Disgrifiad Swydd (DS) Pencadlys

Band 5

Cyfarwyddiaeth: Diogelwch, Trefn a Gwrthderfysgaeth

Disgrifiad Swydd: Rheolwr Rhanbarthol Mynd ar Drywydd Llygredigaeth


Cyfeirnod y Ddogfen

HQ-JES-2580 Rheolwr Rhanbarthol Mynd ar Drywydd Llygredigaeth v2.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

2.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

26 Tachwedd 2019

Statws

Gwaelodlin

Lluniwyd gan Pennaeth y Grŵp

Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y DS



Disgrifiad o’r Swydd

Teitl Swydd

Rheolwr Rhanbarthol Mynd ar Drywydd Llygredigaeth (RCPM)

Cyfarwyddiaeth

Diogelwch, Trefn a Gwrthderfysgaeth

Band

5

Trosolwg o'r swydd

Mae ymdrechion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i fynd i’r afael â llygredigaeth yn hanfodol er mwyn darparu carchardai a gwasanaeth prawf diogel. Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi wedi gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi bod angen dull gweithredu newydd i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gadarn yn erbyn y bygythiad gweithredol allweddol hwn.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi wedi datblygu strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â llygredigaeth yn y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yn seiliedig ar bedwar amcan allweddol:

  • ‘Amddiffyn’ rhag llygredigaeth drwy adeiladu sefydliad agored a gwydn;

  • ‘Atal’ pobl rhag cymryd rhan mewn llygredigaeth, cryfhau uniondeb proffesiynol;

  • ‘Mynd ar drywydd’ a chosbi’r rhai sy’n llwgr; a

  • ‘Pharatoi’ ar gyfer llygredigaeth, gan leihau ei effeithiau ar ein timau.

Bydd angen cyflawni’r amcanion hyn ar bob lefel drwy garchardai a’r gwasanaeth prawf, yn benodol, gan gryfhau ein cydnerthedd ar y rheng flaen. Mae’r Gyfarwyddiaeth Diogelwch, Trefn a Gwrthderfysgaeth (SOCT) yn bwrw ymlaen â gwelliannau, gan gynnwys ailstrwythuro’r Uned Gwrth-lygredigaeth (CCU), i ddarparu gwell gwasanaeth gwrth-lygredigaeth i uwch arweinwyr gweithredol, carchardai a thimau prawf.

Crynodeb

Mae’r rôl yn rhan o’r Uned Gwrth-lygredigaeth sydd newydd gael ei hailstrwythuro. Ei amcanion yw cefnogi carchardai a’r gwasanaeth prawf i reoli bygythiadau llygredigaeth, yn enwedig cefnogi gweithgarwch ‘mynd ar drywydd’ mewn achosion o lygredigaeth.

Y gwasanaeth craidd a ddarperir gan y CCU rhanbarthol yw cefnogi carchardai a’r gwasanaeth prawf i fynd ar drywydd adroddiadau am lygredigaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau clir, cymesur ac amserol. Bydd lefel y gwasanaeth yn cael ei asesu a’i flaenoriaethu yn unol â pholisi a chanllawiau, ond gall gynnwys darparu cymorth dadansoddol gwell i garchardai a’r gwasanaeth prawf, cyngor arbenigol ar sut i symud achosion yn eu blaenau, cymorth logisteg a chydlynu. Bydd y tîm hefyd yn gyfrifol am gefnogi carchardai a’r gwasanaeth prawf i reoli carcharorion llygredig hysbys yn effeithiol yn y ddalfa ac o dan oruchwyliaeth yn y gymuned i’w hatal rhag llygru staff.

Yn unol â pholisi’r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi’r Arweinydd Mynd ar Drywydd Llygredigaeth Rhanbarthol perthnasol i ddarparu gwasanaeth gwrth-lygredigaeth o ansawdd uchel i garchardai a’r gwasanaeth prawf yn eu rhanbarth SOCT. Bydd yr RCPM hefyd yn gyfrifol am weithio mewn partneriaeth â thimau rhanbarthol eraill yn y Gyfarwyddiaeth Diogelwch, Trefn a Gwrthderfysgaeth (SOCT), gwasanaethau AD a gorfodi'r gyfraith.

Bydd deiliad y swydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Arweinydd Mynd ar Drywydd Llygredigaeth Rhanbarthol, sydd yn ei dro yn adrodd i Bennaeth y Tîm Gwybodaeth Gweithredol.

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheoli llinell dros Swyddog Llygredigaeth a bydd disgwyl iddynt fod â pherthynas waith agos â’r dadansoddwr gwrth-lygredigaeth rhanbarthol.

Mae hon yn swydd ranbarthol a bydd wedi’i lleoli mewn canolfan SOCT ranbarthol. Bydd angen teithio’n aml i garchardai a sefydliadau prawf, swyddfeydd rhanbarthol a swyddfeydd partneriaid gorfodi’r gyfraith. Bydd angen teithio o bryd i’w gilydd y tu allan i’r rhanbarth (e.e. i Lundain).

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Gweithio gyda'r tîm CCU cenedlaethol i ddatblygu dealltwriaeth fanwl ac arbenigol o'r dystiolaeth o lygredigaeth yn seiliedig ar natur y bygythiad, (e.e. ysgogwyr llygredigaeth, cyffredinrwydd, uwchgyfeirio, risg/effaith, ymyriadau effeithiol) a defnyddio hyn fel sail ar gyfer pob ymarfer.

