Disgrifiad Swydd (DS)
Band 8
Proffil Grŵp: Pennaeth Swyddogaeth ar y Safle (HOFC)
Disgrifiad Swydd: HOFC: Addysg, Sgiliau a Gwaith
|
|
|
|
Cyfeirnod y Ddogfen |
OR-JES-3093-JD-B8 : HOFC : Education, Skills and Work v1.0 |
|
Math o Ddogfen |
Rheoli |
|
Fersiwn |
1.0 |
|
Dosbarthiad |
Swyddogol |
|
Dyddiad Cyhoeddi |
05 Rhagfyr 2022 |
|
Statws |
Llinell sylfaen |
Lluniwyd gan Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd
Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu
Tystiolaeth ar gyfer y Disgrifiad Swydd
|
Teitl Swydd |
HOFC: Addysg, Sgiliau a Gwaith |
|
Proffil Grŵp |
Pennaeth Swyddogaeth ar y Safle
|
|
Lefel yn y Sefydliad |
Rheoli Swyddogaethol |
|
Band |
8 |
|
Trosolwg o’r swydd |
Mae hon yn swydd rheoli swyddogaethol mewn sefydliad. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu addysg, sgiliau a gwaith o ansawdd uchel, yn unol ag anghenion carcharorion ac yn unol â fframweithiau a safonau rhanbarthol, cenedlaethol ac Ofsted, a hynny er mwn cefnogi carcharorion i gael gwaith ar ôl cael eu rhyddhau. Mae hon yn swydd sy’n weithredol neu'n anweithredol gyda chyfrifoldebau rheolaeth linell. Os yw’n weithredol, gweler y gofynion technegol. Ni fydd y swydd hon yn cylchdroi. |
|
Crynodeb |
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am bennu ac arwain y cyfeiriad strategol ar gyfer yr holl addysg, sgiliau a gwaith yn y carchar. Bydd hyn yn cynnwys datblygu dull cydlynol o weithio yn holl feysydd Addysg, Sgiliau a Gwaith, gan sicrhau bod dilyniant gweithgareddau’n bwrpasol ac wedi’i anelu at fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd carcharorion i gael cyflogaeth, addysg a hyfforddiant ar ôl eu rhyddhau. Rhaid i ddeiliad y swydd sicrhau bod yr holl weithgareddau Addysg, Sgiliau a Gwaith wedi’u strwythuro o amgylch 5 colofn Fframwaith Arolygu Addysg Ofsted, gan gefnogi penaethiaid swyddogaeth eraill yn y carchar i fanteisio i’r eithaf ar y dull hwn mewn meysydd lle mae carcharorion yn byw a rhyngweithio cymdeithasol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda darparwyr addysg, diwydiannau carchardai a mentrau preifat lleol i wneud y defnydd mwyaf priodol o weithdai a lleoliadau gwaith eraill y carcharorion i ddarparu’r addysg a’r sgiliau angenrheidiol i garcharorion allu cystadlu ac i gael gwaith yn y farchnad lafur leol. Fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at amcanion ei Swyddogaeth ac yn eu gweithredu fel y'u diffinnir yng nghynllun busnes y sefydliad. |
|
Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau |
Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:
|
|
|
Yn ddibynnol ar achrediad gweithredol, bydd yn ymgymryd â rhai neu’r cyfan o dasgau rheoli eraill, gan gynnwys:
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae’n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf. Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg. |
|
Ymddygiadau |
|
|
Cryfderau |
Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8. |
|
Profiad |
|
|
|
Sylwch, efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gwblhau hyfforddiant pellach ar ôl dechrau yn y swydd. |
|
Gofynion technegol |
Os yw’n Weithredol Rhaid ennill achrediad llwyddiannus drwy basio Canolfan Asesu’r Pennaeth Swyddogaeth (HFAC), neu, cyn 2016, fod wedi cael ei achredu fel Rheolwr Gweithredol (neu mewn swydd G5 cyn 1999). Lle cafwyd achrediad HFAC o 2018 ymlaen, rhaid llwyddo hefyd yn yr asesiad Rheoli Digwyddiadau Trefn Rheoli Arian (IMSC) i fod yn gymwys ar gyfer rolau Pennaeth Swyddogaeth gweithredol.
