Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant
Cyflog £34,140 y flwyddyn (Cenedlaethol) a £38,661 y flwyddyn (Llundain)
Mae rôl y cynghorydd cyfreithiol yn hanfodol er mwyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) redeg yn esmwyth ac mae’n swydd sy’n rhoi llawer o foddhad o fewn ein sefydliad. Bydd cyfleoedd dysgu o’ch cwmpas bob dydd, felly os ydych yn angerddol am y gyfraith, gallai hon fod y rôl i chi.
Rydych yn gyfathrebwr rhagorol gyda’r gallu i ysbrydoli hyder ym mhawb rydych chi’n gweithio gyda nhw ac â’r hunanhyder i siarad yn y llys. Rydych wedi pasio cam academaidd y cymhwyster i ddod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr yng Nghymru neu Loegr, neu rydych yn aelod graddedig o Sefydliad Siartredig Swyddogion Gweithredol y Gyfraith. Rydych yn frwdfrydig ynghylch y cyfrifoldeb sy’n dod yn sgil bod ar reng flaen y system gyfiawnder. A nawr rydych chi’n barod i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a’r cymunedau rydyn ni’n byw ynddynt.
Mae ein gwaith yn GLlTEF yn hanfodol bwysig i sicrhau bod system gyfiawnder deg, hygyrch ac effeithlon yn rhedeg yn esmwyth, gan ein bod yn gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am gynghorwyr cyfreithiol dan hyfforddiant i ymuno â’n tîm cyfreithiol eithriadol a datblygu’r sgiliau i roi cyngor i ynadon ar bwyntiau cyfreithiol, arfer a gweithdrefnau, a chynorthwyo gyda’r gwaith o lunio a drafftio’r rhesymau y tu ôl i’w dyfarniadau.
Dysgu sgiliau cyfreithiol newydd wrth i chi ddatblygu eich gyrfa
Pan fyddwch yn ymuno â ni fel cynghorydd cyfreithiol dan hyfforddiant, byddwch yn darganfod yn gyflym nad dyma’ch rôl arferol 9 tan 5, gan fod pob diwrnod yn wahanol. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd bob dydd wrth i chi weithio mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym ac yn newidiol, ac yn helpu i gadw’r llysoedd yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon. Gan weithio ar bopeth o fân droseddau moduro i droseddau difrifol, byddwch yn cael eich cefnogi a’ch mentora trwy gydol eich cyfnod hyfforddi o ddwy flynedd. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cyfnod hyfforddi, byddwch wedyn yn cael y cyfle i ddatblygu eich gyrfa gyfreithiol ymhellach o fewn GLlTEF.
Gweithio fel wyneb cymwys, proffesiynol y llysoedd
Yn hytrach na gweithredu ar ran cleient byddwch yn cynnig cyngor cyfreithiol diduedd a gwrthrychol, felly bydd angen i chi fod yn angerddol am y gyfraith a’r materion y mae’n rhaid eu hystyried pan fydd ynadon yn rhoi dyfarniadau a dedfrydau.
Bydd helpu i gynnal gwrandawiadau rheoli achos yn rhan allweddol arall o’ch rôl, yn ogystal â chydlynu ag asiantaethau allanol sy’n ymwneud â gwaith llys arbenigol. Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, byddwch yn gweithredu fel wyneb proffesiynol y llys, felly byddwn yn disgwyl i chi weithio gydag uniondeb, empathi a dealltwriaeth, a sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r llys yn cael eu trin ag urddas a pharch bob amser.
