Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Rheolwyr Cyflawni’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau cyfiawnder. Os ydych yn unigolyn sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid sy’n awyddus i ddarparu gwasanaeth ardderchog, ac yn frwdfrydig am arwain a chymell tîm, yna mae’r rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi gyflawni rôl ganolog o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS).
Amdanom ni
Mae Casglu a Gorfodi Dirwyon Troseddol (Gorfodaeth) yn swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) ac yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau cyfiawnder. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod partïon a gafwyd yn euog yn cydymffurfio â dirwyon a chosbau ariannol eraill a osodir gan y llysoedd. Mae'r adran hon hefyd yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â Gorchmynion Atafaelu a osodwyd gan Lys y Goron a sicrhau y telir tocynnau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd gan yr heddlu.
Rydym yn rheoli swyddogaethau gweinyddol a chyswllt canolog (desgiau cymorth dros y ffôn) a rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.
Eich rôl:
Byddwch yn gyfrifol am weithrediad esmwyth Tîm Gorfodi, gan arwain eich tîm a chefnogi eich Rheolwyr Gweithrediadau i fodloni anghenion gweithredol, cyflawni nodau perfformiad a darparu gwasanaeth cyson sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Gallwch gynnal perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol gyda’r farnwriaeth, cefnogi asiantaethau, grwpiau gwirfoddol a defnyddwyr ac ymdrechu’n barhaus i wella effeithlonrwydd gweithredol, gan weithio gydag asiantaethau i wella lefelau gwasanaethau. Byddwch angen bod yn gyfarwydd ag amgylcheddau gwaith sy’n cael eu llywio gan brosesau a chydymffurfiaeth ac yn gallu rheoli cwynion yn adeiladol a chwblhau camau unioni o fewn amserlenni penodol. Rydych yn deall pwysigrwydd Iechyd a Diogelwch, cydymffurfiaeth TG / Gweithfan a nodi a riportio unrhyw faterion yn ymwneud â chyfleusterau’r Llys GLlTEF.
Amdanoch chi
Ydych chi'n ddatryswr problemau ymarferol gyda'r gallu i ymgysylltu â phobl ar bob lefel ac ddarparu gwasanaeth rhagorol trwy arwain tîm yn effeithiol? Ydych chi'n gallu myfyrio ar fater a chymryd agwedd gydweithredol a diplomyddol tuag at eich gwaith? Os gallwch wneud hynny, mae'r rôl amrywiol a heriol hon ar eich cyfer chi.
Cyfathrebwr hyderus, byddwch yn defnyddio’ch sgiliau a’ch galluoedd i weithio’n effeithiol ac ymgysylltu â holl ddefnyddwyr y llys, arwain eich tîm a gosod blaenoriaethau ac amcanion lleol sy’n cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau cenedlaethol/rhanbarthol. Wedi’i lywio gan eich brwdfrydedd i ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol trwy’ch tîm, rydych chi’n gwybod bod ymgysylltiad gweithwyr, morâl a chymhelliant yn allweddol i gyflawni perfformiad hynod effeithiol. Byddwch yn gallu rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth glos i Arweinwyr Tîm i ddatblygu eu cynlluniau tîm i ffurfio rhan o’r cynllun busnes cyffredinol ar gyfer y rhanbarth. Byddwch yn sicrhau bod targedau yn cael eu bodloni a bod gan y tîm yr adnoddau maen nhw eu hangen a bod staff wedi’u hyfforddi’n effeithiol i weithio o fewn y gyllideb a ddyrannwyd i chi, gan adnabod problemau lleol a rhoi datrysiadau ar waith.
I weld y swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch y ddogfen ategol 1 isod cyn gwneud cais.
Rhagor o fanylion
Rhagor o fanylion
Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i’r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.
Yn y swyddi gweithredol hyn byddwch yn delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid, ac felly bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi’u lleoli yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i’r cyhoedd. Mae’n bosibl y bydd gwaith hybrid di-gontract ar gael, ond y busnes fydd yn penderfynu ar y trefniadau a bydd hyn ond yn opsiwn pan bennir y gellir darparu’r gwasanaeth yn effeithiol o adref. Ni allwn hwyluso ceisiadau am amserlen benodol ar gyfer gweithio o gartref/gweithio y swyddfa.
Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser, yn hyblyg ac i rannu swydd pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac yn diwallu anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â. pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Teithio achlysurol i lysoedd eraill
Ar gyfer y swydd hon, efallai y bydd angen teithio o bryd i'w gilydd i safleoedd eraill y Gwasanaethau Cenedlaethol.
|
|
|