Swydd Ddisgrifiad NPS (SDd)

NPS Band 4

Cyfarwyddiaeth: Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Swydd Ddisgrifiad: Swyddog Prawf



Cyfeirnod y Ddogfen

NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0

Math o ddogfen

Rheolaeth

Fersiwn

7.0

Dosbarthiad

Annosbarthedig

Dyddiad Cyhoeddi

10/07/2019

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Pennaeth y Grŵp

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Gwobrwyo

Tystiolaeth ar gyfer y SDd














Swydd Ddisgrifiad NPS

Teitl y Swydd

Swyddog Prawf

Cyfarwyddiaeth

Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol

Band

4


Trosolwg o’r swydd

Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â'r ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr gyda throseddwyr dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn cynnwys asesu, gweithredu dedfrydau a chreu adroddiadau; gan ddefnyddio gweithdrefnau gwasanaeth a chyfarwyddiadau ymarfer sy'n sail i farn broffesiynol.


Crynodeb

Asesu a rheoli’r risg a berir gan droseddwyr i amddiffyn dioddefwyr troseddau a’r cyhoedd drwy:


  • Ddarparu gwybodaeth a chyngor i lysoedd troseddol, asiantaethau cyfiawnder troseddol ac asiantaethau partner eraill

  • Goruchwylio troseddwyr sy’n destun gorchmynion cymunedol a thrwyddedau ac yn ystod dedfrydau o garchar

  • Cyfrannu at brosesau rheoli risg

  • Gweithio gydag asiantaethau a grwpiau eraill i atal troseddau a bodloni anghenion dioddefwyr a throseddwyr


Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r NPS, bydd rhaid i ddeiliad y swydd arddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant bob amser a deall sut maent yn berthnasol i’r gwaith maent yn ei wneud.

Rhaid i ddeiliad y swydd gadw at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau


Efallai y bydd yn ofynnol i Swyddogion Prawf ymgymryd ag unrhyw gyfuniad, neu bob un, o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a nodir isod.

  • Darparu cyngor ac asesiadau proffesiynol, yn cynnwys adroddiadau ysgrifenedig i'r llysoedd, y Bwrdd Parôl, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol a phartneriaid eraill

  • Ymgymryd â'r ystod lawn o dasgau rheoli troseddwyr gyda throseddwyr sydd wedi'u hasesu ar bob lefel o risg o niwed difrifol, yn cynnwys risg uchel a risg uchel iawn

  • Defnyddio systemau cyfrifiadurol i gynhyrchu, diweddaru a chynnal cofnodion a dogfennaeth arall o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt

  • Sicrhau atgyfeiriadau prydlon ac effeithiol i, a sicrhau perthnasau da rhwng, timau rheoli troseddwyr, timau’r llysoedd, unedau cyswllt â dioddefwyr, staff ymyriadau, yr Uned Eiddo Cymeradwy, staff y carchardai ac asiantaethau allanol i fwyhau canlyniadau positif, rheoli risg a lleihau aildroseddu

  • Mynychu cyfarfodydd proffesiynol a chynrychioli'r NPS mewn fforymau partneriaeth priodol e.e. MAPPA, MARAC

  • Gweithio ar y cyd â chydweithwyr, cynnal perthnasau effeithiol o fewn eich tîm a darparu arweiniad a chefnogaeth broffesiynol i Swyddogion y Gwasanaeth Prawf (PSOs) a staff eraill fel sy’n briodol

  • Helpu o fewn eich tîm a helpu timau eraill yn ôl y gofyn

  • Ymgymryd ag ymweliadau carchar, ymweliadau yn y cartref neu ymweliadau i leoliadau amgen yn ôl y gofyn

  • Ymateb i geisiadau i gyfeirio risgiau yn uwch a godir gan Gwmnïau Adsefydlu Cymunedol, pennu lefel y risg ac os yw’n risg uchel (wedi’i gymeradwyo gan reolwr) penderfynu ar sut i'w rheoli

  • Cyflwyno a chyd-arwain rhaglenni achrededig sy’n gymesur â’ch gradd

  • Cynnal profion alcohol a chyffuriau gorfodol yn ôl y gofyn a dilyn gweithdrefnau meddyginiaeth ar bresgripsiwn

  • Ymgymryd â dyletswyddau diogelu plant yn unol â chyfrifoldebau statudol yr NPS a pholisïau asiantaethau

  • Dangos sgiliau modelu cymdeithasgar drwy atgyfnerthu ymddygiad ac agweddau cymdeithasgar yn gyson a herio ymddygiad ac agweddau gwrthgymdeithasol

  • Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Ymddygiad

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Newid a Gwella

  • Cydweithio

  • Cyflawni ar Gyflymder

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

Cryfderau

Cynghorir y caiff cryfderau eu dewis yn lleol, awgrymir 4-8



Profiad hanfodol

  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol/personol.

  • Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol, yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

  • Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gydraddoldeb

  • Profiad o weithio gyda grwpiau ac unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad

  • Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi cyflawni troseddau.


Y gallu i gyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan bennir yng Nghymru) Cymraeg.

Gofynion technegol

Rhaid ichi feddu ar Gymhwyster Swyddog Prawf neu fod yn Swyddog Prawf cymwys. Hefyd, dylai ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar:

  • Gradd anrhydedd PQF / Diploma Graddedig PQF a Diploma Lefel 5 mewn Ymarfer Prawf; neu

  • Diploma mewn Astudiaethau Prawf; neu Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (opsiwn Prawf); neu CSQW (opsiwn Prawf)

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y System Gyfiawnder Troseddol a’r Gwasanaeth Prawf.

  • Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol a Safonau Cenedlaethol/

  • Gwybodaeth am Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu risg/anghenion.


Gallu



Cymwysterau Gofynnol

Peidiwch â newid y blwch hwn


  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddo/iddi gychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis.   Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol wneud cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi gwneud cyfnod prawf i HMPPS.

  • Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.


Oriau gwaith (Oriau anghymdeithasol) a Lwfansau




Proffil Llwyddiant



Ymddygiad

Cryfderau

Cynghorir y caiff cryfderau eu dewis yn lleol, awgrymir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol





Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl sydd wedi profi amrywiaeth o anawsterau cymdeithasol/personol

Rhaid ichi feddu ar Gymhwyster Swyddog Prawf neu fod yn Swyddog Prawf cymwys


Newid a Gwella



Profiad o weithio gyda chymunedau amrywiol, yn cynnwys hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Gradd anrhydedd PQF / Diploma Graddedig PQF a Diploma Lefel 5 mewn Ymarfer Prawf; neu Ddiploma mewn Astudiaethau Prawf; neu Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (opsiwn Prawf); neu CSQW (opsiwn Prawf)

Cydweithio



Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gydraddoldeb.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o waith y System Gyfiawnder Troseddol a’r Gwasanaeth Prawf

Cyflawni ar Gyflymder



Profiad o weithio gyda grwpiau ac unigolion er mwyn ysgogi a newid ymddygiad

Gwybodaeth am Ymarfer yn Seiliedig ar Dystiolaeth ac adnoddau asesu risg/anghenion.

Cyfathrebu a Dylanwadu



Profiad o weithio gyda phobl sydd wedi cyflawni troseddau

Gwybodaeth dda am ddeddfwriaeth berthnasol a Safonau Cenedlaethol





NPS-JES-0032_Probation Officer_v7.0