Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant
Proffil y Rôl
Ionawr 2025
Prif bwrpas y rôl
Mae’r Llysoedd Ynadon yn delio ag oddeutu 95% o achosion troseddol, 70% o achosion sifil a 60%
o achosion teulu. Mae delio ag achosion yn gyfiawn ac yn gyflym, ac mewn ffordd sy’n diwallu
anghenion defnyddwyr ein llysoedd, wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Pan fyddwch wedi cymhwyso fel cynghorydd cyfreithiol byddwch yn chwarae rôl ganolog wrth
sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth yn y llys. Mae ynadon yn aelodau gwirfoddol o’r
farnwriaeth, sydd heb gymhwyso yn y gyfraith. Maent yn dod o’r gymuned leol, yn eistedd ar sail
wirfoddol ac nid oes ganddynt gefndir cyfreithiol. Mae’r cynghorydd cyfreithiol yn hwyluso busnes y
llys drwy ddarparu cyngor ar y gyfraith, arferion a gweithdrefnau mewn llys agored a thrwy
gynorthwyo ynadon i lunio a drafftio eu rhesymau.
Fel cynghorydd cyfreithiol dan hyfforddiant, byddwch yn cael eich neilltuo i’r awdurdodaeth llys
oedolion neu llys teulu. Byddwch yn dechrau rhaglen hyfforddi sydd wedi’i dylunio i’ch galluogi i
weithredu fel Cynghorydd Cyfreithiol i’r Ynadon a’r Barnwr Rhanbarth (Llys Ynadon) yn unol â’r
ddeddfwriaeth a Chyfarwyddiadau Ymarfer y Llys Troseddol a’r Llys Teulu. I ddechrau byddwch yn
arsylwi cynghorydd cyfreithiol profiadol ac yna’n symud ymlaen i siarad yn annibynnol yn y llys
gyda chyfrifoldeb am sicrhau bod gweithdrefnau cyfreithiol yn cael eu dilyn yn gywir. Byddwch yn
datblygu’r sgiliau i hwyluso busnes y llys ac yn magu hyder wrth roi cyngor cyfreithiol cywir i’r
ynadon mewn llys agored i sicrhau yr ymdrinnir â phob achos mewn modd cyfiawn.
Rhaid i gynghorwyr cyfreithiol allu delio â chyflymder a heriau aml-haenog rhestr achosion llys
prysur gyda blaenoriaethau a phwysau amser sy’n newid yn barhaus; gallu ymchwilio i’r gyfraith
mewn amgylchedd byw lle bo angen. Fel cynghorydd cyfreithiol byddwch yn rhan o dîm ehangach
o gynghorwyr cyfreithiol; yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Yn eu rôl o ddydd i ddydd,
mae angen i gynghorwyr cyfreithiol wneud penderfyniadau annibynnol ac atebol, ar yr un pryd â
gweithio’n annibynnol ac yn hyderus. Rhaid i gynghorwyr cyfreithiol allu cyfathrebu’n glir i
gynulleidfa ehangach wrth reoli ystafell llys mewn amgylchedd cyflym. Mae eich gallu i fod yn
hyblyg o ran ymagwedd ac i addasu i wahanol sefyllfaoedd yn gyflym ac yn effeithiol yn sgil
allweddol ar gyfer y rôl hon.
Cyfrifoldebau cynghorydd cyfreithiol allweddol
(i)
Meithrin a chynnal perthynas waith effeithiol gydag ynadon:
• Cynghori'r ynadon ar y gyfraith, arferion a gweithdrefnau a’u cynorthwyo i ddrafftio eu
rhesymau
• Hwyluso proses gwneud penderfyniadau strwythuredig sy’n seiliedig ar wybodaeth o
dechnegau, llawlyfrau, canllawiau a datblygiadau statudol a chyfraith achos
presennol priodol
• Gweithio mewn partneriaeth ag ynadon yn yr ystafell llys a thu allan i'r ystafell llys a
dangos cydnabyddiaeth a dealltwriaeth o arferion lleol, gweithdrefnau, polisïau,
materion cyfredol a chyfleoedd hyfforddi perthnasol.
