Criminal Fines Collection and Enforcement
Job Title: Team Leader
This is a general job description covering the likely scope of work of the post
holder.
Pay Span or equivalent: EO
Background
EO staff will need to display a commitment to four key principles: Continuous change, LEAN principles, managing uncertainty and improving performance. All those appointed to new roles in HMCTS must be wholeheartedly committed to these principles and evidence this in their application.
About Criminal Fines Collection and Enforcement
The Criminal Fines Collection and Enforcement Service plays a central role in delivering justice by working alongside the criminal courts in England and Wales to ensure convicted parties comply with fines and other financial penalties imposed by the courts. Enforcement is a large and complex business unit, employing over 1200 staff across multiple locations across England and Wales through which flows some £500m per annum. You will help deliver HMCTS’ responsibilities for the enforcement of Fines, Confiscation Orders, Community Penalty Breach Warrants, and other Enforcement work.
Overview
HMCTS is embarking on a period of significant change. Strong leadership is a critical element in this being successful. Jobholders who have responsibility for managing staff will be required to provide clear direction and focus, visibly championing the changes which deliver greater efficiencies. The HMCTS Delivery Directors expects managers in the organisation to operate in a culture of openness and honesty, demonstrating a commitment to change through involvement and empowerment, and by delivering results.
The key purpose of the role is to
Manage and plan the workload of a team which provides administrative support and excellent customer service to all stakeholders, judiciary, and management.
Lead and manage a team of staff, ensuring that its members are organised, and fully skilled to meet their work objectives, using Lean TIBs, SOPs and other continuous improvement tools.
To assist in the delivery of performance against targets.
Key responsibilities
Operations
Lead the implementation of efficient and consistent administrative practices, procedures, and standards, identifying and implementing solutions to identified problems.
Manage resources (including staff and facilities) to ensure excellent customer service to all stakeholders, judiciary, and management.
Monitor key performance areas, analysing performance trends and making recommendations for improvement to the Delivery Manager.
Conduct ongoing reviews of procedures and work practices and manage the implementation of new initiatives and legislation.
To provide written and verbal advice to queries from staff and HMCTS users.
Contribute to the delivery of operational, performance and service standard targets.
Provide statistical data for the management team and judiciary.
Deal with any accommodation issues that arise and liaising with estates/ facilities and/or contractors as required.
Contribute to the business plan, with particular focus on the team's area of work.
Monitor and proactively report on HMCTS assurance programme and contribute to ongoing development.
Ensure the risk management system and standards are applied by all staff in line with HMCTS/MOJ policy.
Ensure Governance and Assurance around the safe and secure receipt, accounting and transfer of both money and personal data.
Alert others, as appropriate, to risks which are not capable of local resolution.
Deputise for the Delivery Manager as necessary.
Deal with customers and complaints and address root causes of complaints.
Apply LEAN principles, tools, and techniques to working practices to improve efficiency of operations.
Team leadership
Lead a team of staff ensuring that its members are organised, and fully skilled to meet their work objectives. Effectively managing both team and individual performance, addressing any issues as they arise, in line with HR policy.
Assign responsibilities for action and monitoring progress against plans.
Ensure that performance management and reward & recognition systems are utilised effectively throughout area of responsibility, ensuring consistent standards through benchmarking, and encouraging and rewarding good ideas and creativity.
Plan, co-ordinate and organise training and development for staff. Ensuring that learning & development needs of all staff, including inductees, are identified, and met.
Identify staff potential and develop in line with business and individual needs.
Identify recruitment needs and retention issues, assessing resource requirements against demands.
Be responsible for health and safety issues for the team and their immediate working environment.
Take a lead in employee engagement activities to maintain good working relationships with staff and to improve service delivery and staff morale / motivation.
Ensure staff are aware of HMCTS strategic objectices/and or updated in relation to corporate messages.
Role model HMCTS values, and apply policies and procedures (including diversity, attendance, and discipline).
All Band D staff are expected to perform other management roles in addition to their own role.
Processing and managing casework
Work with staff to ensuring that casework is appropriately managed, providing advice where process deviations have occurred.
Calculations and analysis
Identify and implement solutions to local problems, referring more complex problems to an Enforcement Delivery Manager.
Communicating with the public, juries, the judiciary, other court and tribunal users and representatives of other agencies and organisations
Maintain effective working relationships with the judiciary, supporting agencies, voluntary and user groups. Working with agencies to improve the level of service offered to users.
Provide feedback to staff, judiciary, and other stakeholders on performance against targets.
Think beyond own area of responsibility, considering wider policy and organisational implications of issues.
Attend and contribute at meetings of relevant User Groups.
Representation
Represent the function you have been assigned to at an operational level
Specialisms
Have a working knowledge of functions undertaken within Enforcement, to support the development and review of policies and procedures.
Provide specific functions as directed by line management in line with the SOP for providing that service.
Accountability
Reporting to a Delivery Manager.
Success Profiles Assessment approach
The application will assess you on behaviours. Behaviours are the actions and activities that people do which result in effective performance in a job.
