Swydd Ddisgrifiad (SDd) Y Gwasanaeth Prawf Band 5 (GP)
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf
Swydd Ddisgrifiad - Cydlynydd Partneriaeth Iechyd a Chyfiawnder
|
Cyfeirnod y Ddogfen |
PS JES 0106 Health and Justice Partnership Coordinator |
|
Math y Ddogfen |
Rheoli |
|
Fersiwn |
2.0 |
|
Dosbarthiad |
Swyddogol |
|
Dyddiad Cyflwyno |
28 Ebrill 2022 |
|
Statws |
Gwaelodlin |
|
Cynhyrchwyd gan |
Tîm Sicrwydd a Chefnogi Gwerthuso Swyddi |
|
Awdurdodwyd gan |
Tîm Dyfarnu |
|
Tystiolaeth ar gyfer y SDd |
|
Swydd Ddisgrifiad
|
Teitl y Swydd |
Cydlynydd Partneriaeth Iechyd a Chyfiawnder |
|
Cyfarwyddiaeth |
Gwasanaeth Prawf |
|
Band |
Band 5 |
|
Trosolwg o'r Swydd |
Mae deiliad y swydd yn arweinydd strategol ar gryfhau a datblygu llwybrau parhad gofal fel bod modd i’r rheini sy’n gadael y carchar allu cael triniaeth a chymorth ar ôl cael eu rhyddhau, fel rhan o nodau’r sefydliad ar gyfer lleihau/torri’r cylch aildroseddu.
Fel rôl strategol o fewn y Gwasanaeth Prawf (GP), mae deiliaid y swydd yn atebol i'r Pennaeth Integreiddio Cymunedol.
Bydd y swydd yn un rhanbarthol ac yn cael ei lleoli mewn swyddfa prawf gyda'r disgwyl y bydd deiliaid y swydd yn teithio yn ôl y galw, gan gynnwys ymweliadau rheolaidd â charchardai penodol.
Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r GP, rhaid i ddeiliad y swydd bob amser ddangos ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant, a dealltwriaeth o berthnasedd y rhain i‘r gwaith y maent yn ei wneud. |
|
Crynodeb |
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arwain ar barhad llwybrau gofal gan weithio ar y cyd â phartneriaid lleol perthnasol a chydweithwyr yn y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF i ddatblygu arferion mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau a chynlluniau ar gyfer rhyddhau sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Mae hyn yn cynnwys dylunio ac ymgynghori ar brosesau fel bod modd rhannu gwybodaeth, gwella’r defnydd o amodau trwydded sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd, a deall llwybrau ailsefydlu sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd.
Rhaid i ddeiliad y swydd lynu wrth yr holl bolisïau mewn perthynas â natur sensitif/cyfrinachol yr wybodaeth y bydd yn delio â hi tra bydd yn gweithio yn y swydd hon. |
|
Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau |
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau a ganlyn:
Gwasanaeth Reconnect NHS Improvement.
y cytunwyd arno. |
|
|
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd ac ni fwriedir i’r rhestr fod yn holl gynhwysfawr. Mae disgwyl i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Efallai y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailystyried y swydd dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a chaiff hyn ei drafod yn y lle cyntaf â deiliad y swydd. |
|
Ymddygiad |
|
|
Cryfderau |
Cynghorir dewis cryfderau'n lleol, argymhellir 4-8 |
|
Profiad |
|
|
Technegol |
|
|
Gallu |
|
|
Cymhwyster Sylfaenol |
|
|
Lwfans Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol) |
I'w gadael yn wag.
I'w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi (JES) yn unig. |
PS JES 0106 Health and Justice Partnership Coordinator v2.0