Cymhwyso eich holl sgiliau wrth i chi gynyddu eich gwybodaeth am y gyfraith
Yn ogystal â’ch cymwysterau academaidd a’ch sgiliau cyfathrebu ardderchog, byddwch wedi ymrwymo i wella a chynnal eich gwybodaeth am y gyfraith. Drwy fod yn agored, yn hawdd mynd atoch, yn broffesiynol ac yn gefnogol, byddwn yn disgwyl bod gennych sgiliau datrys problemau rhagorol a’r gallu i feddwl ar eich traed mewn llys prysur. Bydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud, a gall y rhain gael effaith ddwys ar y bobl sy’n dod i’r llys, felly byddwch yn hyderus, yn ddiduedd ac â’r gallu i ystyried ystod eang o risgiau a goblygiadau. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu addasu, a chyda lefel uchel o gyfrifoldeb personol, a bydd yna adegau pan fyddwch chi’n wynebu sefyllfaoedd heriol. Gyda hyn mewn golwg byddwch yn gydnerth ac yn parhau i fod yn ddigynnwrf o dan bwysau a bydd gennych ymagwedd ddiplomyddol ac ystyriol at bawb rydych yn gweithio gyda nhw.
Mae hon yn rôl rheng flaen yn y swyddfa/yn y llys. Byddwch yn cael eich dyrannu i leoliad eich gweithle sydd wedi’i gytuno rhyngoch chi a’ch rheolwr llinell fel rhan o’r broses recriwtio.
Bydd disgwyl i chi dreulio cyfnod eich hyfforddiant yn eich lleoliad sylfaen a gytunwyd arno i fodloni gofynion yr hyfforddiant a diwallu’r anghenion busnes yn y lleoliad hwnnw.
Rhaid i’n holl weithwyr basio cliriad diogelwch cyn cael eu penodi felly byddwch yn mynd trwy broses fetio os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Mwynhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith gyda’n hamrywiaeth o fuddion
Pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - ond sut byddwn yn eich helpu chi yn ôl am hynny?
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, hawl gwyliau hael a phensiwn Gwasanaeth Sifil, byddwn yn cefnogi eich datblygiad gyda chyfleoedd hyfforddi i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa gyda ni. Rydym hefyd yn deall pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith a chyda hyn mewn golwg rydym yn cynnig cynlluniau gweithio hyblyg, cyfnod mamolaeth a thadolaeth â thâl a buddion gofal plant rhagorol.
Mae’r gwaith hanfodol rydyn ni’n ei wneud o ganlyniad i gymuned anhygoel o gydweithwyr gyda gwahanol sgiliau, cefndiroedd, diwylliannau a hunaniaeth. Rydym yn cefnogi pob unigolyn, felly byddwch bob amser yn gwybod bod croeso i chi a’ch bod yn cael eich gwerthfawrogi. Mae gennym rwydweithiau staff cryf a rhagweithiol, addasiadau rhesymol ar gyfer y rhai sydd eu hangen a rhaglenni talent amrywiaeth i helpu pawb, waeth beth fo’u cefndir, i gyflawni eu potensial.
Y manteision i chi
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant llawn a chyflwyno eich portffolio hyfforddiant (a gwblheir mewn dwy flynedd fel arfer), bydd Cynghorydd Cyfreithiol dan Hyfforddiant yn symud ymlaen i rôl Cynghorydd Cyfreithiol SEO Haen 1 (gyda’r cynnydd cysylltiedig mewn cyflog, yn unol â Fframwaith Cynnydd Haenau i Gynghorwyr Cyfreithiol GLlTEF). Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o yrfaoedd cyfreithiol yn GLlTEF a thu hwnt. Fel aelod o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, bydd gennych hawl i amrywiaeth o fuddion gan gynnwys pensiwn y gwasanaeth sifil, trefniadau gweithio hyblyg, gwyliau blynyddol hael, lwfansau gofal plant a theithio a mynediad at amrywiaeth o rwydweithiau a chlybiau staff. I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion, cliciwch yma - Buddion Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (hmctsjobs.co.uk)
Os yw hyn yn swnio’n ddelfrydol i chi, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein i wneud cais am rôl y cynghorydd cyfreithiol dan hyfforddiant. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl, cysylltwch â: HQlegal@justice.gov.uk