The Civil Service has defined a set of behaviours that, when demonstrated, are associated with job success. Civil Service Behaviours are specific to the grade level of the job role.
The examples of the behaviours are designed to give an overview of what is expected of individuals at each level. There is no expectation that all individuals will need to demonstrate every part of each example to be successful.
Other duties
The post holder is required to work in a flexible way and undertake any other duties reasonably requested by line management which are commensurate with the grade and level of responsibility of this post.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Gorfodaeth a Chasglu Dirwyon Troseddol
Teitl Swydd: Arweinydd Tîm
Mae hwn yn swydd ddisgrifiad cyffredinol ac mae’n cynnwys cwmpas gwaith tebygol y deiliad swydd.
Ystod cyflog neu gyfwerth: EO
Cefndir
Bydd angen i staff EO arddangos ymrwymiad i bedwar prif egwyddor: Newid parhaus, egwyddorion LEAN, rheoli ansicrwydd a gwella perfformiad. Rhaid i’r unigolion a benodir i rolau newydd o fewn GLlTEF ymrwymo o ddifrif i'r egwyddorion hyn a chyflwyno tystiolaeth o hyn yn eu cais.
Ynglŷn â Gorfodaeth a Chasglu Dirwyon Troseddol
Mae’r Gwasanaeth Gorfodaeth a Chasglu Dirwyon Troseddol yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu cyfiawnder trwy weithio ochr yn ochr â’r llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod partïon a gyhuddir yn cydymffurfio â dirwyon a chosbau ariannol eraill a osodwyd gan y llysoedd. Mae Gorfodaeth yn uned fusnes fawr a chymhleth, gan gyflogi dros 1200 o staff ar draws sawl lleoliad ledled Cymru a Lloegr sy’n casglu tua £500m y flwyddyn mewn dirwyon. Byddwch yn helpu i gyflawni cyfrifoldebau GLlTEF ar gyfer gorfodi Dirwyon, Gorchmynion Atafaelu, Gwarantau Torri Cosb Gymunedol, a gwaith Gorfodi arall.
Trosolwg
Mae GLlTEF ar ddechrau cyfnod o newid sylweddol. Mae’n rhaid cael arweinyddiaeth gref er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus. Bydd disgwyl i’r rhai hynny sydd â chyfrifoldeb am reoli staff ddarparu arweiniad a ffocws clir a chefnogi'r newidiadau fydd yn cyflawni gwell effeithiolrwydd. Mae Cyfarwyddwyr Cyflawni GLlTEF yn disgwyl i reolwyr y sefydliad weithredu'n onest ac yn agored; disgwylir iddynt arddangos ymrwymiad i newid drwy gynnwys a grymuso eraill a chyflawni canlyniadau.
Prif bwrpas y rôl yw
Rheoli a chynllunio llwyth gwaith tîm sy'n darparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, y farnwriaeth a rheolwyr.
Arwain a rheoli tîm o staff, gan sicrhau bod ei aelodau’n drefnus, ac yn gwbl fedrus i gyflawni eu hamcanion gwaith, gan ddefnyddio Lean TIBs, SOPs ac offer gwella parhaus eraill.
Cynorthwyo i gyflawni perfformiad yn erbyn targedau.
Prif gyfrifoldebau
Gweithrediadau
Arwain ar weithredu arferion, gweithdrefnau a safonau gweinyddol effeithlon a chyson, adnabod a gweithredu datrysiadau i broblemau a nodwyd.
Rheoli adnoddau (gan gynnwys staff a chyfleusterau) i sicrhau gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid, randdeiliaid, y farnwriaeth a’r rheolwyr.
Monitro meysydd perfformiad allweddol, dadansoddi tueddiadau perfformiad a gwneud argymhellion ar gyfer gwella i'r Rheolwr Cyflawni.
Cynnal adolygiadau parhaus o weithdrefnau ac arferion gwaith a rheoli mentrau a deddfwriaeth newydd.
Rhoi cyngor ysgrifenedig a llafar i ymholiadau gan staff a defnyddwyr GLlTEF.
Cyfrannu at gyflawni targedau gweithredol, perfformiad a safon gwasanaethau.
Darparu data ystadegol i’r tîm rheoli a’r farnwriaeth.
Delio gydag unrhyw broblemau llety sy'n codi a chysylltu ag ystadau / cyfleusterau a/neu gontractwyr yn ôl y gofyn.
Cyfrannu at y cynllun busnes, gan ganolbwyntio'n benodol ar faes gwaith y tîm.
Monitro ac adrodd yn rhagweithiol ar raglen sicrhau GLlTEF a chyfrannu at ddatblygiad parhaus.
Sicrhau fod y system rheoli risgiau a’r safonau’n cael eu defnyddio gan yr holl staff yn unol â pholisi GLlTEF/MOJ.
Sicrhau Llywodraethu a Sicrwydd ynghylch derbyn a throsglwyddo arian a data personol yn ddiogel.