(ii)
Hwyluso busnes y Llys:
• Paratoi, cynllunio a chynnal gweithgareddau i alluogi gwrandawiadau y
llys/cyfarwyddo gweithgareddau yn yr ystafell llys a gweithgareddau eraill sy’n cynnal
busnes y llys fynd yn eu blaen, gan gynnwys rhoi cyngor a darparu dogfennau
cyfreithiol ysgrifenedig
• Rhoi cyngor proffesiynol a pharatoi dogfennau y tu mewn a thu allan i’r ystafell llys
• Cynllunio, cynnal a chwblhau gwrandawiadau rheoli achosion yn effeithiol, pan
fyddwch yn eistedd gyda neu heb fainc o ynadon
• Defnyddio gwybodaeth arbenigol a sgiliau yn yr ystafell llys a thu allan i’r ystafell llys
yn ogystal â gyda thimau gweinyddol ac mewn cyfarfodydd cysylltiedig
• Cefnogi gwaith y llys drwy gysylltu ag aelodau Pwyllgorau/Panelau yn ystod
cyfarfodydd, ar sail un-i-un ac mewn sesiynau hyfforddi/datblygu a thrwy gysylltu â'r
asiantaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â gwaith arbenigol y llys a’r Pwyllgor
• Gallu defnyddio systemau TG gan gynnwys adnoddau cyfreithiol digidol ar-lein
• Cofnodi ac arwain canlyniad achosion/gwrandawiadau yn gywir gan ddefnyddio
system ddigidol y Llysoedd.
(iii)
Cynghori a gweithio gyda staff:
• Gallu gweithio mewn partneriaeth â staff eraill, gan ddefnyddio eich gwybodaeth am
brotocolau, gweithdrefnau, prosesau a chyfyngiadau perthnasol
• Gallu cwblhau dyletswyddau gweinyddol o fewn terfynau amser statudol ac anstatudol
gan ddefnyddio protocolau trefnu, rhestru a rheoli achosion lleol
• Rhoi cyngor ac arweiniad cyfreithiol i staff gweinyddol.
Atebolrwydd allweddol arall:
Gwasanaeth cwsmeriaid a safonau
• Hyrwyddo gweithgarwch a safonau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr - meddu ar sgiliau
ysgrifenedig a rhyngbersonol cryf gan ddefnyddio egwyddorion Llais Dynol Cyfiawnder
• Cyfrannu at gynnal safonau gwasanaeth a nodi meysydd i’w gwella - datblygu atebion gan
ddefnyddio technegau ‘gwelliant parhaus’
• Rheoli cwynion a methiannau gwasanaethau, a bod yn gymwys i ddefnyddio rhaglenni
meddalwedd cysylltiedig.
Gwneud penderfyniadau:
Mae'r gallu i gynghori a gwneud penderfyniadau gwrthrychol a diduedd yn rhan bwysig o rôl
cynghorydd cyfreithiol. Weithiau bydd y penderfyniadau hynny’n cynnwys materion cymhleth a
buddion cystadleuol, ac fel cynghorydd cyfreithiol bydd angen i chi allu gwneud penderfyniadau
cadarn yn ogystal â rhoi rhesymau clir dros y penderfyniadau hynny.
Bydd penderfyniadau sy'n ymwneud â'r gyfraith yn gofyn am waith ymchwil gyfreithiol gadarn,
defnyddio adnoddau ar-lein, a'r gallu i amgyffred deddfwriaeth a chyfraith achosion yn gyflym a'i
rhoi ar waith yn hyderus i'r sefyllfa sy'n cael ei hystyried. Bydd hefyd yn ofynnol i chi flaenoriaethu
gwaith yn effeithlon gan ystyried anghenion y rhai sydd â budd yn yr achos.
Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gofynnol:
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am y swydd hon, rhaid i chi fod wedi pasio'r cam
academaidd o gymhwyster i fod yn fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, neu'n gyfreithiwr yn Uwch
Lysoedd Cymru a Lloegr, neu'n Gymrawd o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol
(CILEX) neu Gyfreithiwr CILEX drwy —
(i) basio’r arholiadau angenrheidiol; (ceir enghraifft o ba rai isod)
(ii) cael esemptiad gan y corff arholi priodol o ran yr arholiadau angenrheidiol sydd raid eu pasio
(ceir enghraifft o ba rai isod); neu
(iii) unrhyw gyfuniad o’r ddau.
