Swydd Ddisgrifiad (SDd)
Y Gwasanaeth Prawf
Band 3
Cyfarwyddiaeth: Y Gwasanaeth Prawf
Swydd Ddisgrifiad: Gweithiwr Preswyl Adeilad
Cymeradwy
Cyfeirnod y Ddogfen
PS-JES-0049 Pay Band 3 Approved Premises Residential Worker
v7.0
Math o Ddogfen
Rheolaeth
Fersiwn
7.0
Dosbarthiad
Swyddogol
Dyddiad Cyhoeddi
8 Chwefror 2023
Statws
Gwaelodlin
Cynhyrchwyd gan
Y Tîm Gwerthuso Sicrwydd a Chymorth Swydd
Awdurdodwyd gan
Y Tîm Gwobrwyo
Tystiolaeth ar gyfer y SDd
PS-JES-0049-0050_Pay Band 3 Approved Premises Finance v7.0
Swydd Ddisgrifiad Y
Gwasanaeth Prawf
Teitl y Swydd
Gweithiwr Preswyl Adeilad Cymeradwy
Cyfarwyddiaeth
Y Gwasanaeth Prawf
Band
Band 3
Trosolwg o’r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm sy’n darparu gwasanaeth 24 awr
mewn Adeilad Cymeradwy (AP) gan gynnwys gwasanaethau diogelwch a monitro.
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd ag ystod lawn o waith gyda’r bobl ar brawf tra’n
breswylwyr yn yr Adeilad Cymeradwy. Bydd hyn yn cynnwys; rhoi cymorth wrth
gyfrannu at amcanion y cynllun dedfryd a rheoli risg ac adrodd am unrhyw newidiadau
sylweddol sy’n ymwneud â risg a/neu aildroseddu i unrhyw ddiffyg cydymffurfio o
fewn gweithdrefnau gorfodi a gytunwyd i sicrhau bod pobl ar brawf sy’n preswylio
mewn Adeilad Cymeradwy yn cael eu cadw’n ddiogel drwy gydol eu sifft.
Crynodeb
Bydd deiliad y swydd yn helpu i oruchwylio’r preswylwyr a’u lles, gan gynnal
disgyblaeth a chadw at reolau’r Adeilad Cymeradwy, amodau trwydded, amcanion
cynllun dedfryd penodol i breswylio yn yr Adeilad Cymeradwy a gorchmynion llys. Yn
ogystal, bydd yn cyfrannu at y broses o reoli risg preswylwyr. Bydd y swydd hon yn
golygu llawer o waith y tu allan i oriau swyddfa, gweithio dros nos ac ar
benwythnosau. Mae’n bosibl y bydd angen i ddeiliad y swydd ymgymryd â
dyletswyddau mewn Adeilad Cymeradwy arall pan fydd staff yn absennol.
Yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y PS, bydd rhaid i ddeiliad y swydd arddangos
ymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant bob amser a deall sut maent yn berthnasol
i’r gwaith mae’n ei wneud.
Rhaid i ddeiliad y swydd lynu at bob polisi o ran natur sensitif/gyfrinachol yr
wybodaeth a gaiff ei thrin wrth weithio yn y swydd hon.
Cyfrifoldebau,
Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r
Gweithgareddau a
dyletswyddau canlynol:
Dyletswyddau
• Cyfrannu at arfer tîm effeithiol, cyfathrebu a chydweithredu’n effeithiol
gyda chydweithwyr i sicrhau arferion gwaith cyson ac amgylchedd
gwaith cadarnhaol.
• Cyflwyno materion risg allweddol yn effeithiol i gydweithwyr wrth
drosglwyddo a thrwy gydol y sifft. Bydd hefyd angen cyfathrebu gyda
Rheolwyr Troseddwyr, Rheolwr Wrth Gefn ac asiantaethau partner ar
adegau e.e. yr Heddlu, gweithwyr proffesiynol Iechyd a gwasanaethau
cyffuriau/alcohol.