  • Dealltwriaeth gref a chyfoes o’r cyd-destun gweithredol mewn carchardai a’r gwasanaeth prawf, gan gynnwys pwysau, blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd i fynd i’r afael â llygredigaeth yn well.

  • Meddu ar ddealltwriaeth gref o’r fframweithiau cyfreithiol a pholisi perthnasol sy’n ymwneud â llygredigaeth, diogelwch ac Adnoddau Dynol, a sicrhau bod y rhain yn cael eu dilyn wrth ddarparu gwasanaethau i garchardai a’r gwasanaeth prawf, a bod y rhain yn cael eu rhannu a’u hyrwyddo wrth weithio gyda phartneriaid cyflawni.

  • O dan gyfarwyddyd yr RCPL, cefnogi carchardai a’r gwasanaeth prawf i symud achosion llygredigaeth ymlaen yn unol â pholisi. Gall hyn gynnwys cefnogi RCPL sy’n arwain ar yr achosion mwyaf cymhleth a phroffil uchaf, neu arwain yn annibynnol ar achosion risg is.

  • Ar gyfarwyddyd yr RCPL, efallai y gofynnir hefyd i ddeiliad y swydd: gefnogi carchardai a’r gwasanaeth prawf i asesu a deall eu risgiau llygredigaeth a datblygu strategaethau lliniaru; gweithio gyda charchardai a’r gwasanaeth prawf i ddeall bylchau mewn galluogrwydd a chyfeirio at gyfleoedd, arferion gorau ac arweiniad ehangach, neu ddarparu rhai sesiynau briffio fel y bo’n briodol; a chefnogi ymchwil llai manwl i hysbysu ein sylfaen dystiolaeth ar lygredigaeth, gan gynnwys cyfweld cyn-staff sydd wedi cael eu dyfarnu’n euog o droseddau sy’n gysylltiedig â llygredigaeth, neu wybodaeth arall i gefnogi perfformiad.

  • Datblygu perthynas waith agos ac effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig gyda Rheolwyr Diogelwch, Dirprwy Lywodraethwyr, Llywodraethwyr sy’n Llywodraethu, Rheolwyr Adrannol, Partneriaid Busnes AD ac AD.

  • Datblygu a chynnal rhwydwaith ehangach o randdeiliaid, gan gynnwys mewn timau rhanbarthol SOCT eraill (e.e. NIU, SOCU, JEXU), gorfodi’r gyfraith ( heddluoedd lleol a ROCU), rheolwyr contractau a darparwyr dan gontract.

  • Cefnogi’r RCPL i ddeall a rheoli llwyth achosion y rhanbarth, gan gynnwys: cynnal cofnodion achos cywir a chyfredol yn unol â system rheoli achosion y CCU; a datblygu adroddiadau’n rheolaidd sy’n seiliedig ar ddata rheoli achosion (e.e. nifer yr achosion sydd ar agor, hyd yr achos) i nodi meysydd i’w hadolygu ac i ymyrryd ynddynt.

  • Cefnogi’r RCPL i osod amcanion a disgwyliadau clir ar gyfer y tîm yn unol â dogfennau polisi a darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, gan gynnwys drwy sicrhau bod amcanion a gweithgarwch unigolion a Swyddogion yr RCPO yn cael eu halinio a’u blaenoriaethu yn unol â’r risg/angen gweithredol a pholisi; a chyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol o welliant ac arloesi parhaus i wella gwasanaethau.

  • Rheoli llinell y RCPO.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir iddynt fod yn hollgynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosib y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Ymddygiadau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cydweithio

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad

?

Dealltwriaeth gadarn o lygredigaeth, diogelwch a pholisi AD a fframweithiau cyfreithiol.


?

Dealltwriaeth gadarn o gyd-destun gweithredol carchardai a’r gwasanaeth prawf.


?

Profiad o ddylanwadu ar uwch randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol.

Technegol

Gofynion


Gallu

?

Sgiliau cyfathrebu cryf (ar lafar ac ar bapur), sgiliau arwain a gweithio mewn partneriaeth.


?

Sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau, gyda’r gallu i ysgogi datrysiad.

Cymhwysedd Sylfaenol

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS).

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf.

  • Bydd angen SC neu gliriadau diogelwch uwch ac archwiliadau diogelwch mewnol pellach.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

Lwfansau

Oriau Gweithio Anghymdeithasol i’w cadarnhau gan y Rheolwr Recriwtio.

Gweithio Orau Anghymdeithasol

Fel rhan o’r swydd hon bydd rhaid gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, a byddwch yn cael taliad o 17% yn ychwanegol at eich tâl sylfaenol i gydnabod hynny. Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau sydd ddim rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau Banc/Cyhoeddus.

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Sgiliau cyfathrebu cryf (ar lafar ac ar bapur), sgiliau arwain a gweithio mewn partneriaeth.

Dealltwriaeth gadarn o lygredigaeth, diogelwch a pholisi AD a fframweithiau cyfreithiol.

Cydweithio

Sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau, gyda’r gallu i ysgogi datrysiad.

Dealltwriaeth gadarn o gyd-destun gweithredol carchardai a’r gwasanaeth prawf.

Cyfathrebu a Dylanwadu

Profiad o ddylanwadu ar uwch randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol.

Rheoli Gwasanaeth o Safon

HQ-JES-2580 Rheolwr Rhanbarthol Mynd ar Drywydd Llygredigaeth v2.0

HQ-JES-2580 Rheolwr Rhanbarthol Mynd ar Drywydd Llygredigaeth v2.0