Swydd Ddisgrifiad NPS (JD)

NPS Band 3

Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Swydd Ddisgrifiad: Gweithiwr Preswyl Adeilad Cymeradwy


Cyfeirnod y Ddogfen.

NPS-JES-0049_Pay Band 3 Approved Premises Residential Worker_v6.0

Math o Ddogfen

Rheolaeth

Fersiwn

6.0

Dosbarthiad

Annosbarthedig

Dyddiad Cyhoeddi

30/11/2021

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Pennaeth y Grŵp

Awdurdodwyd gan Tîm Gwobrwyo <0}

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad NPS

Teitl y Swydd

Gweithiwr Preswyl Adeilad Cymeradwy

Cyfarwyddiaeth

Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Band

3

Trosolwg o’r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm yn darparu goruchwyliaeth 24 awr mewn Adeilad Cymeradwy (AP) yn cynnwys gwasanaethau diogelwch a monitro. Bydd yn darparu cymorth a chefnogaeth i droseddwyr mewn Adeilad Cymeradwy i leihau’r risg y byddant yn aildroseddu, yn cael eu galw yn ôl i’r carchar neu yn torri amodau eu trwydded neu eu gorchymyn llys yn ogystal â sicrhau y cedwir troseddwyr sy’n preswylio mewn AP yn ddiogel ac y diogelir yr adeilad yn ystod eu shifft.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda goruchwylio preswylwyr, gan gynnal disgyblaeth a chadw at reolau’r AP, amodau trwyddedau a gorchmynion llys. At hynny, bydd yn cyfrannu at reoli’r risg sy’n gysylltiedig â’r preswylwyr. Bydd cyfran sylweddol o’r gwaith y tu allan i oriau arferol, yn cynnwys dyletswydd nos a gwaith ar y penwythnos. Geill y bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau mewn Adeiladau Cymeradwy eraill pan fo staff yn absennol yno.

Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r NPS, rhaid i ddeiliad y swydd wastad ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant a dealltwriaeth o berthnasedd hynny i’w gwaith.

Rhaid i ddeiliad y swydd gadw at yr holl bolisïau gyda golwg ar natur sensitif / gyfrinachol yr wybodaeth y bydd yn ymdrin â hi yn ei swydd.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau & Dyletswyddau

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau a ganlyn:

  • Cyfrannu’n effeithiol at waith y tîm, cyfathrebu’n effeithiol gydag aelodau o’r tîm a chyfleu gwybodaeth allweddol.

  • Cynnal arolygon rheolaidd o’r adeilad, yn cynnwys seleri a’r tir o’i gwmpas yn ystod y cyfnod y bydd ar ddyletswydd, gan gofnodi unrhyw ddigwyddiadau/niwed neu ddiffygion, a monitro cyfarpar teledu cylch cyfyng.

  • Cynnal presenoldeb gweithredol yn yr AP bob amser. Ymwneud â’r preswylwyr yn rheolaidd mewn ffordd sy’n hyrwyddo ymddygiad addas mewn cymdeithas. Cyfrannu at warchod y preswylwyr, e.e. monitro yn unol ag asesiadau risg.

  • Monitro ymddygiad preswylwyr risg uchel ac annog preswylwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Ymateb yn briodol i ymddygiad brwnt ac ymosodol.

  • Sicrhau bod yr AP wedi ei gloi a’i fod yn ddiogel yn ystod cyfnod y cyrffyw. Cadarnhau presenoldeb a lles y preswylwyr dros nos.

  • Hwyluso swyddogaeth yr AP fel y pwynt cyswllt cyntaf / argyfwng y tu allan i oriau arferol.

  • Cyfeirio unrhyw faterion at sylw’r Rheolwr wrth gefn i sicrhau gorfodi a/neu gydymffurfio â gorchmynion llys, trwyddedau, rheolau’r AP.

  • Cefnogi a chreu amgylchedd gwaith diogel ar gyfer staff, preswylwyr ac ymwelwyr drwy gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, sicrhau y dilynir Systemau Gweithio Diogel (SSOW) ac Asesiadau Risg gan adrodd am ddigwyddiadau wrth y Rheolwr. Ymgymryd â gwiriadau iechyd a diogelwch, larymau tân, cyrffyw a chyrffyw ystafell yn unol â’r gweithdrefnau.

