Swydd Ddisgrifiad (SD)
Band 4
Proffil Grŵp - Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol (SPI)
Swydd Ddisgrifiad - Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol:
Gwaith Coed a Saer Coed v120
Cyfeirnod y
OR-JES-439-JD-B4 : SPI : Woodwork Wood Assembly Joiner
Ddogfen:
v12.0
Math o Ddogfen
Rheoli
Fersiwn
12.0
Dosbarthiad
Swyddogol
Dyddiad Cyhoeddi
08/03/2021
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Dyfarnu
Tystiolaeth ar gyfer y Swydd Ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad
Teitl y Swydd
SPI : Gwaith Coed a Saer Coed v120
OR-JES-439-JD-B4 : SPI : Woodwork Wood Assembly Joiner v12.0
Proffil Grŵp
Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol
Lefel y Sefydliad
Cyflawni
Band
4
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd hyfforddi anweithredol mewn sefydliad.
Crynodeb
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth, gwybodaeth a sgiliau i
garcharorion mewn gweithdy arbenigol er mwyn iddyn nhw allu gwella eu
rhagolygon cyflogaeth ar ôl cael eu rhyddhau gyda golwg ar leihau aildroseddu. Bydd
deiliad y swydd yn sicrhau bod yr holl wasanaethau’n cael eu darparu i safon uchel a
bod diogelwch a rheolaeth yn cael eu cynnal bob amser. Bydd deiliad y swydd yn
gallu dysgu carcharorion tuag at ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn
genedlaethol a gall gael ei gefnogi gan sefydliadau allanol fel colegau lleol.
Nid yw’r Swydd Ddisgrifiad hwn i’w ddefnyddio gan ddeiliaid swyddi mewn gweithdai
cydosod/pacio sylfaenol, yn hytrach dylid defnyddio Hyfforddwr Cynhyrchu -
Mentrau. Fodd bynnag, ar sail tymor byr eithriadol, gall deiliaid swyddi oruchwylio
carcharorion mewn gweithdai mwy sylfaenol.
Mae hon yn swydd anweithredol heb unrhyw gyfrifoldebau rheolaeth linell.
Cyfrifoldebau,
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r
Gweithgareddau a
dyletswyddau canlynol:
Dyletswyddau
• Mae’n bosibl y bydd angen cymryd rhan yn y broses o ddewis carcharorion ar
gyfer y gweithdy/lle gwaith.
• Cynefino'r carcharorion yn y gweithdy/lle gwaith, a’u hyfforddi mewn agweddau
fel iechyd a diogelwch, COSHH (Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd), a
defnyddio peiriannau ac offer.
• Rhoi cymorth i'r carcharorion fel y bo'r angen; teilwra’r gofynion dysgu a hyfforddi
i anghenion yr unigolion.
• Trefnu amserlenni a rheoli targedau/safonau ansawdd, gan sicrhau bod
trefniadau cytundebol yn cael eu darparu.
• Asesu a gwerthuso sgiliau carcharorion hyd at safonau cymwysterau
cenedlaethol.
• Goruchwylio a chynnal disgyblaeth carcharorion yn y gweithdy/lle gwaith, gyda
chyfrifoldeb am berfformiad, cymhelliant, disgyblaeth, arfarnu a datblygu
carcharorion.
• Cyfathrebu’n gyson gan ddefnyddio rhwydwaith radio yn unol â’r Strategaeth
Ddiogelwch Leol (LSS)
• Agor a llenwi ffurflenni ACCT (Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm), VRIR
(Adroddiadau Digwyddiadau Lleihau Trais) ac Adroddiadau SIR (Gwybodaeth am
Ddiogelwch) fel y bo’r angen, a chyfrannu at adroddiadau IEP (Cymhellion a
Breintiau a Enillir).
• Byddan nhw’n cynnal sgan canfod metel neu’n chwilio’n frysiog am garcharorion
sy’n mynychu ac yn gadael eu gweithdai eu hunain.
• Darparu sicrwydd ansawdd o ran manylebau cynnyrch.
• Cofnodi presenoldeb a chymeradwyo’r oriau a weithiwyd gan garcharorion a
chyflogau, gan gynnwys cofnodi darnau gwaith lle bo hynny’n briodol
• Cynnal gwiriadau o ddeunyddiau ac offer yn y gweithdai, a sicrhau bod yr
ardaloedd yn ddiogel gan gofnodi unrhyw namau ar offer/cyfarpar. Cynnal
rhaglen cynnal a chadw ar beiriannau.
