Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.

Mae ein Arweinwyr Tîm yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau cyfiawnder. Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddangos a datblygu eich sgiliau arwain. Byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau bod eich tîm yn darparu cefnogaeth weinyddol a gwasanaeth cwsmer ardderchog i ddefnyddwyr gwasanaeth, cyfryngwyr, aelodau’r farnwriaeth a rheolwyr.



Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu'r llysoedd troseddol, sifil a theulu a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cyrchu cyfiawnder a allai newid bywydau. 


Wedi’u gwasgaru’n genedlaethol dros sawl safle, mae ein Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSCs) yn darparu gwasanaethau trwy sawl awdurdodaeth a elwir yn 'linellau gwasanaeth'. Mae’r rhain yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, Cyfraith Deulu Gyhoeddus, Profiant, Trosedd, Mewnfudo a Lloches, Ysgariad, Hawliadau Arian Sifil Ar-lein, y Gwasanaeth Un Ynad (troseddau angharcharadwy e.e., dim trwydded teledu / treth car), a gwrandawiadau fideo sain ategol.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.   

 


Eich rôl


Wrth arwain eich tîm, byddwch yn canolbwyntio ar faes gwaith y tîm, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu a’i drefnu a bod eich tîm yn gwbl fedrus i gyflawni amcanion. Fel Arweinydd Tîm effeithiol, byddwch yn cydnabod pwysigrwydd lles cyffredinol y tîm a gallwch ysgogi eich tîm i lwyddo.

Byddwch yn cyfrannu at gyflawni targedau gweithredol, perfformiad a safon gwasanaeth ac yn darparu data ystadegol ar gyfer y tîm rheoli, cyfryngwyr a'r farnwriaeth. Bydd eich llygad craff am fanylion ac awydd am welliant parhaus yn allweddol i'ch llwyddiant. Mae monitro a dadansoddi meysydd a thueddiadau perfformiad, cynnal adolygiadau parhaus o weithdrefnau ac arferion gwaith yn hanfodol, yn ogystal â’ch gallu i argymell gwelliannau yn llwyddiannus, llywio newid a rheoli gweithrediad mentrau a deddfwriaeth newydd.

Mae hon yn rôl heriol a gwerth chweil, sy’n allweddol i gynnal swyddogaethau gweithredol yn esmwyth ledled GLlTEF. Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau arwain, trwy ein cynnig arweinyddiaeth GLlTEF. Mae hyn yn darparu ystod eang o weithgareddau, o raglenni datblygu i ganllawiau byr hygyrch, er mwyn helpu i feithrin eich gallu a’ch hyder i arwain ac ysbrydoli eraill.



Eich sgiliau a phrofiadau



I gael swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch ddogfen ategol 1 isod cyn gwneud cais.


Rhagor o fanylion


Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i'r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.

Ffyrdd o weithio



Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae disgwyl i chi fod yn hyblyg gyda'ch oriau gwaith i ddiwallu anghenion y busnes, efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd hefyd deithio i safleoedd eraill y CTSC lle bo angen. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd angen o leiaf 20 awr yr wythnos ar gyfer y rôl hon.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus weithio ambell ddydd Sadwrn ar sail rota, a byddwch yn cael diwrnod i ffwrdd yn ystod yr wythnos os byddwch yn gweithio ar ddydd Sadwrn.

Mae gweithio hybrid nad yw’n gytundebol ar gael ar hyn o bryd. Y busnes fydd yn penderfynu ar y trefniadau.


Teithio achlysurol i lysoedd eraill

Ar gyfer y swydd hon, efallai y bydd angen teithio o bryd i'w gilydd i safleoedd eraill y Gwasanaethau Cenedlaethol.