Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
yn ôl i’r cynnwys
Teitl Swydd: Swyddog Gweinyddol
Ystod Cyflog: Band AO
Cefndir
Mae staff gweinyddol da sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmer ardderchog yn hanfodol i sicrhau bod y Llysoedd, y Tribiwnlysoedd a swyddfeydd eraill yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM Mawrhydi (GLlTEM) yn gweithredu’n effeithiol. Cyflogir y rhan fwyaf o staff GLlTEM mewn swyddi gweinyddol. Mae GLlTEM yn croesawu technegau gwelliant parhaus er mwyn darparu gwasanaeth cwsmer o safon uchel.
Prif bwrpas y rôl
Neilltuir Swyddogion Gweinyddol i dimau i gyflawni amrywiol ddyletswyddau gweinyddol cyffredinol er mwyn symud achosion ymlaen trwy system y llysoedd/tribiwnlysoedd neu ddarparu cefnogaeth i adrannau eraill o fewn GLlTEM. Fe ddefnyddir arfau a thechnegau gwelliant parhaus yn GLlTEM, ac felly fe fydd yna gyfleoedd i ymarfer disgresiwn a mentergarwch a cheisio gwella’n barhaus o fewn fframwaith o systemau a phrosesau (SOPS). Eir ati i ddatrys problemau drwy gyfeirio at dechnegau gwelliant parhaus (e.e. mannau cyfarfod datrys problemau) a chanllawiau a chyfarwyddiadau cynhwysfawr - cyfeirir materion cymhleth neu anodd fel arfer at arweinydd tîm neu oruchwylydd. Mewn ambell swydd, bydd gan ddeiliaid swydd gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr llysoedd / tribiwnlysoedd, gan gynnwys aelodau’r Farnwriaeth a’r proffesiwn cyfreithiol. Mae Swyddogion Gweinyddol yn gweithio mewn tîm sydd â chefnogaeth reoli reolaidd ac maent yn gyfrifol am eu hamser eu hunain, er mae’n bosib y ceir ychydig o gyfle i roi cyngor a goruchwylio rhywfaint ar eraill.
Er bydd y deiliad swydd yn cael ei leoli mewn swyddfa benodol, mae’n bosib y bydd angen bod yn hyblyg i weithio o bryd i’w gilydd yn swyddfeydd lleol eraill GLlTEM.
Wrth weithio fel rhan o dîm hyblyg, bydd disgwyl i’r deiliad swydd ymgymryd ag amrywiaeth o'r swyddogaethau a’r cyfrifoldebau a nodwyd. Nid yw’n fwriad i bob un o'r deiliaid swydd fod yn gyfrifol am yr holl ddyletswyddau.
Prif gyfrifoldebau
Gweinyddu |
|
Drafftio |
|
Gweithrediadau |
|
Prosesu gwaith achos |
|
Gwirio a dilysu |
|
Casglu a threfnu gwybodaeth |
|
Cynnal cyfrifiadau |
|
Cyfathrebu gyda’r cyhoedd, y farnwriaeth, defnyddwyr llys a thribiwnlys eraill a chynrychiolwyr asiantaethau a sefydliadau eraill |
|
Dyletswyddau eraill
Mae gofyn i’r deiliad swydd weithio mewn ffordd hyblyg ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill, ar gais y rheolwr llinell, sy’n gymesur â gradd a lefel cyfrifoldeb y swydd hon..
Cyflawni Gweithredol yn GLlTEM
Mae’r rôl hon yn rhan o’r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol. Yr unigolion hyn yw wyneb allanol y llywodraeth gan eu bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd mewn amryw o rolau gwahanol. Maent yn gweithio mewn amryw o wahanol adrannau ac asiantaethau ar draws y DU, yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn
Rolau wyneb yn wyneb yn GLlTEM er enghraifft tywysydd llys
Rolau yng Nghanolfan Gyswllt GLlTEM er enghraifft cynghorwyr yn y ganolfan alwadau
Rolau prosesu yn GLlTEM er enghraifft staff yn y Ganolfan Hawliadau am Arian yn y Llys Sirol a Gweinyddiaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd
Mae bod yn rhan o’r proffesiwn cyflawni gweithredol yn golygu eich bod yn perthyn i gymuned traws-lywodraethol o bobl. Bydd cyfle i chi gael mynediad i wybodaeth am safonau proffesiynol, datblygu sgiliau a chymwysterau fydd yn eich helpu chi i barhau i wella eich datblygiad a'ch perfformiad ac estyn eich opsiynau gyrfa.