• Cyfrannu at adroddiadau ar garcharorion, gan gynnwys cynllunio dedfrydau a
pharôl.
OR-JES-439-JD-B4 : SPI : Woodwork Wood Assembly Joiner v12.0
• Cwblhau gwybodaeth fonitro’r gyfundrefn a diweddaru cofnodion hyfforddiant
carcharorion
• Cyfrannu at asesiadau risg Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â'r gweithdy/lle
gwaith a rhannau arbenigol.
• Gofyn am ddeunyddiau ac amcangyfrif defnydd er mwyn cyrraedd targedau
dysgu’r gwaith.
• Cychwyn adolygiadau datblygu cynnyrch er mwyn cynnal lefelau allbwn y
gweithdy/lle gwaith, a chynnig amrywiaeth o waith a phrofiadau i'r carcharorion.
• Cymryd rhan mewn hunanarchwiliadau ac yn y gwaith o gyflawni dangosyddion
SDI (Dangosyddion Darparu Gwasanaeth).
• Gwneud gwaith gweinyddol i gefnogi’r gweithdy i redeg yn llyfn.
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o
bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd
dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn
angenrheidiol. Efallai y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ail-
archwilio o dan y Cynllun Gwerthuso Swydd, a chaiff ei drafod yn y lle cyntaf â deiliad
y swydd.
Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus trwy gyfrwng y Saesneg neu'r
Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru).
Ymddygiad
•
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
•
Cyfathrebu a Dylanwadu
•
Gweithio gyda’n Gilydd
•
Rheoli Gwasanaeth o Safon
•
Datblygu eich Hun ac Eraill
Cryfderau
Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.
Profiad
•
Rhaid meddu ar brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd cynhyrchu
•
Mae’n well bod gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad goruchwylio.
•
Dylai fod â phrofiad o ddefnyddio peiriannau ac offer safonol diwydiannol.
Technegol
•
Yn meddu ar Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc Tecstilau
Gofynion
cysylltiedig, neu’n barod i weithio tuag ato
•
Gallu darllen, deall a gweithio o luniadau technegol
Gallu
•
Sgiliau Technoleg Gwybodaeth
•
Mathemateg Sylfaenol
•
Saesneg Sylfaenol
Meini Prawf Sylfaenol
Peidiwch â newid y blwch hwn
• Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn y
bydd yn cychwyn ar y swydd.
• Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd yn rhaid i
ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydyn nhw eisoes wedi cyflawni
cyfnod prawf o fewn Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM.
• Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydyn nhw’n aelod o grŵp neu fudiad sy’n cael ei
ystyried yn hiliol gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM.
Oriau Gwaith
Wythnos waith 37 awr (safonol).
(Oriau
Anghymdeithasol)
OR-JES-439-JD-B4 : SPI : Woodwork Wood Assembly Joiner v12.0
Lwfansau
Bydd y Rheolwr Recriwtio yn cadarnhau’r trefniadau Gweithio Oriau
Anghymdeithasol, a dim ond pan fydd hynny’n berthnasol y bydd tâl am hynny:
Gweithio Orau Anghymdeithasol:
Fel rhan o’r swydd hon bydd rhaid gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, a
byddwch yn cael taliad o 17% yn ychwanegol at eich tâl sylfaenol i gydnabod hynny.
Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau nad ydynt rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch
o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar
benwythnosau ac yn ystod gwyliau Banc/Cyhoeddus.
OR-JES-439-JD-B4 : SPI : Woodwork Wood Assembly Joiner v12.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Ymddygiad
Argymhellir bod y
Gallu
Profiad
Technegol
cryfderau’n cael eu
dewis yn lleol -
argymhellir 4-8
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Sgiliau Technoleg
Rhaid meddu ar brofiad gwaith
Yn meddu ar Lefel 3 neu gymhwyster
Gwybodaeth
perthnasol mewn amgylchedd
cyfatebol mewn pwnc Tecstilau
cynhyrchu
cysylltiedig, neu’n barod i weithio tuag
ato
Cyfathrebu a Dylanwadu
Mathemateg Sylfaenol
Mae’n well bod gan yr ymgeisydd Gallu darllen, deall a gweithio o luniadau
rywfaint o brofiad goruchwylio
technegol
Gweithio gyda’n Gilydd
Saesneg Sylfaenol
Dylai fod â phrofiad o ddefnyddio
peiriannau ac offer safonol
diwydiannol
Rheoli Gwasanaeth o Safon
Datblygu eich Hun ac Eraill
OR-JES-439-JD-B4 : SPI : Woodwork Wood Assembly Joiner v12.0