Swydd Ddisgrifiad

Band 4

Proffil Grŵp - Gweithiwr Achos

Swydd Ddisgrifiad - Gweithiwr Achos Rheoli Troseddwyr: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar


Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-2255-JD-B4 : CW: Offender Management: Prison Offender Manager v3.0

Math o Ddogfen

Rheolaethol

Fersiwn

3.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

13 Hydref 2020

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd

Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad

Teitl Swydd

Gweithiwr Achos Rheoli Troseddwyr: Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar

Proffil Grŵp

Gwaith achos

Lefel yn y Sefydliad

Cyflenwi

Band

4

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o reoli ac asesu rhai carcharorion risg isel i ganolig ac yn paratoi, gweithredu, adolygu a gwerthuso eu cynlluniau dedfrydu gyda nhw. Bydd deiliad y swydd yn meithrin perthnasoedd effeithiol, priodol a chefnogol gyda’r carcharorion, gyda’r nod o leihau aildroseddu.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi swyddogion prawf yn unig wrth reoli achosion carcharorion risg uchel. Bydd deiliad y swydd wedi cael hyfforddiant dethol a hyfforddiant ychwanegol i gyflawni’r swydd gyflenwi arbenigol hon fel Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar.

Mae hon yn swydd anweithredol heb gyfrifoldebau rheolaeth linell.

Bydd yn cynnal gweithgareddau/dyletswyddau rheolaidd gyda charcharorion.

Crynodeb

Dyma rai o’r tasgau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r rôl hon:

  • Goruchwylio, rheoli, cyfeirio a chynghori carcharorion yn briodol a diogel wrth gyflawni pob gweithgaredd.

  • Deall, gweithredu a chydymffurfio â pholisïau lleol a chenedlaethol.

  • Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol gyda'r carcharorion a’r staff.

  • Cynnal a diweddaru systemau yn unol â chytundebau lleol.

  • Paratoi dogfennau perthnasol i reolwyr at ddibenion gwirio/sicrhau ansawdd.

  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd perthnasol fel y bo'r angen.

  • Bydd yn asesu ac yn rheoli’r risg a berir gan droseddwyr i ddiogelu dioddefwyr troseddau a’r cyhoedd drwy’r canlynol:

    • Rhoi gwybodaeth a chyngor i asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill a sefydliadau partner

    • Goruchwylio carcharorion tra byddant yn y carchar.

    • Cyfrannu at reoli risg

    • Gweithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i atal aildroseddu a diwallu anghenion dioddefwyr a throseddwyr.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Cwblhau ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr gydag achosion risg isel i ganolig.

  • Ni fydd unrhyw berchnogaeth ar achosion risg uchel, ond rhoddir cymorth i swyddogion prawf wrth reoli achosion carcharorion risg uchel pan fo angen.

  • Fel Rheolwr Troseddwyr yn y Carchar, bod yn rhan o’r holl brosesau perthnasol yn y carchar, fel Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm a lleihau trais/gwrth-fwlio ar gyfer y rheini sydd yn eich llwyth achos, os yw hyn yn berthnasol.

  • Gweithredu fel Rheolwr Achos Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm ar gyfer unigolion os yw’n briodol (ni ddylid defnyddio Rheolwyr Troseddwyr yn y Carchar fel Rheolwyr Achosion Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm fel mater o drefn, dim ond pan fo’n briodol gwneud hynny).

  • Cyfweld â charcharorion o fewn amserlenni penodol ar ôl iddynt gyrraedd. Gosod ac adolygu targedau gyda’r carcharorion a diweddaru'r nodiadau rheoli achosion ar PNOMIS neu systemau TG perthnasol.


  • Defnyddio'r System Asesu Troseddwyr (OASys) i nodi risgiau a rheoli troseddwyr yn briodol.

  • Cael rhagor o wybodaeth os oes angen gan asiantaethau allanol i gwblhau adroddiad OASys cynhwysfawr.

