Proffil y Grŵp: Mentor

Band 3





Cyfeirnod y Ddogfen

HMPPS OR T 41 GP : Mentor v10.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

10.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

17 Hydref 2024

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y Disgrifiad Swydd


Proffil y Grŵp



Enw Proffil y Grŵp

Mentor

Lefel yn y Sefydliad

Cyflenwi

Band

3


Trosolwg

Mae hon yn swydd anweithredol mewn sefydliad.


Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth, gwybodaeth a sgiliau i garcharorion mewn gweithdai nad ydynt yn rhai arbenigol, lle nad oes cymwysterau’n cael eu darparu ac nad yw deiliad y swydd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi carcharorion hyd at y lefel ofynnol i ennill cymwysterau.


Nid yw’r disgrifiad swydd hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan ddeiliaid swyddi mewn gweithdai arbenigol, gan na fydd gofyn i ddeiliad y swydd fod yn gymwys mewn maes arbenigol na hyfforddi carcharorion hyd at y lefel ofynnol i ennill cymwysterau. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid defnyddio Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol.


Er mai swydd anweithredol mewn sefydliad heb unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell yw hon, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau dros reoli’r gweithdy a charcharorion.


Mae hon yn swydd sy’n cylchdroi.

Nodweddion

Dyma rai o’r tasgau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r Proffil Grŵp hwn:


  • Cymryd rhan yn y broses o ddewis carcharorion ar gyfer y gweithdy.

  • Cynefino'r carcharorion yn y gweithdy/ardal waith, a’u hyfforddi mewn agweddau fel iechyd a diogelwch, Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH), a defnyddio peiriannau ac offer. Sicrhau bod yr holl offer, cyfarpar a deunyddiau crai yn ddiogel a bod cyfri priodol amdanynt.

  • Rhoi cymorth i'r carcharorion fel y bo'r angen; teilwra’r gofynion dysgu a hyfforddi i anghenion yr unigolion. Trefnu amserlenni a rheoli targedau/safonau ansawdd, gan sicrhau bod trefniadau cytundebol yn cael eu darparu.

  • Goruchwylio a rheoli carcharorion yn weddus a diogel wrth gyflawni pob gweithgaredd, gan fod yn gyfrifol am eu perfformiad, eu cymhelliant, eu disgyblaeth, eu harfarniadau a’u datblygiad. Cynnal sgan canfod metel neu chwiliad ‘rhwbio i lawr’ ar garcharorion sy’n mynychu ac yn gadael eu gweithdai eu hunain.

  • Cychwyn adolygiadau datblygu cynnyrch er mwyn cynnal lefelau allbwn y gweithdy/ardal waith, a chynnig amrywiaeth o waith a phrofiadau i'r carcharorion.

  • Cyfrannu at y gwaith o gynnal asesiadau risg ac iechyd a diogelwch ar nwyddau traul, ac ar asesiadau risg Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â’r gweithdy/lle gwaith a mannau arbenigol.

  • Cyfrannu’n weithredol at adroddiadau carcharorion, gwaith cynllunio dedfrydau a pharôl, Asesiadau, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm (ACCT) ac Adroddiadau Gwybodaeth Diogelwch (SIRs) drwy ddarparu gwybodaeth i reolwyr achos.



Agor a llenwi ffurflenni ACCT (Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm), VRIR (Adroddiadau Digwyddiadau Lleihau Trais) ac Adroddiadau SIR (Gwybodaeth am Ddiogelwch) fel y bo’r angen, a chyfrannu at adroddiadau IEP (Cymhellion a Breintiau a Enillir).

  • Cyfrannu at adroddiadau carcharorion gan gynnwys cynllunio dedfrydau a pharôl, cwblhau gwybodaeth fonitro’r gyfundrefn a diweddaru cofnodion hyfforddi carcharorion.

  • Cyfathrebu’n gyson gan ddefnyddio rhwydwaith radio yn unol â’r Strategaeth Ddiogelwch Leol (LSS)

  • Gofyn am ddeunyddiau ac amcangyfrif defnydd er mwyn cyrraedd targedau dysgu'r gwaith a darparu sicrwydd ansawdd mewn perthynas â manylebau cynnyrch.

  • Cofnodi presenoldeb a chymeradwyo’r oriau a weithiwyd gan garcharorion a chyflogau, gan gynnwys cofnodi darnau gwaith lle bo hynny’n briodol

  • Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd perthnasol fel bo'r angen.

  • Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer gweithgareddau gweithdy. Paratoi dogfennau perthnasol i reolwyr at ddibenion gwirio/sicrhau ansawdd. Cynnal a diweddaru systemau yn unol â chytundebau lleol.

Disgrifiadau Swydd sy’n berthnasol i’r Proffil Grŵp hwn

Ar ôl cael y swydd, bydd deiliad y swydd yn cael ei baru â disgrifiad swydd. Mae rhestr enghreifftiol wedi’i hatodi isod. Mae hon yn swydd sy’n cylchdroi (cyfeiriwch at y disgrifiad swydd unigol), felly gallai deiliad y swydd gyflawni rôl o sawl disgrifiad yn ystod ei yrfa.


  • Mentor: Hyfforddwr

Cymhwysedd Sylfaenol

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Mae cyfnod prawf o 6 mis yn berthnasol i bob ymgeisydd allanol.

Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.

  • Mae’n ofynnol i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad y mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn ei ystyried yn hiliol.

Sgiliau Hanfodol/Cymwysterau/ Achrediad/Cofrestru

Dim



Oriau Gwaith a Lwfansau

Wythnos waith 37 awr (safonol). Gweithio Orau Anghymdeithasol

Bydd y Rheolwr Recriwtio yn cadarnhau’r trefniadau Gweithio Oriau Anghymdeithasol, a dim ond pan fydd hynny’n berthnasol y bydd tâl am hynny:


Fel rhan o’r swydd hon bydd rhaid gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, a bydd taliad ar gyfradd gymeradwy gyfredol y sefydliad yn cael ei ychwanegu at eich cyflog sylfaenol i gydnabod hyn.

Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau sydd ddim rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau Banc/Cyhoeddus.

Ymddygiadau

  • Arweinyddiaeth

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad Hanfodol


Gofynion Technegol

D.S dyma’r gofynion technegol ar gyfer proffil y grŵp, edrychwch ar y disgrifiad swydd unigol sy’n ymwneud â phroffil y grŵp hwn i weld unrhyw ofynion sy’n benodol i’r swydd a’u hychwanegu os oes angen.


Amh.

Gallu



HMPPS OR T 41 GP : Mentor v10.0