnyddio gweithdrefnau cyflwyno a chyfarwyddiadau ymarfer i danategu barn broffesiynol.

Crynodeb

Asesu a rheoli’r risg a berir gan bobl ar brawf a diogelu dioddefwyr troseddau a’r cyhoedd yn gyffredinol trwy:

  • Darparu gwybodaeth a chyngor i lysoedd troseddol, asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill ac asiantaethau partner.

  • Goruchwylio pobl ar brawf sy’n destun gorchmynion cymunedol a thrwyddedau ac yn ystod dedfrydau o garchar.

  • Cyfrannu at reoli risg.

  • Gweithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i atal troseddu a bodloni anghenion dioddefwyr a phobl ar brawf.

Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y PS, bydd rhaid i ddeiliad y swydd arddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant bob amser a deall sut maent yn berthnasol i’r gwaith mae’n ei wneud.

Rhaid i ddeiliad y swydd lynu at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Efallai y bydd yn ofynnol i Swyddogion Prawf ymgymryd ag unrhyw gyfuniad, neu bob un, o’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a nodir isod.

  • Darparu cyngor ac asesu proffesiynol, gan gynnwys adroddiadau ysgrifenedig i’r llysoedd, y Bwrdd Parôl, asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a sefydliadau partner.

  • Ymgymryd â’r ystod llawn o dasgau rheoli troseddwyr gyda bobl ar brawf sydd wedi’u hasesu ar bob lefel risg o niwed difrifol, yn cynnwys uchel ac uchel iawn.

  • Defnyddio systemau cyfrifiadurol i gynhyrchu, diweddaru a chynnal cofnodion a dogfennaeth arall o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

  • Sicrhau cyfeiriadau amserol ac effeithiol i, a pherthnasau rhwng, rheoli troseddwyr, timau’r llysoedd, uned cyswllt dioddefwyr, ymyriadau, Eiddo Cymeradwy, carchardai ac asiantaethau allanol, i wella canlyniadau positif, rheoli risg a lleihau aildroseddu.

  • Mynychu cyfarfodydd proffesiynol a chynrychioli’r Gwasanaeth Prawf mewn fforymau partneriaeth priodol e.e. MAPPA. MARAC.

  • Gweithio ar y cyd gyda chydweithwyr, cynnal perthnasau effeithiol o fewn y tîm, a darparu arweiniad a chymorth proffesiynol i Swyddogion y Gwasanaeth Prawf (PSOs) a staff eraill, fel sy’n briodol.

  • Gweithio i gynorthwyo eraill yn eich tîm neu dimau eraill yn ôl y gofyn.

  • Cynnal ymweliadau yn y carchar, yn y cartref neu leoliadau amgen eraill yn ôl y gofyn.

  • Cyflwyno a chyd-arwain rhaglenni achrededig sy'n gymesur â’ch gradd.

  • Cynnal profion alcohol a chyffuriau gorfodol yn ôl y gofyn a dilyn gweithdrefnau meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

  • Ymgymryd â dyletswyddau diogelu plant yn unol â chyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth Prawf a pholisïau asiantaethau.

  • Dangos sgiliau modelu cymdeithasgar drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau cymdeithasgar yn gyson a herio ymddygiad ac agweddau gwrthgymdeithasol

  • Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd PS a HMPPS.


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Bydd rhaid gallu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan bennir yng Nghymru) Cymraeg.

Ymddygiadau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Newid a Gwella

  • Cydweithio

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Cyfathrebu a dylanwadu

Cryfderau

Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8

Profiad hanfodol

  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl sydd wedi profi ystod eang o anawsterau cymdeithasol/personol.

  • Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol, gan gynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

  • Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gydraddoldeb.

  • Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad troseddu.

  • Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi cyflawni troseddau.

Gofynion technegol

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Swyddog Prawf neu fod yn Swyddog Prawf Cymwys. Hefyd, rhaid bod ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar y canlynol:

  • Gradd Anrhydedd/Diploma Graddedig PQF a Diploma Lefel 5 mewn Ymarfer

Prawf; neu

  • Diploma mewn Astudiaethau Prawf; neu Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (opsiwn prawf); neu CQSW (opsiwn prawf).

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y System Cyfiawnder Troseddol a’r Gwasanaeth Prawf.

  • Gwybodaeth sylfaenol am y ddeddfwriaeth berthnasol a Safonau Cenedlaethol.

  • Gwybodaeth am Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu anghenion/risg.

Gallu

Cymwysterau Gofynnol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf i HMPPS.

  • Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

a Lwfansau

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl sydd wedi profi ystod eang o anawsterau cymdeithasol/personol

Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Swyddog Prawf neu fod yn Swyddog Prawf Cymwys

Newid a gwella

Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol, gan gynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Gradd Anrhydedd/Diploma Graddedig PQF

a Diploma Lefel 5 mewn

Ymarfer Prawf; neu Diploma mewn

Astudiaethau Prawf; neu Diploma mewn

Gwaith Cymdeithasol (opsiwn prawf); neu

CQSW (opsiwn Prawf)

Cydweithio

Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gydraddoldeb

Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y System Cyfiawnder Troseddol a’r Gwasanaeth Prawf

Cyflawni’n Gyflym

Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad troseddu

Gwybodaeth am Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu anghenion/risg.

Cyfathrebu a dylanwadu

Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi cyflawni troseddau

Gwybodaeth sylfaenol am y ddeddfwriaeth berthnasol a Safonau Cenedlaethol

PS-JES-0032 Probation Officer v8.0

PS-JES-0032 Probation Officer v8.0