Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Band 3 y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Disgrifiad Swydd: Cydlynydd Lleoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned



Cyfeirnod y Ddogfen

NPS-JES-0098 Cydlynydd Lleoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned f2.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

3.0

Dosbarthiad

Swyddogol - Sensitif

Dyddiad Cyhoeddi

9 Ionawr 2024

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y DS







Hanes Newid

Dyddiad

Fersiwn

Natur y Newid

Golygwyd gan

Adrannau yr Effeithir Arnynt

12.11.20

0.1

Disgrifiadau Swydd CRC Cyfun

GS

pob un

21.12.20

0.2

Yn dilyn Grwpiau ffocws staff

GS

pob un

6.1.21

0.3

Adolygiad tîm dylunio

GS

pob un

12.01.20

0.4

Sylwadau JES

JH

Pob un

13.1.21

0.5

Adolygiad DD

GS

Pob un

18.05.21

1.0

Disgrifiad swydd - fformat newydd, gwaelodlin

CMB

Pob un

09.01.24

2.0

‘Cynhyrchwyd gan’ ac ‘Awdurdodwyd gan’ ar y dudalen flaen wedi’i diwygio i fformat safonol i atal ymholiadau wrth recriwtio.

MS

Tudalen Flaen

20.11.24

3.0

Newidiadau i’r Proffil Llwyddiant


Proffil Llwyddiant








Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Teitl y Swydd

Cydlynydd Lleoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Band

Band 3


Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn rôl sydd â phroffil uchel yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, ac mae’n gyfrifol am sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau partner, cwsmeriaid a rhanddeiliaid nawr ac yn y dyfodol. Bydd yn golygu gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau gwirfoddol a statudol.


Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod digon o leoliadau gwaith ar gael sy’n bodloni’r safonau ansawdd a nodir yn y Canllawiau Gwneud Iawn â’r Gymuned er mwyn gallu cyflawni dedfryd y Llys yn effeithiol.


Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Rheolwr Gwneud Iawn â’r Gymuned i sicrhau bod yr holl leoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned yn bodloni amcanion polisi’r sefydliad ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.


Mae’n bosibl y bydd angen i ddeiliad y swydd weithio ar benwythnosau fel rhan o’r patrwm gwaith arferol.



Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn nodi ac yn sefydlu prosiectau gwaith yn y gymuned sy’n bodloni gofynion y Llawlyfr Gwneud Iawn â’r Gymuned. Mae hyn yn cynnwys monitro ac adolygu’r prosiectau presennol.


Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau iechyd a diogelwch perthnasol o leoliadau gwaith ac yn sicrhau y cydymffurfir â pholisi a deddfwriaeth iechyd a diogelwch y sefydliad.


Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio trefn ymsefydlu’r lleoliad, gan ddiffinio tasgau ac arferion gweithio diogel yn ogystal â dyrannu a defnyddio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol yn briodol.



Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau



  • Canfod ac asesu ystod eang o leoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned addas, gan gynnwys y rhai sy’n darparu cyfle ar gyfer hyfforddiant i ddefnyddwyr gwasanaeth a chyflogaeth i’r dyfodol a lleoliadau sy'n briodol ar gyfer pobl sydd â nodweddion gwarchodedig

  • Asesu hyfywedd y cyfleoedd i gynhyrchu incwm mewn lleoliadau newydd, trafod gyda buddiolwyr a rheoli’r broses er mwyn manteisio i’r eithaf ar y potensial hwn

  • Cwblhau atodlen o arferion gweithio diogel ar gyfer y gwaith a chreu ffeil prosiectau yn unol â safonau Iechyd a Diogelwch.

  • Hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol gyda buddiolwyr/ rhanddeiliaid; gan gynnwys cyfarfodydd ac ymweliadau safle yn ôl yr angen i reoli cysylltiadau â chwsmeriaid/rhanddeiliaid a hyrwyddo canfyddiad cadarnhaol o’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol â rhwydweithiau cymunedol.

  • Sicrhau y cynhelir amgylchedd gwaith diogel i staff, defnyddwyr gwasanaeth a buddiolwyr ar bob safle gwaith Gwneud Iawn â’r Gymuned yn unol â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a pholisi’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol .


  • Sicrhau bod lleoliadau’n parhau i gydymffurfio â’r gofynion ansawdd, a chymryd camau yn ôl yr angen i wella neu derfynu lleoliadau lle nad oes modd bodloni’r safonau ansawdd.

