Swydd Ddisgrifiad NPS (SDd)
NPS Band 4
Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Swydd Ddisgrifiad: Swyddog Prawf
Cyfeirnod y Ddogfen
NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0
Math o ddogfen
Rheolaeth
Fersiwn
7.0
Dosbarthiad
Annosbarthedig
Dyddiad Cyhoeddi
10/07/2019
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Pennaeth y Grŵp
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Gwobrwyo
Tystiolaeth ar gyfer y SDd
Swydd Ddisgrifiad NPS
NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0
Teitl y Swydd
Swyddog Prawf
Cyfarwyddiaeth
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Band
4
Trosolwg o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â'r ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr gyda
throseddwyr dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn cynnwys asesu, gweithredu dedfrydau a
chreu adroddiadau; gan ddefnyddio gweithdrefnau gwasanaeth a chyfarwyddiadau
ymarfer sy'n sail i farn broffesiynol.
Crynodeb
Asesu a rheoli’r risg a berir gan droseddwyr i amddiffyn dioddefwyr troseddau a’r
cyhoedd drwy:
• Ddarparu gwybodaeth a chyngor i lysoedd troseddol, asiantaethau
cyfiawnder troseddol ac asiantaethau partner eraill
• Goruchwylio troseddwyr sy’n destun gorchmynion cymunedol a
thrwyddedau ac yn ystod dedfrydau o garchar
• Cyfrannu at brosesau rheoli risg
• Gweithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i atal troseddau a bodloni
anghenion dioddefwyr a throseddwyr
Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r NPS, bydd rhaid i ddeiliad y swydd arddangos
ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant bob amser a deall sut maent yn
berthnasol i’r gwaith maent yn ei wneud.
Rhaid i ddeiliad y swydd gadw at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr
wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.
Cyfrifoldebau,
Efallai y bydd yn ofynnol i Swyddogion Prawf ymgymryd ag unrhyw gyfuniad, neu bob
Gweithgareddau a
un, o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a nodir isod.
Dyletswyddau
• Darparu cyngor ac asesiadau proffesiynol, yn cynnwys adroddiadau
ysgrifenedig i'r llysoedd, y Bwrdd Parôl, ac asiantaethau cyfiawnder
troseddol a phartneriaid eraill
• Ymgymryd â'r ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr gyda throseddwyr sydd
wedi'u hasesu ar bob lefel o risg o niwed difrifol, yn cynnwys risg uchel a risg
uchel iawn
• Defnyddio systemau cyfrifiadurol i gynhyrchu, diweddaru a chynnal
cofnodion a dogfennaeth arall o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt
• Sicrhau atgyfeiriadau prydlon ac effeithiol i, a sicrhau perthnasau da rhwng,
timau rheoli troseddwyr, timau’r llysoedd, unedau cyswllt â dioddefwyr, staff
ymyriadau, yr Uned Eiddo Cymeradwy, staff y carchardai ac asiantaethau
allanol i fwyhau canlyniadau positif, rheoli risg a lleihau aildroseddu
• Mynychu cyfarfodydd proffesiynol a chynrychioli'r NPS mewn fforymau
partneriaeth priodol e.e. MAPPA, MARAC
• Gweithio ar y cyd â chydweithwyr, cynnal perthnasau effeithiol o fewn eich
tîm a darparu arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i Swyddogion y
Gwasanaeth Prawf (PSOs) a staff eraill fel sy’n briodol
• Helpu o fewn eich tîm a helpu timau eraill yn ôl y gofyn
• Ymgymryd ag ymweliadau carchar, ymweliadau yn y cartref neu ymweliadau
i leoliadau amgen yn ôl y gofyn
• Ymateb i geisiadau i gyfeirio risgiau yn uwch a godir gan Gwmnïau Adsefydlu
Cymunedol, pennu lefel y risg ac os yw’n risg uchel (wedi’i gymeradwyo gan
reolwr) penderfynu ar sut i'w rheoli
• Cyflwyno a chyd-arwain rhaglenni achrededig sy’n gymesur â’ch gradd
• Cynnal profion alcohol a chyffuriau gorfodol yn ôl y gofyn a dilyn
gweithdrefnau meddyginiaeth ar bresgripsiwn
• Ymgymryd â dyletswyddau diogelu plant yn unol â chyfrifoldebau statudol yr
NPS a pholisïau asiantaethau
• Dangos sgiliau modelu cymdeithasgar drwy atgyfnerthu ymddygiad ac
agweddau cymdeithasgar yn gyson a herio ymddygiad ac agweddau
gwrthgymdeithasol
• Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r
NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0
Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar
hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn
addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn
angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y
swydd unwaith eto dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y
swydd yn y lle cyntaf.