  • Arwain y cyfarfod cynllunio dedfryd er mwyn paratoi ac adolygu cynlluniau priodol.

  • Cydlynu’r gweithgareddau o fewn y cynllun dedfrydu drwy gysylltu â charcharorion ac adrannau ac asiantaethau eraill, yn cynnwys casglu a chyfnewid gwybodaeth a deall/ymchwilio i farn anghyson am y cynnydd a wnaed gan y carcharorion.

  • Annog a chefnogi carcharorion i gymryd rhan mewn addysg, ymyriadau a gweithdai fel y’u diffinnir yn y cynllun dedfrydu. Datblygu strategaethau i helpu carcharorion i oresgyn eu hamharodrwydd i gymryd rhan.

  • Darparu cyngor ac asesiad proffesiynol, yn cynnwys adroddiadau ysgrifenedig i asiantaethau cyfiawnder troseddol a sefydliadau partner.

  • Cysylltu â Rheolwyr Troseddwyr Cymunedol ynghylch Rhyddhau ar Drwyddedau Dros Dro (ROTL) a Chyrffyw Cyfyngu i’r Cartref (HDC). Gwneud argymhellion i Reolwr y Carchar ar addasrwydd carcharorion i gael eu rhyddhau’n gynnar. Hysbysu’r asiantaethau perthnasol am ddyddiadau rhyddhau a chyfeiriad carcharorion yr ystyrir eu bod yn peri risg pan gânt eu rhyddhau.

  • Cefnogi Rheolwyr Troseddwyr Cymunedol i gyflawni cynlluniau i alluogi carcharorion a gaiff eu galw’n ôl i gael eu rhyddhau unwaith eto.

  • Cwblhau’r holl waith papur ar gyfer yr achosion, yn cynnwys gwaith papur sy’n benodol i garcharorion oes a charcharorion ar ddedfrydau canolraddol (ISP) yn unol â’r polisïau a’r safonau perthnasol a’r amserlenni a bennwyd.

  • Tynnu sylw’r Pennaeth Rheoli Troseddwyr neu’r Swyddog Cynorthwyol at unrhyw garcharor sy’n peri pryder sylweddol yn sgil ei ymddygiad. Gallai’r pryderon ymwneud ag amrywiaeth o faterion, er enghraifft, unrhyw garcharor sydd wedi cyflwyno risg o hunanladdiad neu hunan-niwed yn y gorffennol, neu os oes unrhyw bryderon heb eu datrys ynghylch dioddefwyr neu droseddau pellach ac aflonyddu hiliol.

  • Cyfrannu at Fyrddau Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) a’u mynychu a gweithio gyda phob asiantaeth allanol berthnasol i ddiogelu'r cyhoedd wrth ryddhau carcharorion o dan MAPPA.

  • Cysylltu â’r adran Gwladolion Tramor neu ag Asiantaeth Ffiniau’r DU ynghylch carcharorion cenedlaethol tramor fel y bo’n briodol.

  • Cynnal gwiriadau cyswllt plentyn er mwyn diogelu’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth ddiogelu berthnasol ag awdurdodau.

  • Ymgymryd â rôl y cynghorydd ailsefydlu ar gyfer carcharorion yn y llwyth achosion penodol. Llunio, datblygu a chynnal y cysylltiadau rhwng y rhaglenni, y cynnydd a gaiff ei wneud gan y cyfranogwyr neu fel arall a llwybr parhaus y carcharor drwy ei ddedfryd.

  • Cydweithio â chydweithwyr a chynnal perthnasoedd tîm effeithiol, yn arbennig gyda Gweithwyr Allweddol.

  • Dangos sgiliau modelu pro-gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau pro-gymdeithasol a herio ymddygiad ac agweddau gwrth-gymdeithasol yn gyson.

  • Defnyddio systemau cyfrifiadurol i lunio, diweddaru a chynnal cofnodion a dogfennau eraill o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt.

  • Gweithio yn unol â nodau a gwerthoedd HMPPS.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailystyried y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a chaiff hyn ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg (pan nodir hynny yng Nghymru).

