Swydd Ddisgrifiad (SDd) Y Gwasanaeth Prawf (PS)

Band 4 PS

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf

Swydd Ddisgrifiad: Swyddog Cyswllt Dioddefwyr









Cyfeirnod y Ddogfen PS-JES-0046 Pay Band 4 Victim Liaison Officer

Dioddefwyr

Math o Ddogfen Rheoli

Fersiwn 4.0

Dosbarthiad Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi 24 Ionawr 2024
Statws
Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Awdurdodwyd gan




Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd



Y Tîm Gwobrwyo


Tystiolaeth ar gyfer y SDd












PS-JES-0046 Pay Band 4 Victim Liaison Officer v4.0


Swydd-ddisgrifiad

Teitl y Swydd

Swyddog Cyswllt Dioddefwyr

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf

Band

Band 4 PS









Trosolwg o’r
swydd


Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda dioddefwyr trosedd a theuluoedd dioddefwyr sy’n cymryd rhan yn, neu’n cael eu hystyried i’w cynnwys yn y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr (VCS) neu’r Cynllun Hysbysu Dioddefwr (VNS). Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn unol â Chanllaw VCS a VNS y Gwasanaeth Prawf,

polisïau perthnasol a deddfwriaeth i gyfrannu at asesu a rheoli risg a gyflwynir gan droseddwyr er mwyn amddiffyn y cyhoedd. Byddant yn cysylltu â dioddefwyr a’u teuluoedd i

ddarparu gwybodaeth iddynt am ddatblygiadau sylweddol yn ystod dedfryd y troseddwr neu orchymyn a galluogi dioddefwyr a’u teuluoedd i gyfranogi drwy wneud sylwadau i lywio gwneud penderfyniadau o amgylch rheoli risg. Bydd y deiliad swydd

hefyd yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol perthnasol ar draws sefydliadau ac yn cyfrannu at gyfarfodydd rhyng-asiantaeth i sicrhau bod barn dioddefwyr a’u teuluoedd yn cael ei hystyried.

Crynodeb

Bydd gan y deiliad swydd gyswllt uniongyrchol gydag unigolion a’u teuluoedd sydd wedi dioddef trosedd difrifol, gan gynnwys y rhai sy’n cynnwys troseddau treisiol, rhywiol neu stelcio ac aflonyddu.

Rôl allweddol y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr (VLO) yw:

  • Darparu gwybodaeth i ddioddefwyr a’u teuluoedd yn ystod

camau allweddol o ddedfryd/gorchymyn ysbyty’r troseddwr a chyfrannu at asesu a rheoli’r risg o niwed i ddioddefwyr a’u teuluoedd.

  • Cysylltu gyda, darparu a dadansoddi gwybodaeth ar gyfer, a
    rhoi cyngor i asiantaethau cyfiawnder troseddol ac asiantaethau partner eraill i sicrhau bod safbwyntiau dioddefwyr a’u teuluoedd wedi cael eu hystyried.

  • Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill gyda’r nod o atal aildroseddu a chwrdd ag anghenion y dioddefwyr tra’n ystyried hawliau ac anghenion troseddwyr.

Mae deiliad y swydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys swyddogaethau’r llysoedd, carchardai, gwasanaeth prawf a’r Bwrdd Parôl, yn ogystal â Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a’r trefniadau ar gyfer Troseddwyr ag Anhwylder Meddwl. Bydd angen i ddeiliad y swydd deithio’n rheolaidd i gynnal cyswllt gyda dioddefwyr, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill sydd wedi eu lleoli ar draws ardaloedd gwledig a threfol.

Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd weithio o fewn amcanion a gwerthoedd y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Mae hyn yn cynnwys dangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Gwasanaeth Prawf.

















































PS-JES-0046 Pay Band 4 Victim Liaison Officer v4.0


Rhaid i ddeiliad y swydd lynu at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.

