Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.

Os ydych yn unigolyn sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid sy’n awyddus i ddarparu gwasanaeth ardderchog, ac os ydych yn frwdfrydig am arwain a chymell tîm, yna mae’r rôl hon yn rhoi’r cyfle i chi gyflawni rôl ganolog o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF).

Amdanom ni

Mae GLlTEF yn un o asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n gyfrifol am weinyddu’r llysoedd troseddol, sifil a theulu a’r tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae ein rolau’n cefnogi defnyddwyr ein gwasanaethau a’n cydweithwyr o fewn GLlTEF, lle mae pobl a busnesau’n cyrchu cyfiawnder a allai newid bywydau. 


Wedi’u gwasgaru’n genedlaethol dros sawl safle, mae ein Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSCs) yn darparu gwasanaethau ar gyfer sawl awdurdodaeth a elwir yn 'llinellau gwasanaeth'. Mae’r rhain yn cynnwys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, Cyfraith Deulu Gyhoeddus, Profiant, Trosedd, Mewnfudo a Lloches, Ysgariad, Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein, y Gwasanaeth Un Ynad (troseddau angharcharadwy e.e., dim trwydded deledu / treth car), a chefnogi gwrandawiadau fideo sain.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.   

 

Eich rôl:


Byddwch yn gyfrifol am weithrediad esmwyth y CTSC, gan gefnogi Rheolwyr Gweithrediadau i fodloni anghenion gweithredol, cyflawni nodau perfformiad a darparu gwasanaeth cyson sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid.


Bydd gofyn i chi gynnal perthynas waith gadarnhaol ac effeithiol gyda’r farnwriaeth, cefnogi asiantaethau a grwpiau defnyddwyr ac ymdrechu i wella’n barhaus i wella effeithlonrwydd gweithredol. Byddwch angen bod yn gyfarwydd ag amgylcheddau gwaith sy’n cael eu llywio gan brosesau a chydymffurfiaeth ac yn gallu rheoli cwynion yn adeiladol a chwblhau camau unioni o fewn amserlenni penodol. Byddwch yn deall pwysigrwydd Iechyd a Diogelwch, cydymffurfiaeth TG / Gweithfan a nodi a riportio unrhyw faterion yn ymwneud â chyfleusterau’r Llys.

Eich sgiliau a phrofiadau

Ydych chi'n ddatryswr problemau ymarferol gyda'r gallu i ymgysylltu â phobl ar bob lefel a darparu gwasanaeth rhagorol trwy arwain tîm yn effeithiol? Ydych chi'n gallu myfyrio ar fater a chymryd agwedd gydweithredol a diplomyddol tuag at eich gwaith? Os gallwch wneud hynny, mae'r rôl amrywiol a heriol hon ar eich cyfer chi.

Fel cyfathrebwr hyderus, byddwch yn defnyddio’ch sgiliau a’ch galluoedd i weithio’n effeithiol ac ymgysylltu â holl ddefnyddwyr y llys, arwain eich tîm a gosod blaenoriaethau ac amcanion lleol sy’n cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau cenedlaethol/rhanbarthol. Wedi’i lywio gan eich brwdfrydedd i ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol trwy eich tîm, byddwch yn gwybod bod ymgysylltu â gweithwyr, morâl a chymhelliant yn allweddol i gyflawni perfformiad hynod effeithiol. Byddwch yn gallu rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth glos i Arweinwyr Tîm i ddatblygu eu cynlluniau tîm i ffurfio rhan o’r cynllun busnes cyffredinol ar gyfer y rhanbarth. Byddwch yn sicrhau bod targedau’n cael eu bodloni a bod gan y tîm yr adnoddau maen nhw eu hangen a bod staff wedi’u hyfforddi’n effeithiol i weithio o fewn y gyllideb a ddyrannwyd i chi, gan adnabod problemau lleol a rhoi datrysiadau ar waith.

I weld y swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch y ddogfen ategol isod cyn gwneud cais.


Rhagor o fanylion


Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i’r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.


Ffyrdd o weithio

Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae disgwyliad y byddwch yn gallu bod yn hyblyg gyda’ch oriau gwaith i fodloni anghenion y busnes.

Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd, pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Noder, bydd y rôl yn gofyn i chi weithio o leiaf 25 awr yr wythnos. Gellir trafod patrymau gwaith penodol ar sail pob achos unigol, a bydd rhaid i’r busnes gytuno i hyn.

Mae gwaith hybrid angytundebol ar gael ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y bydd gwaith hybrid ar gael, ond y busnes fydd yn penderfynu ar y trefniadau a bydd hyn ond yn opsiwn pan bennir y gellir darparu’r gwasanaeth yn effeithiol o adref. Ni allwn hwyluso ceisiadau am amserlen benodol ar gyfer gweithio o gartref/ yn y swyddfa.


Teithio achlysurol i lysoedd eraill

Ar gyfer y swydd hon, efallai y bydd angen teithio o bryd i'w gilydd i safleoedd eraill y Gwasanaethau Cenedlaethol.