Ymddygiadau

?

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol


?

Cydweithio


?

Cyfathrebu a Dylanwadu


?

Cyflawni'n Gyflym


?

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Gallu

  • Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn gwneud asesiadau a phenderfyniadau.

  • Gallu cyfathrebu’n glir ar lafar ac ar bapur gyda throseddwyr, gweithwyr proffesiynol ac mewn gwrandawiadau fel Byrddau Parôl.

  • Gallu cydymdeimlo’n adeiladol â phobl o gefndiroedd amrywiol.

  • Gallu cwblhau’r holl hyfforddiant gorfodol fel y bo’n ofynnol i gefnogi’r swydd.

Profiad

  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol/personol, a defnyddio disgresiwn wrth ddelio â materion cyfrinachol a sensitif.

  • Dealltwriaeth o ffactorau yn ymwneud â throseddu, e.e. camddefnyddio sylweddau, problemau llety.

  • Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli achosion ac ymrwymiad iddynt

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli risgiau/asesiadau risg yn ymwneud â throseddwyr a’r effaith ar ddioddefwyr trosedd.

  • Profiad o gynllunio a chydlynu gwaith.

  • Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad.

  • Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y system cyfiawnder troseddol.

  • Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi troseddu.

  • Wedi cael Hyfforddiant Staff Ymwybyddiaeth o Ferched (WASP) os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i ferched.

  • Wedi cael hyfforddiant Rhaglen Staff Ymwybyddiaeth o’r Ifanc (JASP) ac amddiffyn plant os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i Bobl Ifanc.

  • Gwybodaeth ymarferol o ddeddfwriaeth berthnasol a’r Safonau Cenedlaethol.

  • Gwybodaeth o Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu risgiau/anghenion.

Technegol

Dymunol - Cymhwyster/cymwysterau academaidd lefel uwch.

Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn y bydd yn cychwyn swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

  • Mae’n rhaid i’r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

Lwfansau

I’w adael yn wag

I’w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi (JES) yn unig







Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn gwneud asesiadau a phenderfyniadau.

Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol/personol, a defnyddio disgresiwn wrth ddelio â materion cyfrinachol a sensitif.

Dymunol - Cymhwyster/cymwysterau academaidd lefel uwch.

Cydweithio

Gallu cyfathrebu’n glir ar lafar ac ar bapur gyda throseddwyr, gweithwyr proffesiynol ac mewn gwrandawiadau fel Byrddau Parôl.

Dealltwriaeth o ffactorau yn ymwneud â throseddu, e.e. camddefnyddio sylweddau, problemau llety.

Cyfathrebu a Dylanwadu

Gallu cydymdeimlo’n adeiladol â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli achosion ac ymrwymiad iddynt.

Cyflawni'n Gyflym

Gallu cwblhau’r holl hyfforddiant gorfodol fel y bo’n ofynnol i gefnogi’r swydd.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli risgiau/asesiadau risg yn ymwneud â throseddwyr a’r effaith ar ddioddefwyr trosedd.

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Profiad o gynllunio a chydlynu gwaith.

Profiad o weithio gyda grwpiau neu unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad.

Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth

OR-JES-2255-JD-B4 : CW : Offender Management: Prison Offender Manager v3.0

Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y system cyfiawnder troseddol.

Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi troseddu.

Wedi cael Hyfforddiant Staff Ymwybyddiaeth o Ferched (WASP) os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i ferched.

Wedi cael hyfforddiant Rhaglen Staff Ymwybyddiaeth o’r Ifanc (JASP) ac amddiffyn plant os byddwch chi’n gweithio mewn sefydliad i Bobl Ifanc.

Gwybodaeth ymarferol o ddeddfwriaeth berthnasol a’r Safonau Cenedlaethol.

Gwybodaeth o Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu risgiau/anghenion.

OR-JES-2255-JD-B4 : CW : Offender Management: Prison Offender Manager v3.0