Swydd Ddisgrifiad (SDd) Y Gwasanaeth Prawf
Y Gwasanaeth Prawf Band 5
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf
Swydd Ddisgrifiad: Rheolwr Rhaglenni
Cyfeirnod y Ddogfen
PS JES 0101 Programme Manager
Math o Ddogfen
Rheolaeth
Fersiwn
2.0
Dosbarthiad
Swyddogol
Dyddiad Cyhoeddi
28/01/22
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Pennaeth y Grŵp
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Gwobrwyo
Tystiolaeth ar gyfer y SDd
PS JES 0101 Programme Manager v2.0
Swydd Ddisgrifiad Y Gwasanaeth Prawf
Teitl y Swydd
Rheolwr Rhaglenni
Cyfarwyddiaeth
Y Gwasanaeth Prawf
Band
5
Trosolwg o’r swydd
Swydd ranbarthol yw hon, ac felly byddwch yn riportio’n uniongyrchol i Bennaeth
Rhaglenni’r rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am weithredu a rheoli cyfeiriad strategol a danfoniad effeithiol
ymyriadau gan gynnwys Rhaglenni Achrededig, Ymyriadau Strwythuredig a
Chanolfannau Ymbresenoli Uwch ar gyfer pobl ar brawf sy’n destun dedfryd
gymunedol.
Byddwch yn gwneud hyn gan gydymffurfio â’r Fframwaith Uniondeb Ymyriadau, holl
bolisïau sefydliadol perthnasol a safonau achredu HMPPS.
Bydd gennych gyfrifoldeb rheolaeth llinell uniongyrchol am dîm symudol gwasgaredig
sy’n gweithio ar draws y rhanbarth.
Crynodeb
Bydd deiliad yn swydd yn gyfrifol am ddyrannu adnoddau’r tîm fel eu bod yn cael eu
trefnu’n effeithiol i sicrhau bod ymyriadau o safon yn cael eu darparu, a bod targedau
perfformiad yn cael eu bodloni yn unol â’r fframwaith dyrannu adnoddau.
Byddant yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a rhanddeiliaid eraill i
sicrhau danfoniad cydlynol o wasanaethau gan sicrhau bod yr holl drefniadau
iechyd a diogelwch ac amserlennu mewn lle i gyflawni canlyniadau da ar gyfer pobl
sydd ar brawf.
Cyfrifoldebau,
• Darparu rheolaeth llinell ac arweinyddiaeth effeithiol i dîm amrywiol sy’n cynnwys:
Gweithgareddau a
Rheolwyr Triniaeth, Hwyluswyr, Gweithwyr Cyswllt Partner, Staff Canolfannau
Dyletswyddau
Ymbresenoli Hŷn a Gweinyddwyr a chynnal prosesau cadarn sy’n ymwneud â
rheoli risg
• Cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod ymyriadau’n cael eu darparu yn
unol â llawlyfrau rheoli rhaglenni, safonau perfformiad ac archwilio a bod y
trefniadau mewn lle ar gyfer rheoli risg yn effeithiol
• Trosolwg strategol dros ddefnydd effeithiol o adnoddau wrth reoli rotas staff a
datblygu cynlluniau wrth gefn i sicrhau parhad darpariaeth ymyriadau
• Sicrhau bod lefel ddigonol o Hwyluswyr Rhaglen hyfforddedig
sydd wedi mynychu’r holl hyfforddiant gofynnol sy’n briodol i’r rhaglen y maent
yn ei darparu
• Arwain y gwaith o hyrwyddo Rhaglenni Achrededig, Ymyriadau Strwythuredig a
SAC a sicrhau bod y Farnwriaeth, Pobl ar Brawf ac Ymarferwyr Prawf yn gallu cael
mynediad rhwydd a chywir at wybodaeth am raglenni
•
Cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu cynnal
a bod cydymffurfiaeth â safonau archwilio yn cael ei fonitro a bod perfformiad
gwael a chwynion yn cael eu rheoli’n effeithiol i leihau risgiau i’r busnes
• Paratoi cynllun tîm blynyddol a’i adolygu, sicrhau bod adnoddau’n cael eu
dyrannu’n effeithiol ac ymateb i ddyletswyddau diogelu’r cyhoedd y tîm drwy
drefniadau amlasiantaethol ac adolygu, trafod a rhoi adborth ar waith achos
unigol
• Dechrau neu weithredu newid a datblygu gwasanaethau newydd yn unol ag
egwyddorion ymarfer effeithiol gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael
• Rheoli’r adnoddau ariannol fel sy’n ofynnol gan y Pennaeth Rhaglenni ac yn unol â
rheoliadau ariannol a pholisïau HMPPS ac ymgymryd â rôl arweiniol i gyflawni’r
cynllun busnes a datblygu gwaith gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan
gynrychioli’r Gwasanaeth Prawf fel sy’n briodol
PS JES
0101 Programme Manager v2.0
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn
o bryd, ac nid yw’n rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau
rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os
bydd addasiadau sylweddol, mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto
dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.
