C yfeirnod y Swydd: OPC-SEO-02
Teitl swydd |
Rheolwr Goruchwylio Cyfiawnder Ieuenctid Cymru |
Nifer y Swyddi i’w hysbysebu |
1 |
Cyfarwyddiaeth/Uned/Tîm Busnes |
Gweithrediadau Cymru |
Gradd |
SEO |
Math o Swydd: |
Cyflawni Gweithredol, Ymgysylltu â Rhanddeiliaid |
Band Cyflog |
Cenedlaethol: £ 41,861 |
Atebol i |
Pennaeth Rhanbarthol Goruchwylio Cyfiawnder Ieuenctid |
Lleoliad |
Cymru Sylwch fod y rôl hon wedi'i lleoli yng Nghymru ac mae'n rhaid iddi gael ei lenwi gan berson sy'n byw yng Nghymru, oherwydd yr angen am agosrwydd â randdeiliaid allweddol Mae’r swydd hon gan y BCI wedi’i lleoli dan gontract yng Nghanolfan Lloeren neu Gydweithio agosaf y Weinyddiaeth Gyfiawnder yng Nghymru neu yn swyddfa BCI Abertawe; ond mae staff y BCI yn gweithio’n hyblyg, gan gynnwys yn eu cartrefi. |
Cyfwerth ag Amser Llawn/oriau (Amser Llawn/Rhan Amser/Gwaith Hyblyg) |
Amser llawn - 37 awr |
Math o swydd (h.y. cyfnod penodol/parhaol/benthyciad/secondiad) |
Parhaol |
Hyd y penodiad - misoedd. (ar gyfer cyfnod penodol, secondiad, benthyciad ac ati) |
N/A |
Cliriad Diogelwch Angenrheidiol |
Gwiriadau Llinell Sylfaen (BPSS) |
Pwy ydyn ni?
Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (BCI) Cymru a Lloegr yw’r corff cyhoeddus sy’n cynghori Gweinidogion, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, ar y system cyfiawnder ieuenctid. Ein huchelgais yw gweld system cyfiawnder ieuenctid â’r Plentyn yn Gyntaf. System sy’n edrych ar gryfderau plant ac yn cefnogi plant i fod y fersiwn gorau ohonynt eu hunain. I’r perwyl hwn rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o sefydliadau, partneriaid a phartïon sydd â diddordeb mewn cyfiawnder ieuenctid; rydym yn rhannu arferion da, yn hyrwyddo gwelliannau ac yn rhoi grantiau.
Ein Gweledigaeth
Gweithio i sicrhau system cyfiawnder ieuenctid sy’n gweld plant fel plant, yn eu trin yn deg ac yn eu helpu i adeiladu ar eu cryfderau er mwyn iddynt allu gwneud cyfraniad adeiladol i gymdeithas. Bydd hyn yn atal troseddu ac yn creu cymunedau mwy diogel gyda llai o ddioddefwyr.
Nodau’r System Cyfiawnder Ieuenctid
Atal troseddu gan blant a phobl ifanc:
Lleihau nifer y plant yn y system cyfiawnder troseddol
Lleihau aildroseddu gan blant yn y system cyfiawnder troseddol
Gwella diogelwch a lles plant yn y system cyfiawnder troseddol
Gwella canlyniadau plant yn y system cyfiawnder troseddol
Ydych chi’n ystyried ymuno â ni?
Mae ein proses recriwtio yn seiliedig ar deilyngdod, rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy’n gallu ymrwymo i’n gweledigaeth a’n gwerthoedd. Rydym yn cynnig hyblygrwydd sylweddol o ran sut rydych chi’n gweithio, ac rydym yn disgwyl ymrwymiad a hyblygrwydd yn gyfnewid am hynny. Rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein diwylliant a’n grŵp staff. I’r perwyl hwn, rydym yn annog ceisiadau gan y bobl hynny sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae ein staff yn weision cyhoeddus, yn gymwys ar gyfer cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac rydym wedi cael ein hachredu gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae hyn yn golygu bod ceisiadau o bob rhan o Adrannau’r Gwasanaeth Sifil, eu hasiantaethau a Chyrff Hyd Braich yn cael eu trin fel ymgeiswyr mewnol. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rheini nad ydynt yn gweithio yn y cyrff hyn na’r sector cyhoeddus ar hyn o bryd.
Pwrpas y Swydd:-
Mae eich swydd yn allweddol i sicrhau bod y BCI yn gallu cyflawni ei ddyletswydd statudol i ddarparu cyngor i weinidogion ar y system cyfiawnder ieuenctid a hyrwyddo ymarfer effeithiol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at ein nodau o ran:
lleihau nifer anghymesur y plant o leiafrifoedd ethnig sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid,
lleihau aildroseddu,
gwella adsefydlu,
rhoi cyngor ar leihau trais difrifol
rhoi cyngor ar welliannau yn y ffordd y mae’r sector yn gweithredu, a
gweithio tuag at ddull Plentyn yn Gyntaf yn y system cyfiawnder ieuenctid.
