Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Teitl y Swydd: Tywysydd - mae’r swydd hon yn cynnwys Llys y Goron a’r Llys Ynadon
Cefndir a phrif bwrpas y rôl
Mae’r Tywysydd Llys yn bwynt cyswllt cyntaf hanfodol ar gyfer pob defnyddiwr llys sy’n gysylltiedig â gwrandawiadau. Bydd cysylltiad rheolaidd â’r farnwriaeth, gan gynorthwyo'r staff gweinyddol er mwyn sicrhau bod gwaith y llys yn rhedeg yn hwylus. Byddwch yn cyfarfod aelodau’r cyhoedd a’u cynrychiolwyr cyfreithiol; byddwch yn paratoi ystafelloedd llys/gwrandawiadau, ac yn cwblhau dogfennau, yn ogystal â sicrhau bod y llys yn rhedeg yn hwylus ac yn effeithlon. Byddwch hefyd yn ymgymryd â gwaith clerigol cyffredinol fel sy’n ofynnol er mwyn cefnogi gwaith GLlTEF.
Er bod llawer o’r tasgau yn syml, ac yn cael eu rheoli gan gyfarwyddiadau manwl a/neu ganllawiau sydd wedi hen ennill eu plwyf, mae'n rhaid i dywysydd fod yn barod i ymateb yn gyflym ac yn broffesiynol i sefyllfaoedd, a bydd rhai ohonynt yn annisgwyl. Byddwch yn gyfforddus wrth ymdrin yn sensitif ac yn broffesiynol â phobl o bob cefndir; mae’n bosib y bydd llawer ohonynt yn fregus a dan straen. Mae cyngor a chefnogaeth ar gael yn hwylus a ni cheir gwyro fawr ddim oddi wrth weithdrefnau safonol. Gall hyn olygu y bydd gofyn i chi fod yn gadarn pan na fydd defnyddiwr llys yn deall neu’n croesawu’r gweithdrefnau hynny. Mae tywyswyr yn gweithio mewn tîm sydd â chefnogaeth reoli reolaidd ac maent yn gyfrifol am eu hamser eu hunain.
Er y cewch i ddechrau eich lleoli mewn swyddfa neu lys penodol, bydd angen bod yn hyblyg i weithio o bryd i’w gilydd mewn llysoedd a swyddfeydd lleol eraill.
Gall y prif gyfrifoldebau gynnwys:
Gwaith Gweinyddol |
|
Gohebiaeth |
|
Delio â’r Post |
|
Monitro Stoc |
|
Mewnbynnu a chofnodi data |
|
Defnyddio offer |
|
Trin galwadau ffôn |
|
Trefnu cyfarfodydd |
|
Derbyn unigolion sy’n mynychu’r llys |
|
Dyletswyddau eraill
Mae gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn ffordd hyblyg ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill, ar gais rheolwr llinell, sy’n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon.
Sgiliau
Profiad o weithio gyda'r cyhoedd mewn amgylchedd gwasanaeth cyhoeddus prysur. Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar y lefel sydd ei angen ar gyfer y gwaith.
Cyflawni Gweithredol yn GLlTEF
Mae’r rôl hon yn rhan o’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol. Yr unigolion hyn yw wyneb allanol y llywodraeth gan eu bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd mewn amryw o rolau gwahanol. Maent yn gweithio mewn amryw o wahanol adrannau ac asiantaethau ar draws y DU, yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn
Rolau wyneb yn wyneb yn GLlTEF er enghraifft tywysydd llys
Rolau yng Nghanolfan Gyswllt GLlTEF er enghraifft cynghorwyr yn y ganolfan alwadau
Rolau prosesu yn GLlTEF er enghraifft staff yn y Ganolfan Hawliadau am Arian yn y Llys Sirol a Gweinyddiaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Mae bod yn rhan o’r proffesiwn cyflawni gweithredol yn golygu eich bod yn perthyn i gymuned traws-lywodraethol o bobl. Bydd yn gyfle i chi gael mynediad i wybodaeth am safonau proffesiynol, datblygu sgiliau a chymwysterau fydd yn eich helpu chi i barhau i wella eich datblygiad a'ch perfformiad ac estyn eich opsiynau gyrfa.