OFFICIAL
LAA Job Description Template V7
Teitl Swydd & Gradd: |
Gweithiwr Achos Cymraeg - Gradd AO |
Math o Gytundeb: |
Parhaol |
Amrediad Cyflog (yn dibynnu ar leoliad): |
Cenedlaethol - £ 24,202 Nodwch, heblaw eich bod chi wedi’ch cyflogi gan y Gwasanaeth Sifil ac yn ennill mwy na’r isafswm uchod, os ydych chi’n llwyddiannus, cynigir yr isafswm ar gyfer y radd yn dibynnu ar eich lleoliad. |
Lleoliad: |
Caerdydd |
Cyfarwyddiaeth: |
Rheolaeth Achosion |
Tîm: |
Cyflawni Gweithrediadau |
Patrwm Gweithio: |
Cefnogir y swydd gan bolisi gweithio hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn cynnwys cydweithwyr sy’n gweithio’n hyblyg, o bell (fel rhan o weithio ‘hybrid’), yn rhan amser neu drwy rannu swydd ayyb. Os ydych chi’n gwneud cais am swydd rhan amser, nodwch er mwyn cyrraedd gofynion busnes bydd rhaid gweithio o leiaf 21 awr ac o leiaf 3 diwrnod yr wythnos. Er mwyn cyrraedd anghenion cyfreithiol, os ydych chi rhwng 16 a 18 oed ac yn llwyddiannus, bydd angen i chi gwblhau prentisiaeth ar ôl eich hyfforddiant cychwynnol ar y swydd. |
Ymateb i: |
Rheolwr Tîm |
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: |
5ed o Orffennaf 2025 |
Rydym yn asiantaeth gweithredol o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym yn gyfrifol am weithredu gweinyddiaeth y gronfa Cymorth Gyfreithiol er mwyn darparu cyngor Cymorth Cyfreithiol sifil a throseddol i bobl yn Lloegr a Chymru.
Mae ein pobl wrth galon cyflawni rhagoriaeth. Yn cyflogi rhyw 1,200 o gydweithwyr ar draws Cymru a Lloegr, rydym yn teimlo’n falch bod gennym rhai o’r canlyniadau ‘Arolwg Pobl’ gorau yn y Gwasanaeth Sifil.
Mae'r gwasanaeth sifil ag ymrwymiad i ddenu, cadw a buddsoddi mewn talent ble bynnag byddwn yn ei ddarganfod. Er mwyn dysgu mwy gweler Cynllun Bobl y Gwasanaeth Sifil a Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiad y Gwasanaeth Sifil.
Fel corff ‘Hyderus o ran Anabledd’, byddwn yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr gydag anabledd sy’n cyrraedd meini prawf y swydd hon. O dan Ddeddf Gydraddoldeb 2010, diffinnir anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol sylweddol a thymor-hir ar eich gallu i gynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd a sydd wedi para, neu y ddisgwylir iddo bara, o leiaf 12 mis.
Os ydych yn ymateb i swydd o fewn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol ac eisiau cael eich ystyried o dan y rhaglen gwarantu cyfweliad, sicrhewch eich bod yn dynodi hyn yn eich cais a gadwech i ni wybod os oes unrhyw addasiadau rhesymol a fydd angen yn ystod y ‘sifft’ neu brosesau dethol yn hwyrach.
Nod yr ACC yw adeiladu sefydliad sydd yn agored, cynhwysol ac sydd wir yn gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth ei weithlu. Sefydliad sydd yn adlewyrchu ac yn deall anghenion y gymdeithas amrywiol rydym yn gwasanaethu, boed hynny o ran cefndir cymdeithasol, rhywedd, oed, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, credoau, anabledd neu salwch hirdymor neu gyfrifoldebau gofal.
Addasiadau Rhesymol
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein proses recriwtio yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Os oes gennych anabledd neu gyflwr hirdymor (er enghraifft dyslecsia, gorbryder, awtistiaeth, cyflwr symudedd neu golli clyw) ac angen i ni wneud unrhyw addasiadau rhesymol er mwyn cefnogi chi trwy’r proses recriwtio, gadewch i ni wybod trwy ychwanegu’r wybodaeth i’r system ceisiadau neu e-bostio LAARecruitment@justice.gov.uk ar ôl i chi ceisio er mwyn i ni drafod opsiynau gyda chi.