Mae'r rhestr ganlynol yn adlewyrchu'r cymwysterau academaidd sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o
bryd. Os ydych yn parhau i fod yn ansicr ynghylch p’un a yw eich cymwysterau’n golygu eich bod
yn gymwys i wneud cais, anfonwch neges e-bost i HQLegal@justice.gov.uk i gael eglurhad:
• Y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) i Gyfreithwyr, neu cam SQE1 A cham SQE2 o’r Arholiad
Cymhwyso i Gyfreithwyr; neu
• Cwrs Hyfforddi’r Bar; neu hyfforddiant cyffelyb i Fargyfreithwyr; neu
• Diploma Proffesiynol Lefel 3 CILEx yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol a Diploma Lefel 6
CILEx yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol; neu
• Diploma Llwybr Cyflym CILEx ar gyfer graddedigion; neu'r hyn sy’n cyfateb i Aelodaeth
Graddedigion o CILEx.
Gallwch wneud cais am y rôl hon tra byddwch yn cwblhau cam academaidd olaf y cymhwyster ond
rhaid i chi allu dangos tystiolaeth o’ch tystysgrif terfynol ar yr adeg y gwneir cynnig, er mwyn gallu
symud ymlaen i gael eich penodi. Os nad ydych yn gallu ddangos tystiolaeth o’r cymwysterau
cywir ar y pwynt y gwneir cynnig, byddwch yn cael eich tynnu o'r broses.
Hyfforddiant
Mae GLlTEF yn cyflwyno rhaglen hyfforddi bwrpasol ar gyfer cynghorwyr cyfreithiol dan
hyfforddiant i ddatblygu’r sgiliau, a’r wybodaeth ar gyfer rôl y cynghorydd cyfreithiol. Mae’r
hyfforddiant yn cael ei gyflwyno drwy amrywiaeth o wahanol ddulliau, a byddwch yn cael eich
cefnogi gan fentor dynodedig a fydd yn eich arwain drwy gydol y Rhaglen Gynefino a Hyfforddi.
Bydd yn ofynnol i chi fynychu Rhaglen Gynefino deuddydd a gynhelir gan y Coleg Barnwrol a
chwblhau hyfforddiant atodol yn y gweithle a modiwlau a geir yn Llawlyfr Cynghorwyr Cyfreithiol y
Coleg Barnwrol. Ehangir ar hyn gan arsylwadau llys perthnasol a digwyddiadau hyfforddi lleol a
rhanbarthol ychwanegol gyda chyfoedion.
I fod yn rhan o’r rhaglen hon bydd angen i chi gysylltu'n rheolaidd nid yn unig â'r mentor ond hefyd
â'r rheolwr llinell, a fydd yn pennu amcanion perfformiad i hwyluso a monitro eich cynnydd. Bydd
disgwyl i chi gyflawni’r amcanion hynny drwy reoli eich perfformiad o ddydd i ddydd gyda'r bwriad o
ennill a chynnal cymwyseddau sylfaenol Cynghorwyr Cyfreithiol dan Hyfforddiant a chynnal eu
gofynion datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain. Bydd disgwyl i chi goladu tystiolaeth ar gyfer
aseiniadau’r Coleg Barnwrol ac yn erbyn pob cymhwysedd, ymddygiad, gallu a charreg filltir
angenrheidiol mewn portffolio o dystiolaeth.
Ar ôl cwblhau hyfforddiant rhaglen Gynefino Cynghorydd Cyfreithiol yn llwyddiannus, disgwylir i chi
allu gweithredu fel Cynghorydd Cyfreithiol mewn llysoedd troseddol a/neu sifil i oedolion, a/neu
llysoedd troseddol sifil ieuenctid a/neu lysoedd teulu heb oruchwyliaeth.
