Gwasanaeth Llysoedd
a Thribiwnlysoedd EF
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
Lefel Is-glwstwr
Teitl Swydd: Arweinydd Tîm
Mae hwn yn swydd ddisgrifiad cyffredinol ac mae’n cynnwys cwmpas gwaith tebygol y deiliad swydd.
Ystod cyflog neu gyfwerth: Band EO
Cefndir
Cafodd y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd a’r Gwasanaeth Llysoedd Ei Fawrhydi eu hintegreiddio i un Asiantaeth, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi ar 1 Ebrill 2011. Mae dod â’r ddau sefydliad hyn at ei gilydd wedi dileu dyblygu mewn swyddogaethau rheoli a chynyddu effeithlonrwydd y weinyddiaeth, sydd wedi galluogi GLlTEF i leihau’r hyn mae’n ei wneud i ffwrdd o’r rheng flaen yn sylweddol.
O ganlyniad i hyn, mae yna ddisgwyliadau mawr ar yr holl staff waeth beth yw eu swydd ac fe ddisgwylir i bawb berfformio’n dda. Mae’r sefydliad yn mabwysiadu ffyrdd newydd neu well o weithio yn gyson er mwyn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n hanfodol yn unig.
Bydd angen i staff EO arddangos ymrwymiad i bedwar prif egwyddor: Newid parhaus, yr Egwyddorion LEAN, rheoli ansicrwydd a gwella perfformiad. Rhaid i’r unigolion a benodir i rolau newydd o fewn GLlTEF ymrwymo o ddifri i'r egwyddorion hyn a chyflwyno tystiolaeth o hyn yn eu cais.
Trosolwg
Fel sefydliad newydd mae GLlTEF ar ddechrau cyfnod o newid sylweddol. Mae’n rhaid cael arweinyddiaeth gref er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus. Bydd disgwyl i’r rhai hynny sydd â chyfrifoldeb am reoli staff ddarparu arweiniad a ffocws clir a chefnogi'r newidiadau fydd yn cyflawni gwell effeithiolrwydd. Mae Cyfarwyddwyr Cyflawni GLlTEF yn disgwyl i reolwyr y sefydliad weithredu'n onest ac yn agored; disgwylir iddynt arddangos ymrwymiad i newid drwy gynnwys a grymuso eraill a chyflawni canlyniadau.
Prif bwrpas y rôl yw
Rheoli a chynllunio llwyth gwaith tîm sy'n darparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'r holl randdeiliaid, y farnwriaeth a rheolwyr.
Arwain a rheoli tîm o staff, gan sicrhau bod ei aelodau’n drefnus, ac yn gwbl fedrus i gyflawni eu hamcanion gwaith, gan ddefnyddio Lean, Byrddau gwybodaeth tîm, Gweithdrefnau gweithredu safonol
ac offer gwella parhaus eraill.
Cynorthwyo i gyflawni perfformiad yn erbyn targedau.
Prif gyfrifoldebau
Gweithrediadau |
|
Arwain Tîm |
|
Prosesu a rheoli gwaith achos |
|
Cyfrifo a dadansoddi |
|
Cyfathrebu gyda’r cyhoedd, rheithgorau, y farnwriaeth, defnyddwyr llys a thribiwnlys eraill a chynrychiolwyr asiantaethau a sefydliadau eraill |
|
Cynrychiolaeth |
|
Arbenigedd |
|
Atebolrwydd |
|
Dyletswyddau eraill
Mae gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill, ar gais rheolwr llinell, sy’n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.
Cyflawni Gweithredol yn GLlTEF
Mae’r rôl hon yn rhan o’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol. Yr unigolion hyn yw wyneb allanol y llywodraeth gan eu bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd mewn amryw o rolau gwahanol. Maent yn gweithio mewn amryw o wahanol adrannau ac asiantaethau ar draws y DU, yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn
Rolau wyneb yn wyneb yn GLlTEF er enghraifft tywysydd llys
Rolau yng Nghanolfan Gyswllt GLlTEF er enghraifft cynghorwyr yn y ganolfan alwadau
Rolau prosesu yn GLlTEF er enghraifft staff yn y Ganolfan Hawliadau am Arian yn y Llys Sirol a Gweinyddiaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Mae bod yn rhan o’r proffesiwn cyflawni gweithredol yn golygu eich bod yn perthyn i gymuned traws-lywodraethol o bobl. Bydd yn gyfle i chi gael mynediad i wybodaeth am safonau proffesiynol, datblygu sgiliau a chymwysterau fydd yn eich helpu chi i barhau i wella eich datblygiad a'ch perfformiad ac estyn eich opsiynau gyrfa.