Cyd-destun y Swydd:
Byddwch yn gweithio yn ein cyfarwyddiaeth Gweithrediadau a byddwch yn gweithio ar y cyd ag eraill yn y sector cyfiawnder ieuenctid ac yn y BCI megis Cyfarwyddiaethau Gwybodaeth a Dealltwriaeth Busnes, Strategaeth a Phortffolio i gasglu gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o fonitro perfformiad, ac ymgysylltu’n briodol i wella perfformiad, cefnogi goruchwyliaeth o’r system, darparu sicrwydd yn erbyn perfformiad gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a chefnogi swyddogaethau’r BCI o ran darparu cyngor a chefnogi ymarfer effeithiol, cefnogi’r gwaith o greu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein cyngor.
Gweithgareddau a pherthnasoedd allweddol
Gan ddefnyddio eich sgiliau dylanwadu, ymgysylltu a datrys problemau, byddwch yn:-
mynd ati’n rhagweithiol i ddatblygu atebion arloesol i ddatrys materion cymhleth ym maes cyfiawnder ieuenctid.
defnyddio eich sgiliau i ddylanwadu a goruchwylio materion gweithredol allweddol
cynnal llwyth achosion o Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid lleol ac yn ymgymryd â’r canlynol:
monitro cydymffurfiad:
Safonau ar gyfer Plant mewn Cyfiawnder
Telerau ac amodau’r Grant Craidd Cyfiawnder Ieuenctid
Dangosydd Perfformiad Allweddol ar lefel gwasanaeth
monitro cynnydd yn erbyn:
Darparu’r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid
Cynlluniau gweithredu hunanasesu Safonau ar gyfer Plant mewn Cyfiawnder
Cynlluniau gwella ar ôl arolygiad
cynrychioli’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar:
Fyrddau Rheoli Partneriaethau Cyfiawnder Ieuenctid
Paneli craffu (er enghraifft, Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys), a
Byrddau partneriaeth rhanddeiliaid allweddol perthnasol
darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar y canlynol:
Achosion difrifol
Gweithgarwch gwella
Datblygu Fforymau Ymarfer
meithrin perthynas waith ragorol â chydweithwyr ar draws y BCI gan gynnwys ein Penaethiaid Goruchwylio Cyfiawnder Ieuenctid rhanbarthol, a’n partneriaid allanol yn y system cyfiawnder ieuenctid (SCI). Wrth wneud hynny, byddwch yn gwella ein sylfaen dystiolaeth ac yn adeiladu ar ein dealltwriaeth o’r llwyddiannau a’r materion a wynebir gan y SCI. Byddwch yn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd gennych chi am y SCI yn cael eu rhannu’n briodol â chydweithwyr er mwyn gwella ein dealltwriaeth a’n galluogi i gadw ein safle fel yr unig sefydliad sy’n goruchwylio’r SCI cyfan.
defnyddio eich sgiliau a’ch cryfderau i ymgysylltu’n llwyddiannus â rhanddeiliaid, dadansoddi a dehongli gwybodaeth gymhleth o amrywiaeth o ffynonellau, gan nodi a rhannu arferion effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â’ch dealltwriaeth o’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr.
Bob amser, dangos cefnogaeth a pharch at ymrwymiad y BCI i degwch, cynhwysiant ac amrywiaeth y BCI a’i bartneriaid.
Bod yn gyfrifol am wneud yn siŵr eich bod yn deall ac yn glynu wrth eich cyfrifoldebau o ran iechyd a diogelwch a diogelu data.
Gweithio’n gadarnhaol ac ar y cyd â chydweithwyr BCI yng Nghymru a Lloegr ac ystyried effaith datblygiadau ar bolisi, ymarfer a deddfwriaeth sy’n benodol i Gymru.
Gweithio’n hyblyg. Mae pob swydd yn y BCI yn rhai hyblyg i sicrhau bod gofynion y busnes yn cael eu bodloni felly efallai y bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau eraill yn eich rôl, neu eich dyletswyddau mewn rhannau eraill o'r busnes ar eich graddfa er mwyn bodloni blaenoriaethau'r busnes.
Disgwylir teithio i leoliadau rhanddeiliaid allanol a swyddfeydd y BCI fel rhan o’r swydd.
Prif Gyfrifoldebau
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Manylion y broses ddethol
Mae’r swydd hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, a byddant yn asesu eich Sgiliau Technegol, Ymddygiadau, Cryfderau a Phrofiad.