Mae rôl cynghorydd cyfreithiol hefyd yn cynnwys amryw o gyfrifoldebau ychwanegol eraill
y tu allan i amgylchedd ystafell y llys. Mae rhai o'r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys:
• Paratoi ar gyfer y llys, ymchwilio i faterion cyfreithiol, cefnogi'r swyddogaeth datblygu
achosion, delio ag ymholiadau a chynorthwyo i gwblhau dyletswyddau gweinyddol eraill y
tîm yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr y Tîm Cyfreithiol
• Yn ystod eich hyfforddiant, bydd disgwyl i chi gofnodi’r penderfyniadau a wneir gan yr
Ynadon ar blatfform digidol a sicrhau bod yr holl ffurflenni cyfreithiol yn cael eu llenwi’n
gywir
• Bod yn rhagweithiol wrth adeiladu perthynas adeiladol gyda’r mentor
• Cadw cofnodion dysgu a chadw at unrhyw ofynion y cyrff proffesiynol lle bo’n berthnasol
• Defnyddio diwrnodau astudio yn briodol i wneud y mwyaf o gyfleoedd
• Ymrestru a chwblhau’r cyrsiau gorfodol perthnasol e.e. Cynefino Corfforaethol Llys
Troseddol/Teulu, Hyfforddiant Gloywi cynghorydd cyfreithiol
• Cwblhau pecyn Astudio’r Coleg Barnwrol.
Mae’r cyfnod hyfforddi dwy flynedd yn cwmpasu’r elfennau canlynol:
Astudio cyfreithiol - Mae rhaglen hyfforddi’r Coleg Barnwrol ynghyd â dysgu a phrofiad GLlTEF
yn y gweithle yn darparu’r hyfforddiant cyfreithiol hanfodol ar gyfer cynghorwyr cyfreithiol dan
hyfforddiant ac fe’i cynlluniwyd i gymryd tua deuddeg i ddeunaw mis i’w chwblhau. Wedi hynny,
bydd cynghorwyr cyfreithiol dan hyfforddiant yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau
cyfreithiol o fewn GLlTEF.
Datblygu sgiliau - disgwylir y bydd cynghorydd cyfreithiol dan hyfforddiant yn datblygu ei sgiliau
ar draws ystod o fathau o lysoedd neu wrandawiadau yn ystod y cyfnod astudio cyfreithiol a thros y
chwech i ddeuddeg mis dilynol.
Cymhwyso fel cynghorydd cyfreithiol haen 1 - Bydd y rhan fwyaf o gynghorwyr cyfreithiol dan
hyfforddiant yn cymryd dwy flynedd i gwblhau eu hastudiaeth gyfreithiol a datblygu sgiliau
proffesiynol digonol ar draws amrywiaeth o fathau o lysoedd i ddangos tystiolaeth o ddisgwyliadau
cynghorydd cyfreithiol haen 1.
Datblygu Gyrfa
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant llawn a chyflwyno eich portffolio hyfforddiant, yna bydd Cynghorydd
Cyfreithiol dan Hyfforddiant yn symud ymlaen i rôl Cynghorydd Cyfreithiol SEO Haen 1 (gyda’r
cynnydd cysylltiedig mewn cyflog).
Fel Cynghorydd Cyfreithiol Haen 1, byddwch yn parhau i feithrin eich sgiliau ac yn datblygu
portffolio asesu ar gyfer symud i Haen 2 (yn unol â Fframwaith Cynnydd Haenau i Gynghorwyr
Cyfreithiol GLlTEF). Disgwylir i Gynghorydd Cyfreithiol Haen 2 ddangos lefel uchel o
broffesiynoldeb cyfreithiol a byddant yn defnyddio’r sgiliau hynny y tu allan i’r ystafell llys er budd
ehangach ei dîm a GLlTEF. Mae'r rôl Haen 2 yn rhoi'r cyfle i arddangos gwybodaeth a sgiliau
mewn maes ymarfer cyfreithiol cydnabyddedig ynghyd â'r ystod lawn o bwerau dirprwyedig
cysylltiedig. Mae Cynghorwyr Cyfreithiol Haen 2 yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod
achosion yn cael eu rheoli’n effeithiol a bod achosion cymhleth yn cael eu rheoli.