Rhybuddio eraill, fel y bo’n briodol, i risgiau nad ydynt yn gallu cael eu datrys yn lleol.
Dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Cyflawni yn ôl yr angen.
Delio â chwsmeriaid a chwynion a mynd i’r afael â beth ddigwyddodd i achosi i rywun wneud cwyn.
Cymhwyso egwyddorion, arfau a thechnegau LEAN i arferion gwaith er mwyn gwella effeithiolrwydd gweithrediadau
Arwain Tîm
Arwain tîm o staff gan sicrhau bod pawb yn drefnus ac yn meddu ar yr holl sgiliau i gyflawni eu hamcanion gwaith. Rheoli perfformiad y tîm a pherfformiad unigolion yn effeithiol a delio ag unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg yn unol â pholisi AD.
Neilltuo cyfrifoldebau dros weithredu a monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau.
Sicrhau bod systemau rheoli perfformiad a gwobrwyo a chydnabod yn cael eu defnyddio’n effeithiol drwy gydol y maes cyfrifoldeb, gan sicrhau safonau cyson drwy feincnodi, ac annog a gwobrwyo syniadau a chreadigrwydd da.
Cynllunio, cydlynu a threfnu hyfforddiant a sesiynau datblygu i staff. Sicrhau bod anghenion hyfforddi a datblygu staff gan gynnwys staff newydd yn cael eu nodi a’u bodloni.
Adnabod potensial staff a’u datblygu yn unol ag anghenion busnes ac anghenion unigol.
Nodi anghenion recriwtio a materion cadw, asesu gofynion adnoddau yn erbyn y galw.
Bod yn gyfrifol am faterion iechyd a diogelwch y tîm a'u hamgylchedd gwaith uniongyrchol.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â staff er mwyn datblygu perthnasau gwaith da gyda staff ac er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth a morâl/cymhelliant y staff.
Sicrhau bod y staff yn ymwybodol o amcanion strategol GLlTEF/a'u diweddaru mewn perthynas â negeseuon corfforaethol.
Bod yn fodel rôl ar gyfer gwerthoedd GLlTEF, a rhoi polisïau a gweithdrefnau GLlTEF ar waith (gan gynnwys amrywiaeth, presenoldeb a disgyblaeth)
Mae disgwyl i holl staff Band D gyflawni rolau rheoli eraill yn ogystal â'u rôl eu hunain.
Prosesu a rheoli gwaith achos
Gweithio gyda’r staff er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu rheoli’n briodol, a darparu cyngor lle mae gwyriadau wedi digwydd yn y broses.
Cyfrifo a dadansoddi
Adnabod a gweithredu atebion i broblemau lleol a chyfeirio problemau cymhleth at y Rheolwr Cyflawni Gorfodaeth.
Cyfathrebu gyda’r cyhoedd, rheithgorau, y farnwriaeth, defnyddwyr llys a thribiwnlys eraill a chynrychiolwyr asiantaethau a sefydliadau eraill
Cynnal perthynas waith effeithiol â'r farnwriaeth, asiantaethau cefnogi, grwpiau gwirfoddol a grwpiau defnyddwyr. Gweithio gydag asiantaethau i wella lefel y gwasanaeth a gynigir i ddefnyddwyr
Rhoi adborth i staff, aelodau’r farnwriaeth a rhanddeiliaid eraill ar berfformiad yn erbyn targedau.
Meddwl y tu hwnt i’ch ardal cyfrifoldeb eich hun, ystyried polisïau eraill a goblygiadau sefydliadol i broblemau.
Mynychu a chyfrannu mewn cyfarfodydd Grwpiau Defnyddwyr perthnasol.
Cynrychiolaeth
Cynrychioli’r swyddogaeth yr ydych wedi cael eich aseinio iddo ar lefel weithredol.
Arbenigedd
Gwybodaeth ymarferol o’r swyddogaethau a gyflawnir o fewn Gorfodaeth er mwyn cefnogi datblygiad ac adolygu polisïau a gweithdrefnau
Ymgymryd â swyddogaethau penodol yn dilyn cyfarwyddyd gan y rheolwr llinell yn unol â'r SOP ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwnnw.
Atebolrwydd
Riportio i’r Rheolwr Cyflawni
Dull asesu Proffiliau Llwyddiant
Bydd y cais yn eich asesu ar sail ymddygiad. Ymddygiadau yw'r camau gweithredu a'r gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud sy'n arwain at berfformiad effeithiol mewn swydd.
Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi diffinio cyfres o ymddygiadau sydd, pan caiff eu harddangos, yn gysylltiedig â llwyddiant mewn swyddi. Mae Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil yn benodol i lefel gradd y swydd.
Mae'r enghreifftiau o'r ymddygiadau wedi'u cynllunio i roi trosolwg o'r hyn a ddisgwylir gan unigolion ar bob lefel. Nid oes disgwyl i bob unigolyn ddangos bod pob rhan o bob enghraifft yn llwyddiannus.
Dyletswyddau eraill
Mae gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill, ar gais rheolwr llinell, sy’n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.