Disgrifiad Swydd


Teitl Swydd: Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol


Gradd 7


Tîm/Cyfarwyddiaeth: Pobl a Galluoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Partneriaethau Busnes Adnoddau Dynol (HMPPS)


Crynodeb o’r rôl:


Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am bopeth sy’n ymwneud â rhedeg systemau cyfiawnder sifil a throseddol y DU, gan greu’r sylfeini ar gyfer cymdeithas ddiogel, deg a ffyniannus. Rydym yn un o adrannau mwyaf y llywodraeth, gyda dros 88,000 o staff wedi'u lleoli ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am 500 o lysoedd a thribiwnlysoedd, 122 o garchardai, y polisïau sy’n sail i’r system a llawer mwy.


Mae tîm Pobl a Galluoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cefnogi'r sefydliad drwy alluogi ei bobl i fod y gorau y gallant fod. Byddwn yn adolygu ac yn gwella'r gwasanaethau a ddarparwn yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o safon uchel i'n cwsmeriaid. Mae gan dîm Pobl a Galluoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros 1,400 o weithwyr proffesiynol ymroddedig a galluog sy'n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â phobl ar draws y teulu Cyfiawnder. Ein pobl sydd wrth galon y gwaith o ddarparu'r gwasanaethau hyn.


Bydd Partneriaid Busnes AD yn gweithio'n agos gydag Uwch Arweinwyr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu strategaethau busnes drwy Ymgynghori ac Ymyrryd ym maes AD ar faterion sy'n ymwneud â phobl, gan gyflawni rhaglenni a chynlluniau newid yn llwyddiannus drwy ddulliau newid Pobl cynhwysfawr.


Mae'r swydd hon yn dod o fewn y Tîm Partneriaethau Busnes Adnoddau Dynol (HMPPS), a bydd yn cefnogi nifer o Gyfarwyddwyr ar draws y Grŵp Carchardai, y Gwasanaeth Prawf neu'r Pencadlys a'u huwch dimau arwain yn HMPPS.

Gan weithio o fewn y tîm Partneriaethau Busnes Adnoddau Dynol (HRBP) dan arweiniad dau Gyfarwyddwr Adrannol ar gyfer HMPPS, byddwch yn atebol i Arweinydd Ardal HRBP Gradd 6.


Byddwch yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau cynhyrchiol gydag uwch dimau arwain perthnasol, gan alluogi blaenoriaethau a strategaethau busnes i gael eu trosi'n agenda gydlynol ar gyfer pobl gydag ymyriadau penodol.


Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr a'u Huwch Dîm Arwain i ddylunio a darparu ymyriadau AD wedi'u teilwra’n benodol i sbarduno gwelliannau o ran arweinyddiaeth effeithiol, rheoli pobl, dylunio a datblygu sefydliadol, rheoli newid a strategaeth y gweithlu.


Mae'r angen i fod yn weithiwr AD proffesiynol da, gyda'r gallu i sefydlu perthnasoedd o safon, yn allweddol i'r rôl hon. Gan weithio ar draws tîm Adnoddau Dynol y gwasanaethau rhanbarthol / arbenigol, y rôl hon yw'r prif gyswllt ar gyfer uwch randdeiliaid. Mae ei llwyddiant yn dibynnu ar gryfder a chefnogaeth gweddill y Partneriaethau Busnes Adnoddau Dynol (HMPPS) a thimau Pobl a Galluoedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy'r Cydwasanaethau a'r Gwasanaethau Arbenigol, felly bydd angen i'r unigolyn allu cyflawni drwy eraill.


Byddwch yn:




Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau:


Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddwyn ynghyd y blaenoriaethau sy'n ymwneud â phobl ar gyfer eu maes busnes ar lefel cyfarwyddwr, gan weithio mewn partneriaeth gyda rhwng un a thri Chyfarwyddwr a'u huwch dimau arwain, yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw natur y grŵp cwsmeriaid.


  1. Partneriaethau strategol: Cyfrannu at y sgwrs fusnes drwy gefnogi arweinwyr i sbarduno strategaethau pobl sy'n galluogi adrannau/Cyrff Hyd Braich i gyflawni eu hamcanion.


  1. Datrys: Rhoi mewnbwn strategol ar bynciau sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol a helpu arweinwyr i ddatblygu atebion effeithiol i broblemau sy’n ymwneud â phobl.


  1. Cysylltu: Helpu'r sefydliad i ddefnyddio gwasanaethau priodol y Grŵp Pobl a chymorth gwasanaethau a rennir.


  1. Hyfforddi: Hyfforddi arweinwyr ar sut i reoli materion sy’n ymwneud â phobl a gyrru’r agenda pobl yn ei blaen yn effeithiol.


Elfennau Cyflawni Allweddol:


Newid Busnes a Diwylliant



Adnoddau a Chadw



Gallu Arwain a Rheoli



Perthynas rhwng Cyflogeion


Ymgysylltu â Chyflogeion


Presenoldeb a Lles



Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant




Cymwysterau

Rhaid i chi fod wedi cwblhau a chael eich MCIPD Siartredig (neu fod â chymhwyster cyfatebol ym maes AD), a dangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu fod yn barod i ennill y cymhwyster o fewn 2 flynedd i’ch penodiad.



Lleoliad/Teithio:

Lleoliadau; JSO Caernarfon, Tŷ Churchill Caerdydd, JSO Hwlffordd, JSO Merthyr Tudful, JSO Casnewydd, JSO Abertawe, JSO Brynbuga a JSO Wrecsam.

Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio i unrhyw Weinyddiaeth Gyfiawnder/Carchar/Safle Prawf yng Nghymru.

Y broses ymgeisio:


Didoli


Ymddygiad:



Os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau, byddwn yn didoli’n bennaf ar ymddygiad arweiniol Gweld y Darlun Mawr. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedyn yn cael eu gwahodd i gyfweliad, a fydd yn profi eu hymddygiad a’u cryfderau.


Profiad - Datganiad Addasrwydd - Mewn 500 gair, amlinellwch y sgiliau a'r profiad sydd gennych sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl hon (cofiwch gyfeirio at y meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd).


Cyflwynwch gopi dienw o'ch CV os gwelwch yn dda.



Cyfweliad:


Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal o bell.