Mae'r rôl Haen 2 hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu gyrfa mewn meysydd eraill fel rheoli ac arwain,
mentora a hyfforddiant, gwasanaeth cwsmeriaid a chyflenwi sefydliadol.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol Haen 2 yn chwarae rhan bwysig wrth fentora aelodau eraill o staff,
boed yn Gynghorwyr Cyfreithiol dan Hyfforddiant, yn Gynghorwyr Cyfreithiol mewn Hyfforddiant (a
elwir bellach yn Gynghorwyr Cyfreithiol Ymgeisydd Cymwys), yn brentisiaid ac yn Gynghorwyr
Cyfreithiol eraill sydd yn y broses o ddatblygu eu sgiliau drwy'r strwythur gyrfa.
Gall Cynghorwyr Cyfreithiol Haen 2 ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn GLlTEF drwy gyfrwng
cyfleoedd i wneud cais am swyddi Rheolwr Tîm Cyfreithiol neu o fewn y gwasanaeth sifil
ehangach.
Secondiad
O fewn Strwythur Gyrfa Cynghorydd Cyfreithiol, mae gan gynghorwyr cyfreithiol gyfle i ymgeisio
am, a chael eu hystyried ar gyfer secondiadau cyfreithiol a secondiadau sydd ddim ym maes y
gyfraith mewn adrannau eraill o GLlTEF, y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac asiantaethau eraill y
Llywodraeth.
Penodiadau barnwrol
Bydd Cynghorydd Cyfreithiol Haen 2 yn canfod bod yr wybodaeth a'r sgiliau a enillir yn y rôl yn
arbennig o berthnasol i unrhyw ddyheadau ar gyfer penodiad barnwrol. Mae GLlTEF yn cefnogi
ceisiadau am swyddi barnwrol ac mae nifer o gynghorwyr cyfreithiol o fewn GLlTEF yn eistedd fel
aelod o’r farnwriaeth sy’n derbyn ffi mewn tribiwnlysoedd, llysoedd sirol a llysoedd ynadon.
Lleoliad
Byddwch yn cael cynnig swydd mewn llys penodol sy'n gallu goruchwylio'r rhaglen hyfforddi.
Mewn llawer o ardaloedd mae timau cyfreithiol yn gweithio mewn nifer o lysoedd gwahanol a gellir
disgwyl cryn dipyn o waith teithio.
Mae'r rhaglen hyfforddi yn cymryd hyd at ddwy flynedd i'w chwblhau a disgwylir y bydd y rhaglen
yn cael ei chwblhau yn y llys lle’r ydych wedi eich lleoli. Ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol,
ni ddylai deiliad y swydd wneud cais i gael ei drosglwyddo i ardal arall yn ystod y rhaglen hyfforddi.
Oriau Gwaith
Bydd disgwyl i Gynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant weithio 37 awr yr wythnos, ac eithrio amser
cinio.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’r oriau hynny dros bum diwrnod, a fydd yn
cynnwys dydd Sadwrn a Gwyliau Cyhoeddus.
Mae'r disgrifiad swydd hwn yn ganllaw i brif ddyletswyddau presennol y swydd. Nid yw'n rhestr
gynhwysfawr o ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd ac efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd
ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o dro i dro sy’n briodol i lefel a natur y swydd.
Man gwaith a symudedd
Byddwch yn cael eich dyrannu i leoliad sylfaen eich gweithle sydd wedi’i gytuno rhyngoch chi a’ch
rheolwr llinell fel rhan o’r broses recriwtio. Bydd hyn hefyd yn cael ei gadarnhau yn y contract
ffurfiol a gewch.
Mae eich gweithle, fel y nodir yn eich contract, yn gysylltiedig â’ch lleoliad sylfaen ar gyfer hyd a
dibenion yr hyfforddiant. Bydd disgwyl i chi dreulio cyfnod eich hyfforddiant yn eich lleoliad sylfaen
a gytunwyd arno i fodloni gofynion yr hyfforddiant a diwallu’r anghenion busnes yn y lleoliad
hwnnw.
Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, bydd y Pennaeth Gweithrediadau Cyfreithiol yn pennu lleoliad i chi a
bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar ofynion busnes.