Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol
Band 4 y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol
Disgrifiad Swydd: Asesydd Tiwtor Ymarfer
Cyf. y Ddogfen
NP-JES-0040_Practice Tutor Assessor_v3.0
Math o Ddogfen
Rheoli
Fersiwn
3.0
Dosbarthiad
Swyddogol - Sensitif
Dyddiad Cyhoeddi
09/07/2019
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Pennaeth y Grŵp
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Dyfarnu
Tystiolaeth ar gyfer
y DS
NP-JES-0040_Asesydd Tiwtor Ymarfer_v3.0
Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Teitl y Swydd
Asesydd Tiwtor Ymarfer
Cyfarwyddiaeth
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
Band
4
Trosolwg o’r Swydd
Swydd gyda’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yw hon. Bydd deiliad y swydd yn aelod
o’r tîm hyfforddiant adrannol yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, neu yng
Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi (HMPPS) yng Nghymru. Bydd y swydd
yn un o adrannau’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol neu yng Nghymru, a bydd angen
teithio rhywfaint y tu allan i’r ardal honno
Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Rheolwr Hyfforddiant Adrannol/Is-Reolwr
Hyfforddiant Adrannol. Mae'r swyddogaeth hyfforddiant yn rhan o Grŵp Dysgu a
Datblygu HMPPS.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o’r tîm hyfforddiant adrannol ac yn gweithio i ddarparu
cymwysterau prawf ar lefel leol. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu anghenion grŵp o
ddysgwyr a chydweithio â nhw, yn unigol ac mewn grwpiau, yn y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol a'r Cwmni Adsefydlu Cymunedol.
Mae teithio’n rheolaidd, ac aros dros nos ar brydiau, yn rhan hanfodol o’r swydd hon.
Pan fydd angen, bydd disgwyl i Aseswyr Tiwtor Ymarfer gynnig cymorth i rannau eraill
Grŵp Dysgu a Datblygu HMPPS er mwyn diwallu anghenion busnes.
Mae gan y swydd hon swyddogaeth hyfforddi a bydd gofyn i ddeiliad y swydd
ddefnyddio ei sgiliau proffesiynol a’i wybodaeth arbenigol i sicrhau y darperir
cymwysterau prawf a sgiliau proffesiynol cysylltiedig yn effeithiol.
Crynodeb
Nid o
Cyd e
ly s
n ga
u a n y
ch ysfwydd h
lawni p o
o n
b gy
a frif
gwe o
d ld
d e
a b
r au
gy rh
m e
w o
y lw
s r llin
terau e
p ll.
ra
wf, gan gynnwys trefnu
cyfleoedd dysgu a monitro cynnydd dysgwyr yn y Gwasanaeth Prawf
Cenedlaethol/HMPPS yng Nghymru a Lloegr, ac mewn Cwmnïau Adsefydlu
Cymunedol. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys mentora, asesu a hyfforddi dysgwyr yn y
sefydliadau hyn.
Asesu ymgeiswyr Cymwysterau Galwedigaethol yn unol â gofynion y Corff Dyfarnu
a chynnal gweithdai sgiliau proffesiynol
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â swyddogaethau sicrhau ansawdd ar
ddeunyddiau gwaith dysgwyr a swyddogaethau ansawdd eraill yn dibynnu ar angen
busnes. Bydd hyfforddiant perthnasol yn cael ei ddarparu.
Cyfrifoldebau,
Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r
Gweithgareddau a
dyletswyddau a ganlyn:
Dyletswyddau
• Cymryd rhan yn y broses o ddewis dysgwyr sydd ar fin ymgymryd â chymwysterau
prawf
• Mynd ati i gynllunio, cydlynu a darparu pob math o gyfleoedd dysgu a hyfforddi i
gynorthwyo’r dysgwyr i gyflawni cymwysterau prawf.
• Nodi anghenion dysgu unigolion, gan gynnwys addasiadau rhesymol a materion
sy’n ymwneud ag arddull dysgu
• Cwblhau a monitro cytundeb dysgu ar gyfer pob dysgwr yn unol â’r Fframwaith
Rheoleiddio
• Cynnal sesiynau datblygu rheolaidd gyda dysgwyr i nodi anghenion parhaus ac
adolygu cynnydd ar y cymhwyster
•Nodi materion sy’n ymwneud â pherfformiad a rhoi gwybod amdanynt i’r
rheolwr llinell perthnasol ac i’r Rheolwr Hyfforddiant Adrannol. Cydweithio gyda’r
rheolwr llinell i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â’r materion.
• Darparu adroddiadau ysgrifenedig ar gynnydd dysgwyr, gan gynnwys adroddiadau
sy’n ymwneud â rheoli perfformiad.
NP-JES-0040_Asesydd Tiwtor Ymarfer_v3.0
•Mynd ati’n rhagweithiol i reoli presenoldeb dysgwyr mewn digwyddiadau a
chefnogi rheolwyr i gymryd camau i reoli absenoldeb salwch er mwyn cwblhau’r
cymhwyster.
