Criminal Fines Collection and Enforcement


Job Title: Delivery Manager

Grade: Higher Executive Officer (HEO)


This is a general job description covering the likely scope of work of the post holder.



Background


HEO staff will need to display a commitment to four key principles: Continuous change, LEAN principles, managing uncertainty and improving performance. All those appointed to new roles in HMCTS must be wholeheartedly committed to these principles and evidence this in their application.



About Criminal Fines Collection and Enforcement


The Criminal Fines Collection and Enforcement department plays a central role in delivering justice by working alongside the criminal courts in England and Wales to ensure convicted parties comply with fines and other financial penalties imposed by the courts. Enforcement is a large and complex business unit, employing over 1200 staff across multiple locations across England and Wales through which flows some £500m per annum. You will help deliver HMCTS’ responsibilities for the enforcement of Fines, Confiscation Orders, Community Penalty Breach Warrants and other enforcement work.



Overview


HMCTS is embarking on a period of significant change. Strong leadership is a critical element in this being successful. As a manager within HMCTS the jobholder must provide clear direction and focus, visibly championing the changes which deliver greater efficiencies. The Regional Delivery Directors expect all managers in the clusters to operate in a culture of openness and honesty, demonstrating a commitment to change through involvement and empowerment, and by delivering results.



The key purpose of the role is to


Support the Operations Manager by being responsible for managing functions within the business.




Key responsibilities



Operations


Analysis


Communicating with the public, the judiciary, other court & tribunals users and representatives of other agencies and organisations


Representation


Team leadership





Specialisms


Financial Authority


Accountability



Other duties

The post holder is required to work in a flexible way and undertake any other duties reasonably requested by line management which are commensurate with the grade and level of responsibility of this post.





Casglu Dirwyon Troseddol a Gorfodaeth


Teitl Swydd: Rheolwr Cyflawni

Gradd: Swyddog Gweithredol Uwch (HEO)


Mae hwn yn swydd ddisgrifiad cyffredinol ac mae’n cynnwys cwmpas gwaith tebygol y deiliad swydd.



Cefndir


Bydd angen i staff HEO arddangos ymrwymiad i bedair prif egwyddor: Newid parhaus, egwyddorion LEAN, rheoli ansicrwydd a gwella perfformiad. Rhaid i bawb a benodir i rolau newydd o fewn GLlTEF ymrwymo’n llwyr i'r egwyddorion hyn a chyflwyno tystiolaeth o hyn yn eu cais.



Ynglŷn â Chasglu Dirwyon Troseddol a Gorfodaeth


Mae’r adran Casglu Dirwyon Troseddol a Gorfodaeth yn chwarae rhan ganolog mewn darparu cyfiawnder trwy weithio ochr yn ochr â'r llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod partïon a fernir yn euog yn cydymffurfio â dirwyon a chosbau ariannol eraill a osodwyd gan y llysoedd. Uned fusnes fawr a chymhleth yw gorfodaeth, sy’n cyflogi dros 1200 o staff ar draws sawl lleoliad ledled Cymru a Lloegr ac y mae tua £500m y flwyddyn yn mynd drwyddi. Byddwch yn helpu i gyflawni cyfrifoldebau GLlTEF ar gyfer gorfodi Dirwyon, Gorchmynion Atafaelu, Gwarantau Torri Cosb Gymunedol a gwaith gorfodi arall.



Trosolwg


Mae GLlTEF ar ddechrau cyfnod o newid sylweddol. Mae’n rhaid cael arweinyddiaeth gref er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus. Fel rheolwr o fewn GLlTEF mae'n rhaid i ddeiliad y swydd ddarparu cyfeiriad a ffocws clir, gan hyrwyddo newidiadau fydd yn sicrhau mwy o effeithlonrwydd. Mae Cyfarwyddwyr Cyflawni Rhanbarthol yn disgwyl i holl reolwyr y clystyrau weithredu'n onest ac yn agored; disgwylir iddynt arddangos ymrwymiad i newid drwy gynnwys a grymuso eraill a chyflawni canlyniadau.



Prif bwrpas y rôl yw


Cefnogi’r Rheolwr Gweithrediadau trwy fod yn gyfrifol am reoli swyddogaethau o fewn y busnes.




Cyfrifoldebau allweddol



Gweithrediadau


Dadansoddi


Cyfathrebu gyda’r cyhoedd, y farnwriaeth, defnyddwyr llys a thribiwnlys eraill a chynrychiolwyr asiantaethau a sefydliadau eraill


Cynrychiolaeth


Arwain tîm





Arbenigeddau


Awdurdod Ariannol


Atebolrwydd



Dyletswyddau eraill

Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg a chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill y gofynnir amdanynt yn rhesymol gan reolwr llinell sy'n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.


upload_69ed0296_0a37_426d_b1a9_e1ca1f8b63e4_00011076.tmp