• Cynnal archwiliadau rheolaidd o’r adeilad, gan gynnwys seleri a’r tir
drwy gydol y cyfnod ar ddyletswydd, cofnodi unrhyw achosion/difrod
neu ddiffygion a monitro offer TCC.
• Cynnal presenoldeb weithredol yn yr AP bob amser. Ymgysylltu'n rheolaidd
â phreswylwyr mewn ffordd gymdeithasol. Cyfrannu at ddiogelu’r
preswylwyr drwy arsylwi i sicrhau cydymffurfiaeth â’u cynlluniau
rheoli risg a lles cyffredinol.
• Ymgysylltu’n weithredol gyda a monitro ymddygiad preswylwyr risg
uchel a chymell trigolion i sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Herio a
rheoli’n briodol ymddygiad ymosodol neu ddifrïol.
•
Cyfrannu at gynlluniau rheoli risg preswylwyr drwy arsylwi ac
adrodd am unrhyw heriau sylweddol sy’n ymwneud â risg a/neu
aildroseddu i unrhyw ddiffyg cydymffurfio o fewn gweithdrefnau gorfodi y
cytunwyd arnynt.
• Cyfrannu at amcanion cynlluniau dedfryd y preswylwyr drwy
ymgysylltu gweithredol mewn gweithgareddau pwrpasol fel y
cytunwyd gan y Rheolwr AP a’r Rheolwr Troseddwyr. Sicrhau bod yr AP
wedi cloi ac yn ddiogel yn ystod cyfnod cyrffyw. Cadarnhau
PS-JES-0049-005
p 0_P
rese ay
no B
ld an
eb d
a 3 Ap
lles h p
o rov
ll b ed
res P
wyre
lwm
y is
r des
ro Fi
s n
noan
s. ce
v7.0
• Hwyluso swyddogaeth yr AP fel pwynt cyswllt cyntaf/brys y tu allan i
oriau.
• Drwy arsylwi a/neu ymgysylltu â phreswylwyr, darparu gwybodaeth
gywir, dadansoddi sefyllfa ac asesu risg i’r Rheolwr Troseddwyr a/neu
uwchgyfeirio i’r Rheolwr y Tu Allan i Oriau, a all arwain at orfodaeth
a/neu gydymffurfio â gorchmynion llys, trwyddedau, rheolau AP.
• Cefnogi, creu a chynnal amgylchedd gwaith diogel ar gyfer staff, preswylwyr
ac ymwelwyr drwy gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch,
sicrhau Systemau Gwaith Diogel (SSOW) ac Asesiadau Risg gan adrodd
am achosion i’r Rheolwr.
• Cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch, larymau tân, cyrffyw a chyrffyw
ystafelloedd yn unol â'r gweithdrefnau.
•
Cynnal chwiliadau ystafell wedi eu trefnu ymlaen llaw neu ddechrau ar sail
pryderon yn ymwneud â risg.
• Neilltuo eiddo preswylwyr yn ôl cyfarwyddyd.
• Sefydlu a/neu ddarparu gweithgareddau pwrpasol cysylltiedig ag amcanion
cynllun dedfryd preswylwyr fel y cytunwyd gan y Rheolwr Troseddwyr a’r
Rheolwr AP.
• Goruchwylio prydau bwyd preswylwyr.
• Cynnal hyfforddiant cynefino effeithiol ar gyfer preswylwyr.
• Dilyn gweithdrefnau meddyginiaeth ar bresgripsiwn gan gynnwys rhoi
meddyginiaeth i breswylwyr ac archwiliad wythnosol a nosweithiol o daflenni
meddyginiaeth.
•
Cynnal profion cyffuriau ac alcohol yn unol â chynllun rheoli risg a all
gynnwys adegau pan fydd deiliad y swydd yn credu bod y preswylydd o dan
ddylanwad ac felly’n cynyddu’r risg.
• Cynnal Cymorth Cyntaf os bydd preswylydd wedi’i niweidio neu hunan-anafu.
