SWYDDOGOL

Swydd Ddisgrifiad - Y Gwasanaeth Prawf (PS)

Band 5 PS

Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Prawf

Swydd Ddisgrifiad: Rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf

Cyfeirnod y Ddogfen


PS-JES-0111 Rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf

Math o Ddogfen

Rheolaeth

Fersiwn

1.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

3 Rhagfyr 2024

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd

Awdurdodwyd gan Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad

Teitl y Swydd

Rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf

Cyfarwyddiaeth

Gwasanaeth Prawf (rhanbarthau y Gwasanaeth Prawf a chyfarwyddiaethau cenedlaethol gan gynnwys Adeiladau Cymeradwy a’r Adran Diogelwch Gwladol)

Band

5

Trosolwg o’r swydd

Riportio’n uniongyrchol i uwch reolwr, er enghraifft, Pennaeth

Integreiddio Cymunedol, Pennaeth Lleihau PDU, bydd y

Rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf yn gweithio ar draws un

o’r rhanbarthau Gwasanaeth Prawf yng Nghymru neu Loegr i arwain ar ac ymgorffori’r agenda Ymgysylltu â Phobl ar Brawf ar ran y Gwasanaeth Prawf.

Byddwch yn gweithio ar lefel ranbarthol a strategol, yn darparu rheolaeth ac arweinyddiaeth i dîm o Gydlynwyr Mentoriaid

Cymheiriaid gyda’r nod o weithio gyda rhanddeiliaid i leihau aildroseddu drwy wella ymgysylltu â phobl ar brawf. Mae ymgorffori’r gwaith hwn o fewn y gwasanaeth prawf yn alinio ag agwedd y sefydliad tuag at adsefydlu a nodwyd yn y strategaeth adsefydlu, a gyflawnir drwy weithredu’r Siarter Profiad Byw.

Byddwch yn cynrychioli’r rhanbarth ar lefel uwch ar draws sawl asiantaeth allanol a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â

Phrofiad Byw. Yn yr un modd, byddwch yn darparu arweinyddiaeth fedrus o fewn y Gwasanaeth Prawf i ddylanwadu’r agenda Ymgysylltu â Phobl ar Brawf, ochr yn ochr â’r Siarter Profiad Byw, gan gynnwys gwella perfformiad, ansawdd a chanlyniadau. Dylech hefyd nodi’n strategol a chysylltu sut y gall agenda profiad byw wella holl feysydd y gwasanaeth prawf e.e. ymyrraeth, cynlluniau dedfryd, ac ati.

Byddwch yn gweithio ar draws y rhanbarth ac wedi eich lleoli o fewn swyddfa brawf gymunedol, gyda’r disgwyliad y bydd deiliaid swydd yn teithio fel bo’r angen, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd â charchardai penodedig, swyddfeydd prawf a swyddfeydd pencadlys.

Crynodeb

Fel Rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf, disgwylir i chi chwarae rôl arweinyddiaeth uwch strategol allweddol o dan y Pennaeth Integreiddio Cymunedol (HoCI) neu’r Pennaeth Lleihau Aildroseddu yng Nghymru (HRRW) a darparu arweinyddiaeth i dîm i gyflawni’r Strategaeth Ymgysylltu â Phobl ar Brawf o fewn y Gwasanaeth Prawf.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gydag ystod eang o bartneriaid mewnol ac allanol i wella’r defnydd o lais Profiad Byw i ddylunio’r Gwasanaeth Prawf a phartneriaid ac asiantaethau allanol, gan gyfrannu at leihau aildroseddu o fewn y system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau i bobl ar brawf ac yn y carchar, datblygu cyfleoedd dan arweiniad cyfoedion a chyfleoedd gwaith i bobl gydag euogfarnau. Bydd y gwaith hwn yn gwneud cyfraniad allweddol i leihau aildroseddu a lleihau’r nifer o ddioddefwyr troseddau, a fydd yn cefnogi amcanion a rennir gan HMPPS gyda’r strategaeth adsefydlu.


Mae’r agenda Ymgysylltu â Phobl ar Brawf yn gymhleth, a bydd angen i chi ymgysylltu gyda, ac arwain ar amrywiol themâu, sy’n cynnwys themâu rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gweithio gyda charfannau pwrpasol a risg uchel fel pobl sydd wedi eu cael yn euog o droseddau rhywiol a MAPPA yn dod o hyd i ffyrdd cynhwysol i ymgysylltu â, a chynnwys carfan.

Bydd gennych sgiliau dadansoddi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ardderchog, a’r gallu i gydweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i ddatrys problemau a chanfod datrysiadau pragmatig sy’n darparu deilliannau gwell i bobl ar brawf.

Rhaid i ddeiliad y swydd lynu at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon. Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd weithio’n agos gyda swyddfa’r wasg a chyfathrebu mewnol i reoli cyfathrebu sensitif o amgylch gwaith profiad byw ac ymgysylltu â phobl ar brawf.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a

Dyletswyddau

Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • O dan arweiniad yr HoCI/HRRW rhanbarthol, bydd deiliad y swydd yn datblygu a darparu blaenoriaethau strategol Ymgysylltu â Phobl ar Brawf y Gwasanaeth Prawf rhanbarthol, sy’n alinio gyda blaenoriaethau cenedlaethol presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu’n uniongyrchol at ddarparu Siarter Ymgysylltu â Phobl ar Brawf/Profiad Byw y Gwasanaeth Prawf.

  • Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol gydag uwch arweinwyr allweddol sawl rhanddeiliad allanol, gan gynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Byrddau Cyfiawnder Troseddol.

  • Cynrychioli’r Gwasanaeth Prawf yn allanol mewn cyfarfodydd partneriaeth lleol a rhanbarthol allweddol, yn ogystal ag yn fewnol gydag uwch dimau rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwch hefyd yn datblygu briffiau a chyflwyniadau i ddylanwadu’r agenda/deilliannau ymgysylltu â phobl ar brawf yn y fforymau hyn.

  • Sgiliau dadansoddi effeithiol i nodi heriau ar sawl lefel a chyd-ddibyniaeth rhwng ymgysylltu â phobl ar brawf a’r Siarter Profiad Byw ar lefel ranbarthol, a datblygu mentrau lleol sy’n cyflawni deilliannau gwell, gan gynnwys gwella perfformiad ac ansawdd.

  • Dehongli gwybodaeth amrywiol a hynod gymhleth o sawl ffynhonnell i nodi cyfleoedd lleol a rhanbarthol, a chefnogi trafodaethau strategol gydag ystod eang o bartneriaid i sicrhau dull system gyfan ar gyfer cyflawni ffrydiau gwaith sydd â blaenoriaeth yn genedlaethol.

  • Chwarae rôl hanfodol i ddatblygu Llywodraethiant Gweithredol ar gyfer Ymgysylltu â Phobl ar Brawf o fewn HMPPS, drwy ddarparu rhyngwyneb rhwng timau polisi a thimau chenedlaethol o fewn HMPPS a darpariaeth y gwasanaeth prawf yn rhanbarthol.

  • Cyfrifoldebau ariannol a chyllideb ar gyfer mentrau ar y cyd neu gyfleoedd comisiynu gyda phartneriaid iechyd a chyfiawnder, rheolwyr comisiynu a phartneriaeth a rheolwyr Iechyd a Chyfiawnder. Nodi ble mae angen codi achosion busnes i wella ymgysylltu â phobl ar brawf a’r agenda gwasanaeth prawf ehangach.


  • Yn gyfrifol am reoli’r Cydlynwyr Cyfoedion a staff eraill fel bo’r angen o fewn cyfarwyddiaeth ranbarthol neu genedlaethol y gwasanaeth prawf, gan gynnwys sicrhau y cyflawnir ffrydiau gwaith, perfformiad a matricsau ansawdd yn effeithiol.

  • Bod yn barod i deithio i hwyluso fforymau, hyfforddiant staff, ac ati.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd angen edrych eto ar addasiadau sylweddol o dan y Cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil

Ymddygiadau

  • Arweinyddiaeth

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cydweithio

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Newid a Gwella

Cryfderau

Sylwer: rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol - dewiswch o’r rhestr o ddiffiniadau cryfder y Gwasanaeth Sifil ar y fewnrwyd.

Profiad

  • Profiad helaeth ar lefel rheolwr canol, yn cynnwys rheoli staff.

  • Profiad o weithio ar draws ystod o grwpiau rhanddeiliaid ac Adrannau eraill o’r Llywodraeth, gan gynnwys profiad o ddylanwadu a rheoli gwrthdaro yn y lleoliadau hyn.

  • Profiad o fonitro perfformiad ac ansawdd mewn meysydd cyfrifoldeb yn erbyn targedau a bennir ymlaen llaw, pennu targedau lleol a rhoi gwelliannau angenrheidiol ar waith.

  • Profiadau dangosadwy mewn rheoli/cefnogi newid a rhoi gwelliannau ar waith o ran safon ac effeithlonrwydd.

  • Profiad o hybu a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant.

Dymunol

  • Profiad o gynnal ymchwiliadau cysylltiadau gyda gweithwyr (e.e. disgyblu, gallu, cwynion, ac ati).

  • Profiad o gyfrannu at y gwaith o ddatblygu cynlluniau busnes strategol er mwyn darparu gwell gwasanaethau.

Gofynion Technegol

• Gwybodaeth sylweddol am Brofiad Byw i’r sawl sy’n gadael y carchar ac o fewn y gwasanaeth prawf.

Gallu

  • Gallu arddangos sgiliau TG da, gan gynnwys tystiolaeth o'r gallu i ddehongli adroddiadau perfformiad a’u rhoi ar waith.

  • Tystiolaeth o'r gallu i werthuso ymarferion a darparu persbectif ymarfer ar ddatblygu polisïau

  • Sgiliau ysgrifenedig ac ar lafar ardderchog.

Isafswm

Cymhwysedd

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf o fewn HMPPS.

  • Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

a Lwfansau

Gadewch yn wag

I’w ddefnyddio gan Dîm JES yn unig

SWYDDOGOL

PS-JES-0111 Rheolwr Ymgysylltu â Phobl ar Brawf f1.0