Swydd Ddisgrifiad NPS (SDd)
Band 5 NPS
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol /
Datblygu a Newid Busnes
Swydd Ddisgrifiad: Arweinydd Integreiddio CRC / NPS
NPS-JES-0024_Band 5 CRC / NPS Integration Lead_v2.0
Cyfeirnod y Ddogfen
Math o Ddogfen
Rheoli
Fersiwn
2.0
Dosbarth
Annosbarthedig
Dyddiad Cyhoeddi
3/7/2019
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Pennaeth y Grŵp
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Gwobrwyo
Tystiolaeth ar gyfer y SDd
NPS-JES-0024_Band 5 CRC / NPS Integration Lead_v2.0
Swydd Ddisgrifiad NPS
Teitl y Swydd
Arweinydd Integreiddio CRC/NPS
Cyfarwyddiaeth
Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol/Datblygu a newid busnes
Band
5
Trosolwg o’r swydd
Mae’r Arweinydd Integreiddio’n gyfrifol am gynllunio a gweithredu ymyriadau fel y
gellir gwella’n barhaus y prosesau gweithredol rhwng NPS a CRC’s a phartneriaid
cyflawni eraill. Mae’r rôl yn gyfrifol hefyd am ddarparu cymorth i bartneriaid newid
busnes i Is-adrannau’r NPS a Dirprwy Gyfarwyddwyr ar lefel ranbarthol yn ôl
cyfarwyddwyd yr Uwch Reolwr Integreiddio Systemau.
Crynodeb
Bydd y tîm Integreiddio Systemau’n gyfrifol am sicrhau bod NPS yn gweithio mor
effeithiol â phosibl ag CRC’s a phartneriaid cyflawni eraill. Bydd y rolau’n cynnwys nodi
a chydlynu cyflawniad i wella effeithiolrwydd gweithrediadau. Yng Nghymru bydd y
rolau hyn yn mynd ymhellach na Phrawf - byddant hefyd yn cynnwys integreiddio
Carchardai / Prawf.
NPS-JES-0024_Band 5 CRC / NPS Integration Lead_v2.0
Cyfrifoldebau,
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r
Gweithgareddau a
dyletswyddau canlynol:
Dyletswyddau
Gwella a gweithredu prosesau gweithredol effeithiol rhwng NPS a’i bartneriaid
• Cynnal dadansoddiad i wella, a gwneud prosesau gweithredol, a
pherthnasoedd, rhwng NPS a CRC a grwpiau partneriaeth ehangach o’r NPS yn
fwy effeithiol - er enghraifft y CPS, yr Heddlu, Llysoedd a Charchardai
• Helpu i wella sut yr ymdrinnir â chysylltiadau hanfodol yn y prosesau
gweithredol rhwng NPS a CRC’s, a rhwng NPS a grwpiau partneriaeth ehangach.
Gweithredu rheoli newid cysylltiedig
• Cynllunio a dylunio’r newid sydd ei angen i wneud prosesau gweithredol rhwng
partneriaid cyflawni mor effeithiol â phosibl
• Cydlynu mewnbwn gweithredol i brosiectau’r Pencadlys i wella’r rhyngwyneb
rhwng y ddau sefydliad a rhwng NPS a grwpiau partneriaeth eraill (e.e. CPS ac
ati)
• Rheoli’r cysylltiadau a’r rhyngddibyniaethau â rhaglenni newid lleol
Cyfathrebu’n effeithiol
• Darparu gwybodaeth, adborth a chyngor
• Dylanwadu a pherswadio
• Cadeirio a chymryd rhan mewn cyfarfodydd gan ddefnyddio sgiliau,
arddulliadau a dulliau priodol
Gwella eich perfformiad eich hun
• Rheoli eich adnoddau a’ch datblygiad proffesiynol eich hun
Defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau hanfodol
• Cysylltu â staff i gael, coladu a dadansoddi gwybodaeth, gan ddatblygu
systemau a llunio adroddiadau yn ôl yr angen
• Datblygu a defnyddio data i ganfod tueddiadau ac i weithredu’n briodol i
gynnal a gwella perfformiad
• Cynllunio, gweithredu a rheoli systemau i gyfnewid gwybodaeth, data a
chudd-wybodaeth sensitif.
Rheoli Amrywiaeth ac Ansawdd
• Cyfrannu at ddiwylliant a systemau sy’n hybu cydraddoldeb ac sy’n
gwerthfawrogi amrywiaeth
• Rhoi polisïau amrywiaeth y gwasanaeth ar waith a chydweithio’n effeithiol â’r
Uned Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn
o bryd, ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn
addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn
angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y
swydd unwaith eto o dan y cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â Deiliad y
Swydd yn y lle cyntaf.
Ymddygiadau
•
Newid a Gwella
•
Cydweithio
•
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
•
Rheoli Gwasanaeth o Safon
•
Arweinyddiaeth
•
Cyfathrebu a Dylanwadu
Cryfderau
Argymhellir dewis cryfderau’n lleol, awgrymir 4-8.
NPS-JES-0024_Band 5 CRC / NPS Integration Lead_v2.0
Profiad Hanfodol
Gallu dangos profiad o lwyddo i ganfod a gwella effeithlonrwydd sefydliad, dangos
profiad o weithredu prosiectau newid llwyddiannus, a phrofiad gweithredol o weithio
mewn lleoliad Prawf.
Gofynion technegol
NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc perthnasol (neu brofiad ymarferol
perthnasol).
Microsoft: Word, Excel, Access, Outlook, a PowerPoint (neu feddalwedd cyfatebol h.y.
Lotus Notes).
Gallu
Cymhwystra Gofynnol
? Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd
cyn iddynt gychwyn mewn swydd.
? Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis. Bydd
rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi
cwblhau cyfnod prawf gyda HMPPS.
? Bydd rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n
cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.
Oriau Gwaith (Oriau
Anghymdeithasol)
Lwfansau
NPS-JES-0024_Band 5 CRC / NPS Integration Lead_v2.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Ymddygiadau
Argymhellir dewis
Gallu
Profiad
Technegol
cryfderau’n lleol,
awgrymir 4-8.
Gallu dangos profiad o lwyddo i
NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth
Newid a Gwella
ganfod a gwella effeithlonrwydd
mewn pwnc perthnasol (neu brofiad
sefydliad.
ymarferol perthnasol)
Sgiliau TG; Microsoft: Word, Access,
Profiad o weithredu prosiectau
Cydweithio
Excel, Outlook, a PowerPoint (neu
newid yn llwyddiannus.
feddalwedd cyfatebol, e.e. Lotus Notes)
Profiad gweithredol o weithio o
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
fewn lleoliad Prawf.
Rheoli Gwasanaeth o Safon
Arweinyddiaeth
Cyfathrebu a Dylanwadu