Disgrifiad Swydd y Gwasanaeth
Prawf
Band 5 y Gwasanaeth Prawf
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth
Prawf
Disgrifiad Swydd: Rheolwr
Cydraddoldeb
PS-JES-0025
Rheolwr
Cyfeirnod y Ddogfen
Cydraddoldebau v3.0
Math o Ddogfen
Rheoli
Fersiwn
3.0
Dosbarthiad
Swyddogol
Dyddiad Cyhoeddi
9 Mai 2024
Statws
Llinell sylfaen
Lluniwyd gan Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Dyfarnu
Tystiolaeth ar gyfer y Disgrifiad Swydd
PS-JES-0025 Equality Manager v3.0
Disgrifiad Swydd
Teitl Swydd
Rheolwr Cydraddoldeb
Cyfarwyddiaeth Gwasanaeth Prawf
Band
Band 5 y Gwasanaeth Prawf
Trosolwg o'r
Bydd y Rheolwr Cydraddoldeb yn arwain gweithgareddau sy’n
swydd
ymwneud â chydraddoldeb yn y rhanbarth a bydd yn sicrhau
cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn gweithgareddau ar
draws y rhanbarth. Bydd deiliad y swydd yn cymryd camau i
gynghori a chefnogi’r Tîm Arweinyddiaeth Rhanbarthol.
Dyma swydd anweithredol heb unrhyw gyfrifoldebau rheolaeth
linell.
Crynodeb
Bydd y Rheolwr Cydraddoldeb yn creu strategaethau
cydraddoldeb rhanbarthol sy’n cyd-fynd â strategaeth
Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn y Gweithlu
Prawf a strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth
Carchardai a Phrawf.
Deiliad y swydd fydd y prif bwynt cyswllt i roi cyngor ar faterion
cydraddoldeb yn y rhanbarth, a bydd yn cymryd camau i gefnogi’r
tîm arweinyddiaeth rhanbarthol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i
staff a phobl ar brawf.
Bydd y Rheolwr Cydraddoldeb yn cael ei gefnogi gan Swyddog
Cydraddoldeb, a bydd yn rheolwr llinell arno.
PS-JES-0025 Equality Manager v3.0
Cyfrifoldebau,
Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y
Gweithgareddau gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:
a
Dyletswyddau
• Bod yn gyfrifol am sicrhau bod Dadansoddiadau
Cydraddoldeb yn cael eu cwblhau’n gywir, ac am rannu
arweiniad â rhanddeiliaid rhanbarthol sy’n cynnal y
dadansoddiadau.
• Bod yn gyfrifol am ddatblygu’r strategaeth cydraddoldeb
ranbarthol a monitro’r cynnydd a chwblhau’r camau
gweithredu a nodir yn y strategaeth.
• Bod yn gyfrifol am gynghori’r tîm arweinyddiaeth
rhanbarthol ynghylch unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth
cydraddoldeb i sicrhau bod y rhanbarth yn cyflawni ei
rwymedigaethau cyfreithiol.
• Cefnogi camau disgyblu neu gwynion sydd â dimensiwn
Amrywiaeth a Chynhwysiant iddynt, a rhoi cyngor i’r adran
Adnoddau Dynol a’r Undebau Llafur ar faterion
cydraddoldeb ac amrywiaeth lle bo hynny’n briodol.
• Cadeirio pwyllgorau a fforymau cydraddoldeb rhanbarthol,
gan roi cyfarwyddyd i sicrhau cynnydd yn erbyn cynlluniau
gweithredu a chydberchnogaeth ar feithrin diwylliant
amrywiol a chynhwysol. Hefyd, mynychu fforymau
cydraddoldeb cenedlaethol i gynrychioli’r rhanbarth a
dosbarthu gwybodaeth yn rhanbarthol ac ymgysylltu ag
arweinwyr lle mae angen gweithredu ar gydraddoldeb.