  • Ymgymryd ag archwilio ystafelloedd, a phacio eiddo preswylwyr yn ôl y cyfarwyddyd.

  • Cefnogi trefniadau i drefnu gweithgareddau ystyrlon ar gyfer preswylwyr yn yr adeilad.

  • Goruchwylio prydau bwyd preswylwyr.

  • Ymgymryd yn effeithiol â sefydlu’r preswylwyr.

  • Dilyn gweithdrefnau gyda golwg ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn ynghyd â rhoi meddyginiaeth i breswylwyr ac archwilio taflenni meddyginiaeth bob wythnos a phob nos.

  • Ymgymryd â phrofion alcohol a chyffuriau ar gais y Rheolwr.


  • Ymgymryd â chymorth cyntaf os bydd preswyliwr yn cael anaf neu os bydd preswyliwr yn hunananafu.

  • Cadw cofnodion a ffeiliau’r hostel yn ôl y gofyn, yn cynnwys cofnodi data fel y bo’r gofyn a chyfrannu at gwblhau adroddiadau ar ddigwyddiadau.

  • Ymgymryd â dyletswyddau i ddiogelu plant yn unol â chyfrifoldebau statudol y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a pholisïau’r asiantaeth.

  • Ymdrin ag ymwelwyr a galwadau ffôn, a monitro gwaith contractwyr allanol yn unol â pholisïau iechyd a diogelwch.

  • Dangos sgiliau modelu ymddygiad sy’n addas yn gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau sy’n addas yn gymdeithasol yn barhaus a herio ymddygiad ac agweddau gwrthgymdeithasol.

  • Gweithio yn unol ag amcanion a gwerthoedd yr NPS a HMPPS

{0>The duties/responsibilities listed above describe the post as it is at present and is not intended to be exhaustive.<}100{>Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. <0} {0>The Job holder is expected to accept reasonable alterations and additional tasks of a similar level that may be necessary.<}100{>Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol.<0}

{0>Significant adjustments may require re-examination under the Job Evaluation scheme and shall be discussed in the first instance with the Job Holder.<}100{>Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu ymgymryd â phob agwedd lafar ar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) y Gymraeg.



Ymddygiad

  • Cydweithio

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Cryfderau

Dylid dewis cryfderau’n lleol, awgrymir 4-8.

Profiad hanfodol

  • Profiad o weithio gydag amrediad eang o bobl sydd wedi profi amrediad o anawsterau personol/cymdeithasol.

Gofynion technegol

5 TGAU gradd C neu uwch fan leiaf, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfwerth.

Sgiliau TG: Microsoft: Word, Excel, Outlook, a PowerPoint.

Rhaid meddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd ar lefel uchel i ddarllen, deall a dehongli polisïau

Gallu

Cymwysterau gofynnol

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddo/iddi gychwyn yn y swydd.<0}

  • {0>All external candidates are subject to 6 months probation.<}100{>Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis.<0} {0>Internal candidates are subject to probation if they have not already served a probationary period within HMPPS.<}100{>Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf o fewn HMPPS.<0}

  • Mae gofyn i bob aelod o staff ddatgan a yw’n aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.

{0>All staff are required to declare whether they are a member of a group or organisation which HMPPS considers to be racist.<}100{><0}

Oriau Gwaith

(Oriau anghymdeithasol)

a Lwfansau

37

Gwneir taliadau ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol.

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

N.B. Dylid dewis cryfderau’n lleol, awgrymir 4-8.

Gallu

Profiad

Technegol

Cydweithio

Profiad o weithio gydag amrediad eang o bobl sydd wedi profi amrediad o anawsterau personol/cymdeithasol.

5 TGAU gradd C neu uwch fan leiaf, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg neu gymwysterau cyfwerth.

Cyfathrebu a Dylanwadu

Sgiliau TG: Microsoft: Word, Excel, Outlook, a PowerPoint.


Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Rhaid meddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd ar lefel uchel i ddarllen, deall a dehongli polisïau.

NPS-JES-0049_Pay Band 3 Approved Premises Residential Worker_v6.0

NPS-JES-0049_Pay Band 3 Approved Premises Residential Worker_v6.0