• Cynnal cofnodion a ffeiliau Adeilad Cymeradwy fel bo’r angen, gan gynnwys
cofnodi data fel bo’r angen a chyfrannu at gwblhau adroddiadau digwyddiad.
• Ymgymryd â dyletswyddau diogelu plant yn unol â chyfrifoldebau statudol
y PS a pholisïau asiantaethau.
• Delio gydag ymwelwyr a galwadau ffôn a monitro gwaith
contractwyr sy’n ymweld yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
•
Dangos sgiliau modelu pro-gymdeithasol drwy atgyfnerthu ymddygiad ac
agweddau cymdeithasol a herio ymddygiad ac agweddau gwrthgymdeithasol.
• Gweithio o fewn nodau a gwerthoedd PS a HMPPS
Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar
hyn o bryd, ac nid yw’n restr gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn
newidiadau rhesymol a thasgau ychwanegol o lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol.
Os bydd addasiadau sylweddol mae’n bosib y bydd angen ystyried y swydd unwaith
eto o dan y Cynllun Gwerthuso Swydd, a thrafodir hynny â deiliad y swydd yn y lle
cyntaf.
Bydd rhaid gallu cyflawni pob agwedd lafar o’r rôl yn hyderus drwy gyfrwng y
Saesneg neu (pan leolir y swydd yng Nghymru) Cymraeg.
Ymddygiadau
• Cydweithio
• Cyfathrebu a Dylanwadu
•
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
• Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill
• Cyflawni ar Gyflymder
Cryfderau
Argymhellir dewis cryfderau yn lleol, awgrymir 4-8
Gallu
Profiad
• Profiad o weithio gydag ystod eang o bobl a chymunedau sydd wedi profi
ystod o anawsterau cymdeithasol/personol.
PS-JES-0049-0050_Pay Band 3 Approved Premises Finance v7.0
Technegol
• O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, (yn cynnwys Saesneg a Mathemateg) neu
gymhwyster cyfatebol, neu brofiad gwaith perthnasol gyda’r gallu i ddangos
sgiliau rhifedd a llythrennedd lefel uchel sydd eu hangen i ddarllen, deall a
dehongli polisïau a’r gallu i ysgrifennu adroddiadau a gohebiaeth ar gyfer
rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
• Sgiliau TG: Microsoft: Word, Excel, Outlook, a PowerPoint
Cymwysterau Gofynnol Peidiwch â newid y blwch hwn
• Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn
iddynt gychwyn swydd.
• Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gwblhau cyfnod prawf o 6 mis.
Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gwblhau cyfnod prawf os nad ydynt
eisoes wedi cwblhau cyfnod prawf o fewn HMPPS.
• Mae’n ofynnol i holl staff ddatgan pa un a ydynt yn aelod o
grŵp neu sefydliad mae HMPPS yn ei ystyried yn hiliol.
Lwfansau Oriau
37
Gwaith (Oriau
Mae taliadau ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol.
Anghymdeithasol)
PS-JES-0049-0050_Pay Band 3 Approved Premises Finance v7.0
Proffil Llwyddiant
Cryfderau
Ymddygiadau
Cynghorir dewis
Gallu
Profiad
Technegol
cry
y fd
n era
lleou
l,
awgrymir 4-8
Cydweithio
Profiad o weithio gydag
Isafswm o 5 TGAU ar radd C neu
uwch (yn cynnwys Saesneg a
ystod eang o bobl sydd wedi
Mathemateg) neu'r gallu i
profi ystod o anawsterau
ddangos y sgiliau rhifedd a
cymdeithasol/personol.
llythrennedd lefel uchel sydd eu
hangen i ddarllen, deall a
dehongli polisïau a'r gallu i
ysgrifennu adroddiadau a
gohebiaeth ar gyfer
rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Cyfathrebu a Dylanwadu
Sgiliau TG: Microsoft: Word,
Excel, Outlook, a PowerPoint
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Datblygu Eich Hun a Phobl Eraill
Cyflawni’n Gyflym
PS-JES-0049-0050_Pay Band 3 Approved Premises Finance v7.0