Yr adran Rheolaeth Achosion ydy swyddogaeth ddarparu yr ACC, ac mae ein staff yn sicrhau bod 600,000 o gleientiaid newydd pob blwyddyn yn cael mynediad at y cyfiawnder rydyn nhw ei angen, a bod darparwyr yn cael eu talu’n deg ar gyfer darpariaeth cymorth cyfreithiol. Fel rhan o’r gwaith rydym yn ei wneud, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n ariannu achosion priodol wrth amddiffyn arian cyhoeddus.
Fel aelod o’n Tîm Rheolaeth Achosion, bydd rhaid i Weithwyr Achos ar y lefel hon ddeall y rheoliadau a chanllawiau er mwyn iddynt:-
Brosesu ceisiadau am gymorth cyfreithiol; neu
Prosesu hawliau am gostau; neu
Ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chasglu taliadau
Cyfrifoldebau Allweddol:
Adeiladu a chynnal dealltwriaeth o gyfarwyddiadau a rheoliadau cyfredol a’u defnyddio i wneud penderfyniadau cywir ynglŷn â gwaith achos.
Darparu atebion cywir ac amserol i ohebiaeth a galwadau ffôn gan gwsmeriaid mewnol ac allanol.
Cynnig gwasanaeth iaith Gymraeg, yn cynnwys cymryd galwadau ffôn, gohebiaeth a chyfieithu dogfennau.
Gweithio at dargedau cynhyrchedd ac ansawdd mewn amrywiaeth o ffrydiau gwaith.
Cymryd rhan mewn ymarferion Rheoli Ansawdd a chysondeb. Sicrhau y gwneir gwelliannau lle bo’u hangen.
Sicrhau y prosesir pob darn o ddata yn gywir, yn sicr ac yn unol â chanllawiau aswiriant gwybodaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Darparu cefnogaeth, arweiniad a mentora i gydweithwyr lle bo angen.
Gwybodaeth, Profiad a Sgiliau Hanfodol |
|
Manyleb Person |
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, gan y darperir hyfforddiant llawn. Fodd bynnag, rydym yn chwilio am rywun sy'n:
|
Proses Ymgeisio |
Er mwyn ymgeisio, cwblhewch y datganiad cyfaddasrwydd ar-lein (uchafswm o 500 gair) gan fanylu ar sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl. Dylai’r datganiad arddangos eich gallu i wneud pob un o’r meini prawf hanfodol a rhestrir, gan ddefnyddio enghreifftiau er mwyn cryfhau eich cais. Webinar - Mae webinar 45-munud wedi'i drefnu ar 26ain o Fehefin 2025, yn dechrau am 3:00yp i ganiatáu i ymgeiswyr drafod y rôl ymhellach. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cofrestrwch eich diddordeb trwy'r ddolen hon: LAA recruitment webinar: Welsh language caseworker (AO): Cardiff Tickets, Thu 26 Jun 2025 at 15:00 | Eventbrite |
Profiad Cyfweliad/Asesiad |
Os ydych yn llwyddiannus trwy’r cam ymgeisio, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad wyneb-wrth-wyneb neu ar Microsoft Teams, lle byddwch yn cael eich asesu yn erbyn y canlynol:
|
Bwriadwn gyflawni’n rhestr fer yr wythnos wedi’r 7fed o Orffennaf 2025
Cynhaliwn gyfweliadau yr wythnos wedi’r 28ain o Orffennaf 2025
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, cysylltwch â - Abbey Ross (Hi) Abbey.Ross1@justice.gov.uk
Os oes gennych unrhyw gwyn ynglŷn â’r gweithgaredd recriwtio hwn, rhannwch eich pryderon drwy ebostio LAARecruitment@justice.gov.uk i ddechrau. Rydym yn bwriadu ateb unrhyw gwyn o fewn 10 diwrnod gweithio.
Os ydych yn anfodlon gyda’n hateb, byddwn yn blaenyrru eich cwyn i’r Comisiwn Gwasanaeth Sifil, corff annibynnol, er mwyn ei ystyried.
OFFICIAL