Ymddygiadau
• Cydweithio, Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill
• Cyflawni’n Gyflym
• Rheoli Gwasanaeth o Safon
• Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
• Cyfathrebu a Dylanwadu
• Arweinyddiaeth
Cryfderau
Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8
Profiad Hanfodol
• Dealltwriaeth o brif egwyddorion rhaglenni
• Profiad sylweddol o weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau gan gynnwys
asesu a rheoli risg troseddwyr
• Dealltwriaeth o rôl y Gwasanaeth Prawf yn y System Cyfiawnder Troseddol ac
mewn cyd-destun aml-ddisgyblaethol
• Tystiolaeth o’r gallu i werthuso arferion
• Profiad o weithio dan bwysau a bodloni terfynau amser tynn
• Gallu dangos sgiliau TG da, gan gynnwys tystiolaeth o'r gallu i ddehongli
adroddiadau perfformiad a’u rhoi ar waith
• Profiad o hybu a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn fewnol ac yn allanol
Gofynion
• Datryswr Problemau
Technegol
• Arweinydd Tîm
• Canolbwyntio ar y Gwasanaeth
• Dadansoddol
•
Effeithlon
• Cymhellwr
• Trefnydd
Gallu
Cymwysterau Gofynnol • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn
iddynt gychwyn swydd
• Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i
ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau
cyfnod prawf i HMPPS.
• Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei
ystyried yn hiliol gan HMPPS.
Lwfansau Oriau
Gwaith (Oriau
Anghymdeithasol)
PS JES 0101 Programme Manager v2.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Argymhellir dewis
Ymddygiadau
cryfderau yn lleol,
Gallu
Profiad
Technegol
awgrymir 4-8
Profiad helaeth gyda chofnod
Cydweithio
Cymhwyster rheoli neu'r gallu i ddangos
profedig o arferion da mewn
rheolaeth o strwythurau gweithdrefnol
amrywiol amgylchiadau (gan
a threfniadol cymhleth.
gynnwys asesiadau risg a rheoli
troseddwyr) fel Swyddog Prawf neu
wedi gweithio o fewn asiantaeth
cyfiawnder troseddol arall neu gyd-
destun gwaith cysylltiedig
Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill
Profiad o reoli ac asesu risg,
Tystiolaeth o’r gallu i reoli staff
dealltwriaeth o asesiadau risg aml-
asiantaethol a phrosesau rheoli.
Cyflawni’n Gyflym
Tystiolaeth o’r gallu i werthuso
Dealltwriaeth o rôl y Gwasanaeth Prawf
arferion a darparu persbectif
yn y System Cyfiawnder Troseddol ac
ymarferol ar ddatblygu polisïau
mewn cyd-destun aml-ddisgyblaethol
Rheoli Gwasanaeth o Safon
Profiad o weithio dan bwysau a
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r
bodloni terfynau amser tynn
ffactorau sy’n dylanwadu ar
ymgysylltu â dioddefwyr
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Profiad o weithio’n hyblyg
Cyfathrebu a Dylanwadu
Targedau perfformiad
Arweinyddiaeth
Profiad o gyfrannu at ddarparu
systemau gweinyddol a systemau
gwybodaeth effeithiol
PS JES 0101 Programme Manager v2.0