Ymddygiad
• Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
• Newid a Gwella
• Cydweithio
• Cyflawni ar Gyflymder
• Cyfathrebu a Dylanwadu
Cryfderau
Cynghorir y caiff cryfderau eu dewis yn lleol, awgrymir 4-8
Profiad hanfodol
• Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl sydd wedi profi amrywiaeth
o anawsterau cymdeithasol/personol.
• Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol, yn cynnwys hyrwyddo
cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.
• Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gydraddoldeb
• Profiad o weithio gyda grwpiau ac unigolion er mwyn ysgogi a newid
ymddygiad
• Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi cyflawni troseddau.
Y gallu i gyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu
(pan bennir yng Nghymru) Cymraeg.
Gofynion technegol
Rhaid ichi feddu ar Gymhwyster Swyddog Prawf neu fod yn Swyddog Prawf
cymwys. Hefyd, dylai ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar:
• Gradd anrhydedd PQF / Diploma Graddedig PQF a Diploma Lefel 5 mewn
Ymarfer Prawf; neu
• Diploma mewn Astudiaethau Prawf; neu Ddiploma mewn Gwaith
Cymdeithasol (opsiwn Prawf); neu CSQW (opsiwn Prawf)
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y System Gyfiawnder Troseddol a’r
Gwasanaeth Prawf.
• Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol a Safonau Cenedlaethol/
• Gwybodaeth am Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu
risg/anghenion.
Gallu
Cymwysterau Gofynnol Peidiwch â newid y blwch hwn
• Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd
cyn iddo/iddi gychwyn yn y swydd.
• Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd
rhaid i ymgeiswyr mewnol wneud cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi
gwneud cyfnod prawf i HMPPS.
• Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n
cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.
Oriau gwaith (Oriau
anghymdeithasol) a
Lwfansau
NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Cynghorir y caiff
Ymddygiad
Gallu
Profiad
Technegol
cryfderau eu dewis yn
lleol, awgrymir 4-8
Rhaid ichi feddu ar Gymhwyster
Profiad o weithio gydag
Swyddog Prawf neu fod yn Swyddog
amrywiaeth eang o bobl sydd wedi
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Prawf cymwys
profi amrywiaeth o anawsterau
cymdeithasol/personol
Gradd anrhydedd PQF / Diploma
Profiad o weithio gyda
Graddedig PQF a Diploma Lefel 5 mewn
chymunedau amrywiol, yn cynnwys
Ymarfer Prawf; neu Ddiploma mewn
Newid a Gwella
hyrwyddo cydraddoldeb a
Astudiaethau Prawf; neu Ddiploma
gwerthfawrogi amrywiaeth.
mewn Gwaith Cymdeithasol (opsiwn
Prawf); neu CSQW (opsiwn Prawf)
Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y
Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o
Cydweithio
System Gyfiawnder Troseddol a’r
gydraddoldeb.
Gwasanaeth Prawf
Profiad o weithio gyda grwpiau ac
Gwybodaeth am Ymarfer yn Seiliedig ar
Cyflawni ar Gyflymder
unigolion er mwyn ysgogi a newid
Dystiolaeth ac adnoddau asesu
ymddygiad
risg/anghenion.
Profiad o weithio gyda phobl sydd
Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth
Cyfathrebu a Dylanwadu
wedi cyflawni troseddau
berthnasol a Safonau Cenedlaethol
NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0