•
Darparu hyfforddiant, mentora, prosesau sicrhau ansawdd a chefnogi’r gwaith o
ddatblygu ymarfer myfyriol ym mhob agwedd ar waith gyda dysgwyr a
chydweithwyr.
• Cyflawni dyletswyddau Aseswyr Tiwtoriaid Ymarfer pan fo cydweithwyr yn
absennol
• Mynychu pob sesiwn hyfforddi ac asesu angenrheidiol a chyflawni’r dyfarniad
asesydd o fewn 12 mis i ddechrau yn y swydd
• Defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu gyda dysgwyr yn unol â strategaeth
asesu’r sector a’r Corff Dyfarnu, gan gynnwys arsylwadau ysgrifenedig, adborth ar
berfformiad a recordiadau digidol o drafodaethau proffesiynol
•Gwneud y defnydd gorau posibl o TG a thechnoleg, gan gynnwys defnyddio’r
system e-bortffolio
• Mynychu cyfarfodydd safoni yn ôl yr angen a chysylltu â Swyddogion Sicrhau
Ansawdd Mewnol ac Allanol i sicrhau cysondeb ac ansawdd asesiadau
• Ymgymryd yn ôl y galw â phrosesau Sicrhau Ansawdd Mewnol gan gynnwys
cadeirio cyfarfodydd safoni; cysylltu â thimau’r Ganolfan Genedlaethol a thimau
adrannol; mynychu’r Grŵp Sicrhau Cymwysterau fel cynrychiolydd adrannol a
pharatoi ar gyfer ymweliadau Sicrhau Ansawdd Allanol.
•Sicrhau bod prosesau asesu yn adlewyrchu’r arferion gorau, eu bod yn deg ac yn
gyson ac yn bodloni gofynion y Corff Dyfarnu
•
Cysylltu â staff y darparwr Addysg Uwch i sicrhau bod dysgwyr yn gwneud
cynnydd tuag at gyflawni dyfarniadau academaidd a gwirio aseiniadau sy’n
seiliedig ar waith, os oes angen
• Datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda dysgwyr, cydweithwyr ac
asiantaethau allanol gan gynnwys Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol
•Cynnal gwybodaeth broffesiynol am y gwasanaeth prawf drwy fynychu
digwyddiadau hyfforddi perthnasol ac ennill profiad ymarferol, fel y nodir yn y
broses arfarnu.
• Teithio’n rheolaidd ar draws yr isadran/Cymru ac mewn mannau eraill, fel sy’n
ofynnol fel rhan o’r rôl
Mae’r rhestr ddyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o
bryd, ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn
addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg ac a allai fod yn
angenrheidiol. Mae'n bosib y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen
ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â
deiliad y swydd yn y lle cyntaf.
Ymddygiad
• Arweinyddiaeth
• Datblygu eich Hun ac Eraill
• Gweithio gyda’n gilydd
• Cyflawni'n Gyflym
• Cyfathrebu a Dylanwadu
• Gwneud Penderfyniadau
Cryfderau
Effeithiol
Argymhellir b
o d y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8
Profiad Hanfodol
• Profiad o ymarfer prawf a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf o ran
polisi
•
Sgiliau trefnu cadarn, cynllunio a rhoi sylw i fanylion
• Sgiliau cyfathrebu ardderchog
• Gwaith swyddog prawf gyda throseddwyr
Gofynion
• Cymhwyster Swyddog Prawf
technegol
• Gwybodaeth am gymwysterau prawf
NP-JES-0040_Asesydd Tiwtor Ymarfer_v3.0
Gallu
Cymhwysedd Sylfaenol Peidiwch â newid y blwch hwn
• Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob
ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.
•
Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i
ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni
cyfnod prawf yn HMPPS.
• Mae’n rhaid i’r holl staff ddatgan a ydyn nhw’n aelod o grŵp neu sefydliad sy’n
cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.
Lwfansau Oriau
Gwaith (Oriau
Anghymdeithasol
)
NP-JES-0040_Asesydd Tiwtor Ymarfer_v3.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Argymhellir bod cryfderau
Ymddygiad
yn cael eu dewis yn lleol,
Gallu
Profiad
Technegol
ac argymhellir 4-8
Profiad o ymarfer prawf a
Arweinyddiaeth
gwybodaeth am y datblygiadau
Cymhwyster Swyddog Prawf
diweddaraf o ran polisi
Profiad gweithredol fel
Datblygu eich Hun ac Eraill
swyddog prawf
Gwybodaeth am gymwysterau prawf
Sgiliau cyfathrebu a threfnu cadarn
Cydweithio
gan gynnwys cynllunio a rhoi sylw i
fanylion
Cyflawni’n Gyflym
Cyfathrebu a Dylanwadu
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
NP-JES-0040_Asesydd Tiwtor Ymarfer_v3.0.