Swydd Ddisgrifiad (SDd)

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS)

NPS Band Cyflog 5

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Swydd Ddisgrifiad:
Cydlynydd Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA)





Cyfeirnod y Ddogfen

NPS-JES -0058_MAPPA Co-ordinator_v1.0

Math o ddogfen

Rheoli

Fersiwn

1.0

Dosbarthiad

Annosbarthedig

Dyddiad cyhoeddi


Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Pennaeth y Grŵp

Awdurdodwyd gan

Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd


Swydd Ddisgrifiad



Teitl y Swydd

Cydlynydd Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA)

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS)

Band

Band Cyflog NPS 5




Trosolwg o’r swydd

Mae cydlynydd MAPPA yn cefnogi, ac yn atebol i, Fwrdd Rheoli Strategol (SMB) lleol MAPPA i reoli gweithgaredd MAPPA.


Y nod yw anelu at sicrhau bod y broses o reoli risg amlasiantaethol yn canolbwyntio ar y bobl iawn mewn modd prydlon ac effeithlon. Mae'n helpu i sicrhau y cyflawnir cynlluniau yn gadarn ac y gellir eu hamddiffyn, sy'n mynd i'r afael â dangosyddion hysbys o niwed difrifol i eraill.


Mae hon yn swydd reoli a ymgymerir ar ran y SMB lleol o fewn tîm amlddisgyblaethol. Bydd deiliad y swydd yn glynu at bolisïau, nodau a gwerthoedd ei asiantaethau.

Crynodeb

Yn unol â chanllawiau cenedlaethol MAPPA, cydlynydd MAPPA yw'r pwynt cyswllt unigol ar gyfer MAPPA ac mae ganddo/i gyfrifoldeb cyffredinol am oruchwylio trefniadau’r MAPPA.


Rhaid i ddeiliad y swydd gadw at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.


Os yw’n berthnasol i’r rôl, efallai bydd gofyniad i chi weithio y tu allan i oriau gwaith arferol.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:


  • Bod yn atebol i’r SMB

  • Bod yn bwynt cyswllt unigol ar gyfer rheoli troseddwyr MAPPA

  • Gweithio ar ran y SMB i weithredu'r broses MAPPA fel yr amlinellir yng nghanllawiau MAPPA

  • Sicrhau y caiff gwybodaeth ei rhannu'n effeithiol ac yn briodol

  • Sicrhau bod data ystadegol yn cael ei gasglu a'i weithredu fel sy'n ofynnol yng nghanllawiau MAPPA

  • Gweithio ar ran y SMB i weithredu cynllun busnes y SMB

  • Darparu hyfforddiant angenrheidiol a sicrhau ansawdd ar gyfer rheoli troseddwyr MAPPA

  • Bod yn bwynt cyswllt canolog ViSOR ar gyfer yr ardal MAPPA

  • Darparu rheolaeth ac arweinyddiaeth effeithiol i'r tîm

  • Bod yn atebol am ansawdd cyflwyno arfer da a gwella perfformiad y tîm gan gydymffurfio â’r polisi

  • Sicrhau bod holl adnoddau'r tîm yn cael eu defnyddio mewn modd cost effeithiol ac yn rhoi'r gwerth gorau o ran rheoli'r gyllideb a gwireddu nodau strategol MAPPA

  • Cael mynediad at, dehongli a dadansoddi data perfformiad a'i ddefnyddio mewn ffordd ragweithiol i fwyhau perfformiad MAPPA, gwerthuso ymarfer a chyflawni nodau MAPPA

  • Rheoli datblygiad staff, materion yn ymwneud â thanberfformio, presenoldeb, iechyd a diogelwch, cysylltiadau rhwng gweithwyr a materion amrywiaeth mewn ffordd ragweithiol.

Mabwysiadu safbwynt cyson, teg a gwrthrychol wrth wneud penderfyniadau ynghylch materion staff unigol


  • Hyrwyddo diwylliant o arloesi a gwelliant parhaus o ran darparu gwasanaeth MAPPA

  • Cyflawni rôl arweiniol a darparu cyfeiriad wrth weithio â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol yn unol â chynllun busnes y SMB, a chynrychioli'r NPS fel sy'n briodol i'r rôl

  • Hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng yr Awdurdodau Cyfrifol a'r Asiantaethau sydd â Dyletswydd i Gydweithio a sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf

  • Datblygu a darparu sesiynau hyfforddi/briffio ar gyfer MAPPA i staff yr Awdurdodau Cyfrifol a staff yr Asiantaethau sydd â Dyletswydd i Gydweithio perthnasol

  • Sicrhau bod trefniadau MAPPA lleol yn cydymffurfio â chyfrifoldebau diogelu statudol

  • Rhaid i ddeiliad y swydd arddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant bob amser a deall eu bod yn berthnasol i’r gwaith maent yn ei wneud.


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.



Cymwyseddau

Bydd y cymwyseddau canlynol yn cael eu hystyried yn ystod y broses ddethol:


  • Arwain a Chyfathrebu

  • Gweithio ar y Cyd ac Mewn Partneriaeth

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Darparu Gwasanaeth o Safon

Cymwysterau Gofynnol

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis.. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf i HMPPS.

  • Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai.

Sgiliau Hanfodol,
Cymwysterau, Achrediadau a
Chofrestriadau

HANFODOL

  • Profiad helaeth gyda chefndir o arfer da mewn amryw o amgylchiadau (gan gynnwys asesiadau risg a rheoli troseddwyr ac o fewn amgylchedd amlddisgyblaethol)

  • Dealltwriaeth o rôl MAPPA yn y System Cyfiawnder Troseddol

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o gynllun cysylltu â dioddefwyr ar gyfer dioddefwyr troseddau

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cais ViSOR

  • Tystiolaeth o’r gallu i werthuso arferion

  • Tystiolaeth o'r gallu i ddarparu persbectif ymarfer ar ddatblygu polisïau

  • Profiad o weithio dan bwysau a chyflawni yn erbyn terfynau amser tynn

  • Profiad o weithio'n hyblyg fel aelod o’r tîm i gyflawni targedau perfformiad

  • Profiad o gyfrannu at ddarparu systemau gweinyddol a systemau gwybodaeth effeithiol

  • Profiadau dangosadwy mewn rheoli/cefnogi newid a rhoi gwelliannau ar waith o ran safon ac effeithlonrwydd

  • Gallu dangos sgiliau TG da, gan gynnwys tystiolaeth o'r gallu i ddehongli adroddiadau perfformiad a’u rhoi ar waith

  • Profiad o hybu a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn fewnol ac yn allanol

  • Y gallu i roi polisïau iechyd a diogelwch y gwasanaeth ar waith


DYMUNOL

  • Profiad ar lefel rheoli cyfatebol o fewn amgylchedd amlddisgyblaethol cymhleth

  • Profiad o recriwtio a dethol staff

  • Profiad o hyfforddi staff

  • Profiad o weithio ag Awdurdodau Cyfrifol (h.y. yr Heddlu a HMPPS) a gydag Asiantaethau sydd â Dyletswydd i Gydweithio (e.e. asiantaethau Tai, Cyffuriau/Alcohol)

  • Profiad o gynnal ymchwiliadau cysylltiadau gyda gweithwyr (e.e. disgyblu, galluogrwydd, cwynion, ac ati)

  • Profiad o fonitro a gweithio o fewn cyllideb.

  • Deall sut i ddehongli polisi a gweithdrefnau Adnoddau Dynol a’u rhoi ar waith



Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol) a Lwfansau



NPS-JES-0058_MAPPA Co-ordinator_v1.0