Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf

Band 2 y Gwasanaeth Prawf

Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Prawf

Disgrifiad Swydd: Gweinyddwr Achosion



Cyfeirnod y Ddogfen

PS-JES-0030 Gweinyddwr Achosion f5.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

6.0

Dosbarthiad

Swyddogol - Sensitif

Dyddiad Cyhoeddi

8.2.23

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y DS














Hanes Newid

Dyddiad

Fersiwn

Natur y Newid

Golygwyd gan

Adrannau yr Effeithir Arnynt

24.4.14

0.1

Fersiwn drafft cychwynnol

SM

Pob un


1.0

Disgrifiad Swydd Gwaelodlin

Tîm JEA

Pob un

14/9/15

1.2

Drafft ar gyfer E3

GOB

pob un

25/9/15

1.3

Newidiadau gan YM

GOB

pob un

14/10/15

1.4

Newidiadau gan JN

GOB

pob un

14/10/15

1.5

Newidiadau ar ôl adolygiad ODT

GOB

pob un

16/10/15

1.6

Newidiadau i’r fformatio

GOB

pob un

22/10/15

1.7

Newidiadau yn dilyn adborth gan NOMS

GOB

Crynodeb, RAD

26/10/15

1.8

Newidiadau yn dilyn digwyddiad ymgysylltu â staff

GOB

RAD

15/12/15

1.9

Cais E3 (YM) i ychwanegu llinell am ddiogelu i’r RADs

Tîm JEA

RADs

16/12/15

1.9.1

E3 (LM) wedi newid y llinell diogelu i’w disodli yn y RADs

Tîm JEA

RADs

21/12/15

2.0

Gwaelodlin gan nodi canlyniad JE

Tîm JEA

Pob un

22/16/16

3.0

Wedi diweddaru’r Disgrifiad Swydd yn unol â pholisi ELR

Tîm JEA

Pob un

09/07/2019

4.0

Proffiliau Llwyddiant

LN

Pob un

03/02/23

4.1

Wedi diweddaru’r iaith

Sheridan Percival

Pob un

08/02/23

5.0

Disgrifiad swydd - fformat newydd, gwaelodlin

AL

Pob un

20/11/24

6.0

Proffiliau Llwyddiant




































Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf

Teitl y Swydd

Gweinyddwr Achosion

Cyfarwyddiaeth

Gwasanaeth Prawf

Band

2



Trosolwg o'r swydd

Swydd weinyddol yw hon, o fewn y Gwasanaeth Prawf.



Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth weinyddol o fewn y Gwasanaeth Prawf, gan sicrhau bod staff a phobl ar brawf yn cael eu cefnogi drwy brosesau effeithlon ac yn cynnal systemau gweinyddol o fewn amserlenni penodol er mwyn hyrwyddo’r gwaith o gyflawni amcanion y tîm a’r Is-adran.


Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Gwasanaeth Prawf, rhaid i ddeiliad y swydd bob amser ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant, a dealltwriaeth o berthnasedd y rhain i’w waith.

Gall y swydd hon gynnwys rhywfaint o waith y tu allan i oriau.


Rhaid i ddeiliad y swydd lynu wrth yr holl bolisïau mewn perthynas â natur sensitif/cyfrinachol yr wybodaeth y bydd yn delio â hi tra bydd yn gweithio yn y swydd hon.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau


Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:


  • Bod yn gyfrifol am greu a chynnal gwybodaeth gywir am bobl ar brawf ac am ddioddefwyr ar gronfeydd data cymeradwy perthnasol.

  • Sicrhau bod atgyfeiriadau at - yn ogystal â’r berthynas rhwng - rheoli troseddwyr, dioddefwyr, ymyriadau, darparwyr gwasanaeth ac asiantaethau a phartneriaethau allanol yn cael eu gweinyddu’n effeithiol er mwyn gwella canlyniadau cadarnhaol, rheoli risg a lleihau aildroseddu.

  • Paratoi, cynnal a choladu achosion a chofnodion eraill, ffeiliau, a gwybodaeth rheoli yn unol â’r safonau gofynnol.

  • Derbyn a dosbarthu gwybodaeth a gohebiaeth mewn ffordd briodol, ee ffôn, papur, e-bost.

  • Bod ar gael i ofalu am wasanaeth ymholiadau ffôn a derbynfa effeithiol ac effeithlon.