Bydd dwy ran i’r broses asesu:
Cais (gweler isod)
Cyfweliad (gweler isod)
Cais
Darparwch
CV
Enghreifftiau ysgrifenedig sy’n dangos, mewn dim mwy na 250 gair, pob un o’r ymddygiadau hanfodol canlynol yn y gwasanaeth sifil: Cyfathrebu a Dylanwadu (250 gair) Gweld y Darlun Mawr (250 gair) a Newid a Gwella (250 gair) a Gweithio Gyda’n Gilydd.
Datganiad (dim mwy na 500 gair) o sut rydych chi’n bodloni’r ‘meini prawf hanfodol: Technegol, Profiad a Gallu’ fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd
(Os derbynnir nifer fawr o geisiadau, gellir didoli i ddechrau ar sail yr ymddygiad arweiniol: Cyfathrebu a Dylanwadu a Meini Prawf Hanfodol)
Cyfweliad
Ar gyfer ymgeiswyr sy’n cyrraedd cam y cyfweliad, bydd yn gyfweliad cyfunol, fydd yn cynnwys rhagor o fanylion am eich cais ac am ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil, a chryfderau fel y disgrifir yn y Proffiliau Llwyddiant - GOV.UK (www.gov.uk) (mae hwn yn fath penodol iawn o gyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r rhain ymlaen llaw).
Rhestr wrth gefn
Mae’n bosibl y bydd yr ymgeiswyr hynny sy’n llwyddo i ddangos yn y cyfweliad, yr ymddygiadau, y cryfderau a’r meini prawf hanfodol sy’n ofynnol gan y BCI ar gyfer y swydd, ond nad ydynt yn cael eu dewis fel yr ymgeisydd llwyddiannus, yn cael eu hychwanegu at restr wrth gefn am 12 mis. Gellir cysylltu ag ymgeiswyr ar restr wrth gefn a chynnig swydd sy’n ddigon tebyg, heb fod angen gwneud cais eto, o fewn yr amserlen.
Technegol:
Gwybodaeth/dealltwriaeth o’r System Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a’r modd y mae’n rhyngweithio â gwasanaethau ehangach
Profiad:
Profiad o gasglu a dadansoddi gwybodaeth neu ddata cymhleth yn gywir er mwyn gwneud argymhellion i wella ymarfer
Gallu:
Ysgrifennu adroddiadau clir a chryno gydag argymhellion clir ar gyfer gwella
Gallu defnyddio MS Office.
Sgiliau cyfathrebu cadarn
Sgiliau trefnu cadarn
Ymddygiadau:
Manteision gweithio i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
Cyfle i weithio mewn sefydliad sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant sydd mewn perygl o ddod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid ac sydd ynddi eisoes
Polisïau sy’n deg i’r teulu, gan gynnwys cyfleoedd i weithio’n hyblyg. Mae llawer o’n staff yn cyfuno gweithio o’n swyddfeydd naill ai yn Llundain neu yng Nghymru, neu’n gweithio o un o Ganolfannau Cydweithredu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder/Swyddfeydd Lloeren ledled y wlad, gyda gweithio gartref; oriau cywasgedig, gweithio rhan amser
Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, a/neu drosglwyddo gwasanaeth parhaus Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil fel y bo’n berthnasol
Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau cyhoeddus (neu i’r rheini sy’n trosglwyddo’n uniongyrchol yn ochrol o Adrannau’r Gwasanaeth Sifil, eu Hasiantaethau, eu Cyrff Hyd Braich a Chyrff Cyhoeddus Anadrannol, gallwn ni, yn amodol ar gadarnhad, gyfateb i’r hawl gwyliau blynyddol presennol, hyd at 30 diwrnod
Fel Corff Cyhoeddus Anadrannol achrededig, yn amodol ar gadarnhad, gallwn dderbyn eich gwasanaeth di-dor gan adrannau eraill y Gwasanaeth Sifil, eu hasiantaethau ac ALB/NDBP (ond mae pawb sy’n ymuno o’r newydd yn ymuno ar 37 awr yr wythnos/ pro-rata ar gyfer rhan-amser)
Cynllun bonws cydnabyddiaeth arbennig
Absenoldeb arbennig ar gyfer argyfyngau heb eu cynllunio ac ar gyfer gwaith gwirfoddol
Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor cyfrinachol ar faterion personol a gwaith ac iechyd galwedigaethol
Cynlluniau iechyd a lles fel brechu rhag y ffliw
Profion llygaid am ddim a thalebau gofal llygaid i weithwyr sy’n defnyddio unedau arddangos gweledol (VDU)
Benthyciadau tocyn tymor di-log
Datblygiad proffesiynol rheolaidd
Cefnogaeth Rheoli Achosion Adnoddau Dynol Proffesiynol i reolwyr
5
© YJB (Tach 2022) v 6.0 www.justice.gov.uk/about/yjb