Mae’n bosibl y bydd angen gweithio y tu allan i oriau gwaith yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.











Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Cysylltu â’r dioddefwyr a’u teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu am gamau a datblygiadau allweddol ynglŷn â dedfryd neu orchymyn ysbyty dioddefwr fel y nodir yn y VCS a’r VNS.

  • Defnyddio systemau gweinyddol ar gyfrifiadur i gael gwybodaeth berthnasol a llunio, diweddaru a chynnal

cofnodion sy’n ymwneud â dioddefwyr, a dogfennaeth arall o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

  • Asesu risgiau ac anghenion dioddefwyr a’u teuluoedd

a chwblhau unrhyw gamau gofynnol o fewn amserlenni priodol gan gynnwys ymweliadau cartref a/neu leoliad arall fel bo’r angen yn unol â Chanllawiau VCS a VNS y Gwasanaeth Prawf.

  • Nodi newidiadau mewn risg neu angen a chyfeirio at uwch

reolwyr a gweithwyr proffesiynol mewn asiantaethau eraill fel bo’n briodol.

  • Ymgymryd â dyletswyddau diogelu plant a diogelu oedolion yn unol â chyfrifoldebau statudol y PS a pholisïau

asiantaeth.

  • Sicrhau atgyfeiriadau effeithiol i, a chyfathrebu gyda

chydweithwyr gwasanaeth prawf a gweithwyr proffesiynol mewn asiantaethau eraill.

  • Cymryd rhan mewn ystod o gyfarfodydd rhyng-broffesiynol i gynrychioli dioddefwyr a’u teuluoedd (a/neu’r Gwasanaeth Prawf) i gefnogi rheoli risg a diogelu dioddefwyr.

  • Ymgymryd â dyletswyddau yn unol â pholisïau a deddfwriaeth sy’n llywodraethu gweithdrefnau parôl, a chefnogi dioddefwyr a’u teuluoedd i ysgrifennu datganiad personol a/neu gyflwyno eu datganiad i’r bwrdd parôl yn bersonol neu o bell.

  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth mentora i VLOs newydd ac ymarferwyr gwasanaeth prawf eraill ac addysgu gweithwyr proffesiynol o asiantaethau eraill am y VCS a’r VNS a’u cyfrifoldebau.

  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu yn barhaus i gynnal y wybodaeth ddiweddaraf a dealltwriaeth o bolisïau, deddfwriaeth ac arfer gorau, gan gynnwys cwblhau holl hyfforddiant gorfodol.

  • Darparu goruchwyliaeth o fewn yr uned cyswllt dioddefwyr fel bo’n briodol.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.





















































Gallu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan leolir y swydd yng Nghymru) Cymraeg.









Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil


Ymddygiadau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Newid a Gwella

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill

  • Cydweithio

Cryfderau

(Sylwer: rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol- dewiswch o’r rhestr o ddiffiniadau cryfder y Gwasanaeth Sifil ar y mewnrwyd.

Gallu


Profiad

  • Profiad o weithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol

sydd wedi profi ystod o anawsterau cymdeithasol/personol, cyfathrebu’n effeithiol ac yn sensitif a gweithio mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma.

  • Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol gan gynnwys

hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o asesu a rheoli risg mewn perthynas â diogelu dioddefwyr a throseddwyr.

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r system Cyfiawnder Troseddol

ac asiantaethau cysylltiol.

Technegol

  • Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg

a Mathemateg.
































Cymwysterau Gofynnol

Peidiwch â newid y blwch hwn

· Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

· Bydd pob ymgeisydd allanol yn gorfod cwblhau cyfnod

prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf o fewn HMPPS.

· Mae’n ofynnol i holl staff ddatgan pa un a ydynt yn aelod o

grŵp neu sefydliad mae HMPPS yn ei ystyried yn hiliol.













Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

37 awr yr wythnos










PS-JES-0046 Pay Band 4 Victim Liaison Officer v4.0