  • Bod yn gyfrifol am gydlynu offer, cyfarpar, dillad a chyfarpar diogelu personol priodol ynghyd ag adnoddau eraill a ddefnyddir yn ystod lleoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned, a sicrhau bod yr holl gyfarpar yn cydymffurfio â’r gofynion Iechyd a Diogelwch a bod defnyddwyr yn gwybod sut i ddefnyddio’r cyfarpar yn ddiogel.

  • Sicrhau bod Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch perthnasol yn cael ei ddarparu i staff mewn ymateb i anghenion ad hoc yn ogystal â’r hyn sy'n ofynnol gan y cynllun darparu gwasanaeth.

  • Cefnogi ymchwiliadau i ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch a sicrhau bod digwyddiadau difrifol, gan gynnwys damweiniau fu bron â digwydd, yn cael eu hadrodd a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu o fewn y tîm.

  • Cefnogi dulliau electronig, cyfryngau cymdeithasol a dulliau arloesol eraill o dderbyn enwebiadau ar gyfer lleoliadau newydd gan y cyhoedd, ynghyd â hyrwyddo Gwneud Iawn â’r Gymuned, o fewn canllawiau’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

  • Cysylltu ag ymarferwyr prawf yn ôl yr angen i gyfnewid gwybodaeth a chynnal trefniadau gweithio priodol.

  • Cymryd rhan mewn rota ar gyfer cynllunio, cyflwyno ac adolygu trefn ymsefydlu'r defnyddwyr gwasanaeth.

  • Recriwtio, cefnogi a chydlynu Mentoriaid a fydd yn annog defnyddwyr gwasanaeth i gydymffurfio, ymgysylltu a chael mynediad at rwydweithiau cefnogi lleol.

  • Ymgymryd â rôl goruchwylydd Gwneud Iawn â'r Gymuned lle bo angen er mwyn osgoi canslo lleoliadau gwaith am resymau gweithredol.

  • Cyfrannu at hyfforddi goruchwylwyr a buddiolwyr Gwneud Iawn â'r Gymuned, fel sy’n briodol


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.


Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.

Ymddygiadau

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cydweithio

Cyfathrebu a Dylanwadu

Cyflawni'n Gyflym

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol



Cryfderau

Sylwch: rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol - dewiswch o’r rhestr o ddiffiniadau cryfderau’r Gwasanaeth Sifil ar y fewnrwyd

Profiad Hanfodol

  • Trwydded Yrru y DU Heb fod yn Awtomatig

  • Tystiolaeth o weithio fel rhan o dîm, rhannu arferion da, gwybodaeth am rwydweithiau cymunedol a’r sgiliau i hyrwyddo ethos tîm cryf.

  • Enghreifftiau o gynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol gydag ystod o randdeiliaid (sefydliadau sy'n elwa) a chynrychioli’r sefydliadau mewn cyfarfodydd a Fforymau.

  • Profiad o gynnal adolygiadau yn y gweithle i wneud penderfyniadau ynghylch cydymffurfio â safonau ansawdd

Gofynion technegol

  • Iechyd a Diogelwch Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) Lefel 3 neu gymhwyster Rheoli’n Ddiogel

  • Gallu gyrru bws mini D1 ac ôl-gerbyd

  • Wedi cymhwyso fel asesydd ar gyfer dyfarniadau NVQ ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth e.e. y Rhwydwaith Coleg Agored

Gallu



Cymhwysedd Sylfaenol

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis.  Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad y mae HMPPS yn ystyried eu bod yn hiliol.


Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

I’w adael yn wag

I’w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi yn unig



Ymddygiadau

Cryfderau

D.S. Canllaw yn unig yw’r isod. Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Dadansoddol


Trwydded Yrru y DU Heb fod yn Awtomatig


(IOSH) Lefel 3 neu gymhwyster Rheoli’n Ddiogel

Cydweithio

Cenhadaeth


Enghreifftiau o gynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol gydag ystod o randdeiliaid (sefydliadau sy'n elwa)

Gallu gyrru bws mini D1 ac ôl-gerbyd

Cyfathrebu a Dylanwadu

Trefnydd


Enghreifftiau o gynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol gydag ystod o randdeiliaid (sefydliadau sy'n elwa)

Wedi cymhwyso fel asesydd ar gyfer dyfarniadau NVQ ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth e.e. y Rhwydwaith Coleg Agored

Cyflawni'n Gyflym

Gallu Datrys Problemau


Tystiolaeth o weithio fel rhan o dîm, rhannu arferion da, gwybodaeth am rwydweithiau cymunedol a’r sgiliau i hyrwyddo ethos tîm cryf



Gwneud Penderfyniadau Effeithiol





Proffil Llwyddiant

NPS-JES-0098 Cydlynydd Lleoliadau Gwneud Iawn â’r Gymuned f2.0