  • Gweithredu fel un pwynt cyswllt o fewn yr uned ar gyfer maes gwaith arbenigol yn ôl yr angen.

  • Delio’n deg, yn effeithiol ac yn gadarn gydag amrywiaeth o bobl ar brawf. Gallai rhai ohonynt fod mewn argyfwng, trallod neu fe allent ymddwyn yn amhriodol neu’n ymosodol, a cheisio cael cefnogaeth briodol yn unol â’r amgylchiadau a gweithdrefnau’r swyddfa.

  • Gwneud trefniadau ymarferol megis apwyntiadau, cyfarwyddiadau ac ati, ar gyfer gweithredu’r Cynllun Dedfrydu.

  • Gweinyddu gorfodaeth yn ôl yr angen.

  • Pan fo angen, rhoi arian mân/talebau/gwarantau ar gyfer costau teithio ac ati, gan gadw cofnodion priodol yn unol â gweithdrefnau ariannol y swyddfa leol.

  • Trefnu bod offer, deunyddiau a chyfleusterau priodol ar gael ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â rheoli achosion.

  • Rhoi gwybod i’r Rheolwr am offer a/neu ddeunyddiau diffygiol a threfnu i’w trwsio/newid fel y cytunwyd.

  • Cynnal systemau priodol er mwyn sicrhau bod adnoddau cyffredinol yr uned yn cael eu defnyddio’n effeithiol, a gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn ôl yr angen.

  • Ymgymryd â thasgau gweinyddol Visor penodol yn unol â’r gweithdrefnau.

  • Mynychu cyfarfodydd fel y bo’n briodol. Darparu cefnogaeth i gyfarfodydd yn ôl yr angen gan gynnwys trefnu agenda, cadw nodiadau/cofnodion a phwyntiau gweithredu a'u dosbarthu.

  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cael eu cynnal yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, a chynnal profion offer yn ôl yr angen.

  • Bod ar gael i ofalu am yr uned ac unedau eraill yn yr Uned Cyflawni Lleol a’r Is-adran fel y bo’n briodol.

  • Cyflawni dyletswyddau diogelu plant yn unol â pholisïau asiantaeth a chyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth Prawf.

  • Dangos sgiliau modelu rhag-gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau rhag-gymdeithasol a herio ymddygiad ac agweddau gwrth-gymdeithasol yn gyson.

  • Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd y Gwasanaeth Prawf a HMPPS.


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.


Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.

Ymddygiadau

  • Cyflawni'n Gyflym

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

Cryfderau

Sylwch: rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol - dewiswch o’r rhestr o ddiffiniadau cryfderau’r Gwasanaeth Sifil ar y fewnrwyd


Gallu

  • Gallu defnyddio cronfeydd data

  • Sgiliau bysellfwrdd a TG da gan gynnwys y gallu i ddefnyddio MS Office Word, a sgiliau sylfaenol yn Excel

  • Meddu ar sgiliau rhifol sylfaenol

Profiad

  • Defnyddio meddalwedd prosesu geiriau a thaenlenni

  • Sgiliau cyfathrebu (ar lafar ac ar bapur) a gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o unigolion

  • Y profiad a’r gallu i weithio'n annibynnol

Technegol



Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn


  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis.  Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad y mae HMPPS yn ystyried eu bod yn hiliol.


Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)




Proffil Llwyddiant



Ymddygiadau

Cryfderau

D.S. Canllaw yn unig yw’r isod

Gallu

Profiad

Technegol



Cyflawni'n Gyflym

Hyblyg

Gallu defnyddio cronfeydd data


Sgiliau cyfathrebu (ar lafar ac ar bapur) a gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o unigolion



Cyfathrebu a Dylanwadu

Emosiynol Ddeallus

Sgiliau bysellfwrdd a TG da gan gynnwys y gallu i ddefnyddio MS Office Word, a sgiliau sylfaenol yn Excel


Y profiad a’r gallu i weithio'n annibynnol


Cydweithio

Cadarn

Meddu ar sgiliau rhifol sylfaenol

Defnyddio meddalwedd prosesu geiriau a thaenlenni



Managing a Quality Service

Relationship Builder




Choose an item.

Choose an item.




Choose an item.

Choose an item.




Choose an item.

Choose an item.









PS-JES-0030 Gweinyddwr Achosion f5.0