Swydd Ddisgrifiad (SDd)

Band 6

Proffil Grŵp - Cynghorydd (C)
Swydd Ddisgrifiad - C:
Athro / Athrawes


Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-212-JD-B6 : A : Teacher

Math o ddogfen

Rheoli

Fersiwn

4.0

Dosbarthiad

Annosbarthedig

Dyddiad cyhoeddi

08/04/15

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Tîm Sicrwydd a Chefnogi Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad

Teitl y Swydd

C: Athro / Athrawes

Proffil Grŵp

Cynghorydd

Lefel yn y Sefydliad

Cynghorydd

Band

6

Trosolwg o’r swydd

Mae hon yn swydd ymgynghorol mewn sefydliad.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu sgiliau carcharorion a chynyddu eu cyraeddiadau addysgol drwy gynllunio a chyflwyno cyrsiau addysgol gan gynnwys cymwysterau cydnabyddedig ac achrededig a sgiliau sylfaenol i garcharorion, gan ddarparu amrywiaeth o raglenni addysgol a chefnogi dysgu annibynnol.

Mewn sefydliadau yng Nghymru, cyflogir athrawon yn uniongyrchol gan y Gwasanaeth Rheoli Troseddwyr Cenedlaethol (NOMS) i fynd ati i ddarparu rhaglenni addysgol achrededig (eu dylunio a'u darparu) i garcharorion.

Mae hon yn swydd anweithredol heb unrhyw gyfrifoldebau rheolaeth linell.

Responsibilities, Activities and Duties

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Cynllunio a chyflwyno ystod o gyrsiau addysgol i ddiwallu anghenion amrywiol y boblogaeth o garcharorion a hwyluso cyrsiau achrededig drwy gyrff arholi allanol gan gynnwys TGAU, Lefel A, Addysg Uwch (y Brifysgol Agored)

  • Adolygu, hyrwyddo a diweddaru'r ystod o gyrsiau sydd ar gael yn y sefydliad, ynghyd â’u cynnwys ac unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir i'w cyflwyno

  • Cyfweld carcharorion i drafod profiadau dysgu blaenorol ac asesu sgiliau

  • Datblygu cynlluniau gwaith a chynllunio gwersi gan sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf a osodir gan y bwrdd arholi perthnasol

  • Prosesu ceisiadau ar gyfer dysgu agored: asesu risg y cais, dod o hyd i gyllid a hwyluso cyrsiau gyda darparwyr dysgu allanol

  • Goruchwylio carcharorion tra maent yn cymryd rhan mewn gwersi

  • Cynnal tiwtorialau 1:1 gyda charcharorion i gefnogi eu hanghenion dysgu unigol a'u cefnogi ar gyrsiau dysgu agored drwy gael gafael ar ddeunyddiau (megis gwybodaeth o'r rhyngrwyd) ar eu rhan

  • Asesu a marcio gwaith yn cynnwys gwaith cwrs ffurfiol sy’n ymwneud â chyrsiau arholiad

  • Goruchwylio arholiadau a gweithredu fel dilysydd/safonwr mewnol ar gyfer rhaglenni dysgu sy’n seiliedig ar dystiolaeth

  • Trefnu arddangosfeydd i arddangos gwaith carcharorion, gan weithio gyda chydweithwyr yn y gymuned ehangach

  • Darparu gweithdai datblygu sgiliau i deuluoedd carcharorion; e.e. Family Man, Story Book Dads, Fathers Inside

  • Cyflawni yn erbyn targedau a bennwyd gan y Llywodraeth yn seiliedig ar ddilyniant a chyflawniad drwy raglenni addysg gydnabyddedig

  • Gweithio gyda chydweithwyr yn yr Uned Rheoli Troseddwyr i gyfrannu at gynllunio dedfrydau ac adolygiadau cynllunio dedfrydau.

  • Paratoi ar gyfer arolygiadau lle ceir rhybudd ymlaen llaw ac arolygiadau na cheir rhybudd ymlaen llaw


  • Hwyluso a chefnogi athrawon dan hyfforddiant sydd ar brofiad gwaith yn y sefydliad yn ôl yr angen gan gynnwys bod yn gyfrifol am eu diogelwch yn ystod y lleoliad; gall hyn olygu mentora’r athro-fyfyriwr

  • Cynrychioli'r adran addysg mewn cyfarfodydd byrddau cyflogaeth fewnol i adolygu ceisiadau am swyddi gan garcharorion a gwneud argymhellion ynghylch priodoldeb gweithgareddau i garcharorion

Ymgymryd â thasgau cefnogi eraill, gan gynnwys:

  • Ymgymryd a sicrhau bod yr holl waith gweinyddol, casglu a dadansoddi data sy'n berthnasol, gan gynnwys Dangosyddion Darparu Gwasanaeth (SDI) yn cael eu coladu; cysylltu â chyrff allanol lle bo angen

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Cymwyseddau

Mae holl gymwyseddau Fframwaith Cymhwysedd a Rhinweddau'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS) yn berthnasol i’r proffil grŵp hwn. Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu hystyried yn ystod y broses ddethol:

  • 3. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • 4. Arwain a Chyfathrebu

  • 5. Gweithio ar y Cyd ac Mewn Partneriaeth

  • 9. Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • 13. Gofalu

  • 14. Perswadio a Dylanwadu

Cymwysterau Gofynnol

  • Bydd gwiriadau diogelwch ac adnabod yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf i NOMS.

  • Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai.

Sgiliau Hanfodol/
Cymwysterau/ Achrediadau/
Cofrestriadau

Mae'n rhaid bod ganddo/ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg - Addysg Bellach (PGCE(FE)

Mae Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) yn orfodol i'r rôl hon, a bydd yn cynnwys ailhyfforddi a dysgu sgiliau newydd yn rheolaidd sy'n gysylltiedig â chyrsiau sydd eisoes yn cael eu darparu neu yn y broses o ddatblygu cyrsiau newydd, ac mewn sgiliau/cymwysterau addysgu proffesiynol.

Oriau Gwaith a Lwfansau


37 awr yr wythnos

OR-JES-212-JD-B6 : A : Teacher_v4.0