SWYDDOGOL








Swydd Ddisgrifiad y Gwasanaeth Prawf

Band 3 y Gwasanaeth Prawf

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf

Swydd Ddisgrifiad: Swyddog Gwasanaethau Prawf



Cyfeirnod y Ddogfen

PS-JES-0031 Probation Services Officer v7.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

7.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

5 Rhagfyr 2024

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd











Swydd Ddisgrifiad y Gwasanaeth Prawf

Teitl y Swydd

Swyddog Gwasanaethau Prawf

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf

Band

3


Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â holl amrywiaeth y gwaith gyda phobl ar brawf cyn ac ar ôl dedfrydu. Bydd hyn yn cynnwys asesu, gweithredu dedfrydau, rheoli troseddwyr a pharatoi adroddiadau. Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth rheoli achosion i ystod lawn o bobl ar brawf, gan ddefnyddio gweithdrefnau’r gwasanaeth a chyfarwyddiadau ymarfer sy’n sail i farn broffesiynol.

Crynodeb

Asesu a rheoli’r risg (gan gynnwys cynlluniau rheoli risg ac uwchraddio) sy’n cael ei hachosi gan bobl ar brawf, er mwyn diogelu dioddefwyr troseddau a’r cyhoedd drwy wneud y canlynol:


  • Cysylltu â llysoedd troseddol, asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau partner eraill, a rhoi gwybodaeth a chyngor iddynt.

  • Goruchwylio a rheoli risg pobl ar brawf sy’n destun dedfrydau cymunedol, yn ystod ac ar ôl dedfrydau o garchar.

  • Gweithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i atal troseddu a diwallu anghenion dioddefwyr a phobl ar brawf.


Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Gwasanaeth Prawf, rhaid i ddeiliad y swydd bob amser ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant, a dealltwriaeth o berthnasedd y rhain i’r gwaith y mae’n ei wneud.


Rhaid i ddeiliad y swydd lynu wrth yr holl bolisïau mewn perthynas â natur sensitif/cyfrinachol yr wybodaeth y bydd yn delio â hi tra bydd yn gweithio yn y swydd hon.


Os yw’n berthnasol i’r rôl, efallai y bydd angen gweithio y tu allan i oriau arferol (h.y. Llysoedd, Safleoedd Cymeradwy, rhaglenni, adrodd gyda’r nos ac ati).

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau


Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:


  • Ymgymryd â’r ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr yng nghyswllt pobl ar brawf yr aseswyd eu bod yn achosi risg isel neu ganolig o niwed, a chefnogi graddfa’r Swyddog Prawf mewn achosion risg uchel.

  • Wrth ddarparu cymorth i reolwyr achos, cyfrannu at gyflawni’r cynllun Rheoli Risg a rhoi gwybod am newidiadau sylweddol sy’n ymwneud â risg o niwed a/neu aildroseddu neu unrhyw ddiffyg cydymffurfio, o fewn gweithdrefnau gorfodi y cytunwyd arnynt.

  • Defnyddio systemau cyfrifiadurol i lunio, diweddaru a chynnal cofnodion a dogfennau eraill o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

  • Sicrhau y gwneir atgyfeiriadau effeithiol i wasanaethau a chyfleusterau, a chyfathrebu â staff rheoli troseddwyr, staff ymyriadau, darparwyr gwasanaethau ac asiantaethau allanol i adolygu cynnydd a risgiau cysylltiedig.

  • Ymweld â charchardai, cartrefi neu leoliadau eraill yn ôl y galw yn unol â gweithdrefnau a pholisïau’r gwasanaeth.

  • Ymgymryd â gwaith yn y llys, gan gynnwys cwblhau adroddiadau priodol ar achosion ac erlyn am dorri amodau.

  • Llenwi bwlch o fewn timau yn ôl y galw.

  • Cyflawni a chyd-arwain rhaglenni achrededig sy’n gymesur â’r raddfa.

  • Cynnal profion alcohol a chyffuriau gorfodol yn ôl yr angen, a dilyn gweithdrefnau meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

  • Cyflawni dyletswyddau diogelu plant yn unol â pholisïau asiantaeth a chyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth Prawf.

  • Dangos sgiliau modelu rhag-gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau rhag-gymdeithasol a herio ymddygiad ac agweddau gwrth-gymdeithasol yn gyson.

  • Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd y Gwasanaeth Prawf a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.


Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.


Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil

Ymddygiadau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Datblygu eich Hun ac Eraill

  • Cydweithio

  • Cyflawni'n Gyflym

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Sylwer: rydym yn argymell ichi ddewis 4 i 8 o gryfderau’n lleol, - dewiswch oddi ar restr diffiniadau o gryfderau’r Gwasanaeth Sifil ar y fewnrwyd.

Gallu

  • Gallu cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig

Profiad

  • Profiad o helpu a/neu gefnogi pobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol a/neu bersonol

  • Profiad o gynllunio a chydlynu gwaith

  • Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad

  • Dealltwriaeth o gyfle cyfartal ac ymarfer da ym maes amrywiaeth, ac ymrwymiad i hynny

  • Dealltwriaeth o'r ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu, e.e. camddefnyddio sylweddau, materion yn ymwneud â llety, a gallu pwysleisio’n adeiladol gydag amrywiaeth o bobl

  • Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli achosion, ac ymrwymiad iddynt

  • Adnabyddiaeth a dealltwriaeth o reoli risg/asesu risg fel y mae’n berthnasol i droseddwyr a’r effaith ar ddioddefwyr trosedd

  • Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn y gweithle

  • Adnabyddiaeth a dealltwriaeth o waith y System Cyfiawnder Troseddol a'r Gwasanaeth Prawf

  • Gwybod beth yw nodau ac amcanion y Gwasanaeth Prawf

Technegol

  • Gallu dangos sgiliau rhifedd a llythrennedd lefel uchel sy’n ofynnol i ddarllen, deall a dehongli polisïau, a gallu ysgrifennu adroddiadau a gohebiaeth ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol neu o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg, Mathemateg


Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn


  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis.  Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad y mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn ystyried eu bod yn hiliol.


Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

I’w adael yn wag

I’w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi yn unig













SWYDDOGOL

PS-JES-0031 Probation Services Officer v7.0