Arweinydd Tîm Gorfodaeth a Chasglu Dirwyon Troseddol
Pwy ydym ni?
Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn? Rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth i chi, gwnewch gais.
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Mae ymuno â ni yn gyfle i chwarae rhan ganolog yn y gwaith o redeg ein Llysoedd a'n Tribiwnlysoedd yn ddidrafferth, gan roi mynediad i bobl a busnesau at gyfiawnder a allai newid eu bywyd. Nid yn unig y bydd eich gwaith o bwys hanfodol i'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau, byddwch hefyd yn gallu datblygu gyrfa amrywiol, heriol a gwerth chweil.
Ynglŷn â Gorfodaeth a Chasglu Dirwyon Troseddol
Mae Gorfodaeth a Chasglu Dirwyon Troseddol (Gorfodaeth) yn swyddogaeth allweddol o fewn GLlTEF. Mae'r gwaith gorfodaeth yn cyflogi tua 1,500 o staff mewn 50 o leoliadau yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gyfrifol am sicrhau bod partïon a fernir yn euog yn cydymffurfio â dirwyon a chosbau ariannol eraill a osodwyd gan y llysoedd troseddol. Mae'r adran hon hefyd yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â Gorchmynion Atafaelu a osodwyd gan Lys y Goron a sicrhau y telir tocynnau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd gan yr heddlu.
Prif bwrpas y rôl yw
Rheoli a chynllunio llwyth gwaith tîm sy'n darparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, y farnwriaeth a rheolwyr.
Arwain a rheoli tîm o staff, gan sicrhau bod ei aelodau yn drefnus, ac yn gwbl fedrus i gyflawni eu hamcanion gwaith, gan ddefnyddio Lean TIBs, SOPs ac adnoddau gwelliant parhaus eraill.
Cynorthwyo i gyflawni perfformiad yn erbyn targedau.
Prif gyfrifoldebau
Arwain tîm o staff gan sicrhau bod pawb yn drefnus ac yn meddu ar yr holl sgiliau i gyflawni eu hamcanion gwaith. Rheoli perfformiad y tîm a pherfformiad unigolion yn effeithiol a delio ag unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg yn unol â pholisi AD.
Arwain ar weithredu arferion, gweithdrefnau a safonau gweinyddol effeithlon a chyson, a gweithredu datrysiadau i broblemau a nodwyd.
Rheoli adnoddau (gan gynnwys staff a chyfleusterau) i sicrhau gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid, randdeiliaid, y farnwriaeth a’r rheolwyr.
Monitro meysydd perfformiad allweddol, dadansoddi tueddiadau perfformiad a gwneud argymhellion ar gyfer gwella i'r Rheolwr Cyflawni.
Sut un fydd yr ymgeisydd llwyddiannus?
Rydym yn chwilio am unigolion gwydn, dyfeisgar, sy'n gallu ymaddasu a dangos bod ganddynt y profiad sydd ei angen i gyflawni mewn sefydliad cyflym a’r gallu i ffynnu mewn amgylchedd sy'n newid yn gyson.
Bydd angen sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf arnoch yn ogystal â bod yn chwaraewr tîm da. Byddwch yn dangos gallu cryf i flaenoriaethu llwyth gwaith, addasu i newid blaenoriaethau ac yn bwysicaf oll rhoi'r cwsmer yn gyntaf ym mhopeth rydych chi'n ei wneud.
Fisa Gweithiwr Medrus
O 22 Gorffennaf 2025, cynyddodd y Llywodraeth y trothwy cyflog ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus. Mae cyflog cychwynnol y rôl hon yn is na’r trothwy cyflog cyffredinol ar gyfer nawdd.
Ni all yr Adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon oni bai eich bod wedi dal fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus ers cyn 4 Ebrill 2024, eich bod yn gymwys ar gyfer pwyntiau masnach perthnasol, neu eich bod yn bodloni meini prawf eraill lle gellir ystyried cyflog is. Felly, os ydych yn credu eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd (ym mha bynnag ffordd bosibl) a’ch bod wedi cael cynnig swydd dros dro, codwch hyn yn ystod eich gwiriadau fetio.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd, bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU a weithredir yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Ewch i www.gov.uk/skilled-worker-visa i gael mwy o wybodaeth.