|
|
Gallu |
|
|
Cymhwysedd Sylfaenol |
Peidiwch â newid y blwch hwn
|
|
Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol) Lwfansau |
Wythnos waith 37 awr. Lwfans Oriau Gofynnol (deiliaid swyddi gweithredol yn unig) - I’w gadarnhau gan y Rheolwr Recriwtio. Fel rhan o’r swydd hon bydd rhaid gweithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, a bydd taliad ar gyfradd gymeradwy gyfredol y sefydliad yn cael ei ychwanegu at eich cyflog sylfaenol i gydnabod hyn. Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau sydd ddim rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau Banc/Cyhoeddus. |
Proffil Llwyddiant
|
Ymddygiad |
Cryfderau Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8 |
Gallu |
Profiad |
Technegol |
|
Arweinyddiaeth |
Tystiolaeth amlwg o arloesi ac effaith mewn cyd-destun addysgol |
Profiad o weithredu ar lefel uwch neu ganolig mewn lleoliadau addysg ôl-16 ac addysg bellach gan gynnwys y sectorau cymunedol a gwirfoddol. |
TAR, Tystysgrif Addysg neu Lefel 5 mewn Addysg a Hyfforddiant. |
|
|
Cydweithio |
Sgiliau cyfathrebu cadarn ar bapur, ar lafar a heb fod ar lafar. |
Gwybodaeth fanwl am Fframwaith Arolygu Addysg a meini prawf sgiliau ac addysg bellach OFSTED/Estyn. |
Os yw’n Weithredol Rhaid ennill achrediad llwyddiannus drwy basio Canolfan Asesu’r Pennaeth Swyddogaeth (HFAC), neu, cyn 2016, fod wedi cael ei achredu fel Rheolwr Gweithredol (neu mewn swydd G5 cyn 1999). Lle cafwyd achrediad HFAC o 2018 ymlaen, rhaid llwyddo hefyd yn yr asesiad Rheoli Digwyddiadau Trefn Rheoli Arian (IMSC) i fod yn gymwys ar gyfer rolau Pennaeth Swyddogaeth gweithredol. |
|
|
Newid a Gwella |
Profiad o gydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys uwch arweinwyr, sefydliadau allanol, staff a myfyrwyr. |
Cwblhau'r llyfr gwaith yn llwyddiannus. |
||
|
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol |
Profiad sylweddol o ddatblygu a chyflwyno cwricwlwm effeithiol a diddorol ar gyfer ystod eang o ddysgwyr. |
Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gael ei asesu’n llwyddiannus i ddangos ei fod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc. |
OR-JES-3093-JD-B8 : HOFC : Education, Skills and Work v1.0
|
Profiad o weithredu newid o fewn cyd-destun addysgol. |
||||
|
Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae Fframwaith Arolygu Addysg Ofsted/Estyn yn berthnasol i garchar. |
||||
|
Gwybodaeth a dealltwriaeth o feini prawf addysg a sgiliau pellach OFSTED/Estyn ar gyfer carcharorion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a sut mae’r rhain yn berthnasol yng nghyd-destun y carchar. |
||||
|
Profiad o weithredu strategaethau i helpu dysgwyr i sicrhau ‘camau nesaf’ ystyrlon (e.e., hyfforddiant pellach, cyflogaeth). |
||||
|
Sylwch, efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gwblhau hyfforddiant pellach ar ôl dechrau yn y swydd. |
OR-JES-3093-JD-B8 : HOFC : Education, Skills and Work v1.0
OR-JES-3093-JD-B8 : HOFC : Education, Skills and Work v1.0