• Cefnogi arweinwyr rhwydweithiau staff rhanbarthol sy’n
cynrychioli staff â nodweddion gwarchodedig i sicrhau
ymwybyddiaeth o fentrau cyfredol, cydymffurfio â
deddfwriaeth a pholisi, a hyrwyddo'r arferion gorau.
PS-JES-0025 Equality Manager v3.0
• Bod yn gyfrifol am reoli cyllidebau i gyflawni prosiectau
cydraddoldeb penodol; pan fydd cyllid yn cael ei
ddyrannu’n genedlaethol ac yn rhanbarthol, bydd deiliad y
swydd yn sicrhau bod arian yn cael ei wario i gefnogi’r
gwaith o gyflawni gweithgareddau a chanlyniadau
cydraddoldeb penodol.
• Arwain y gwaith o greu cynllun cyfathrebu Amrywiaeth a
Chynhwysiant rhanbarthol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau
diwylliannol a chrefyddol cenedlaethol a rhyngwladol a
misoedd dathlu hanes ar gyfer gwahanol grwpiau, a chreu
a chyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth.
• Rhwydweithio â grwpiau allanol a’u cynnwys yn y gwaith o
gefnogi digwyddiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth,
Cynhwysiant a Pherthyn.
• Cynnig cymorth i staff drwy fentrau llesiant, cynnal fforymau
gofod diogel, a chyfeirio at y rhwydweithiau cymorth sydd
ar gael, fel PAM Assist a hyrwyddwyr llesiant.
• Defnyddio dadansoddiadau data i ganfod tueddiadau i
gefnogi’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol, gan eu
gwneud yn berthnasol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a
thynnu sylw at risgiau i gydymffurfiaeth ranbarthol a sicrhau
bod deddfwriaeth diogelu data yn cael ei dilyn.
• Arwain digwyddiadau hyfforddi a chynefino perthnasol pan
fo angen.
Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy
gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn
Gymraeg.
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y
mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn.
Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a
thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol.
Mae'n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd
angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a
bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.
Meini Prawf Proffil Llwyddiant y
Gwasanaeth Sifil
Ymddygiadau
• Newid a Gwella
• Cydweithio
• Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
• Gweld y Darlun Ehangach
• Arweinyddiaeth
• Cyfathrebu a Dylanwadu
• Datblygu ei Hun ac Eraill
Cryfderau
Sylwer: rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 o gryfderau’n
lleol - dewiswch oddi ar y rhestr diffiniadau o gryfderau’r
Gwasanaeth Sifil ar y fewnrwyd.
PS-JES-0025 Equality Manager v3.0
Gallu
• Adnabyddiaeth ymarferol o raglenni Microsoft Office 365, gan
gynnwys MS Teams, Outlook, PowerPoint ac Excel.
• Sgiliau cyfathrebu cadarn.
• Sgiliau cyflwyno cadarn.
• Gallu dadansoddi a dehongli data.
• Gallu gweithio’n benderfynol ac adeiladol â staff ar bob lefel.
Profiad
Hanfodol:
• Dangos profiad o weithio mewn rôl sy’n canolbwyntio ar
gydraddoldeb.
• Dangos profiad o ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau
cymorth busnes.
• Dangos profiad o reoli eraill.
• Dangos profiad o sicrhau a chynnal ansawdd ar gyfer ystod
eang o weithgareddau rheoli.
• Gwybodaeth estynedig o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Dymunol:
• Profiad o weithio mewn lleoliad Prawf neu sefyllfa debyg.
Technegol
• NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
(neu brofiad ymarferol priodol).
Isafswm
Peidiwch â newid y blwch hwn
Cymhwysedd
• Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal
ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.
• Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf
o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod
prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng
Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
• Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp
neu fudiad y mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn
ystyried eu bod yn hiliol.
Oriau Gwaith
I’w adael yn wag
(Oriau
I’w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi yn unig
Anghymdeithasol)
Lwfansau
PS-JES-0025 Equality Manager v3.0