Swydd Ddisgrifiad

Band 2

Proffil Grŵp - Gweinyddiaeth y Gwasanaethau Cymorth (SSA)

Swydd Ddisgrifiad - SSA: Trefnu Ymweliadau


Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-153-JD-B2 : SSA : Visits Booking v7.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

7.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

14 Mehefin 2022

Statws

Gwaelodlin

Lluniwyd gan Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y SDd

Swydd Ddisgrifiad

Teitl Swydd

SSA : Trefnu Ymweliadau

Proffil Grŵp

Gweinyddiaeth y Gwasanaethau Cymorth

Lefel yn y Sefydliad

Cefnogi

Band

2

Trosolwg o'r swydd

Swydd weinyddol mewn sefydliad yw hon.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn prosesu’r holl geisiadau am ymweliad ac yn eu trefnu’n brydlon ac yn broffesiynol gan fanteisio i’r eithaf ar nifer yr ymweliadau a gaiff eu trefnu bob sesiwn fel bod pob carcharor yn gallu defnyddio ei ddyraniad o Orchmynion Ymweld.

Mae hon yn swydd anweithredol heb unrhyw gyfrifoldebau rheoli llinell.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i deuluoedd/ffrindiau carcharorion ac i ymwelwyr swyddogol gan gynnwys cyfreithwyr, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac ati a bod yn gyfrifol am roi gwybod iddynt am holl weithdrefnau ymweld y sefydliad

  • Derbyn galwadau a negeseuon e-bost gan ymwelwyr sy’n trefnu amser/dyddiad ymweld, er mwyn gallu nodi’r ymweliad ar y system archebu, gan anfon gorchmynion ymweld a sicrhau bod y rhain yn ddilys adeg trefnu’r ymweliad

  • Llunio a dosbarthu rhestrau ymweld cyn pob sesiwn a rhestrau Diogelu ar gyfer ymweliadau, y switsfwrdd a’r ganolfan ymweliadau

  • Sicrhau bod gwybodaeth am ddiogelu’r cyhoedd a diogelwch yn berthnasol ac yn cael ei diweddaru’n gyson ar y system archebu

  • Monitro ar gyfer unrhyw rybuddion a nodir ar gyfer carcharorion a’u hymwelwyr i sicrhau diogelwch pawb dan sylw a chodi materion ynghylch ymwelwyr dan oedran gan roi gwybod i’r swyddogion diogelwch am unrhyw broblemau

  • Gwneud gwaith cychwynnol i drefnu ymweliadau ar gyfer ymwelwyr anabl ac ymweliadau amgylchiadau arbennig e.e. profedigaeth

  • Rhoi gwybodaeth i asiantaethau allanol pan ofynnir amdani, fel y cynllun cymorth gydag ymweliadau carchar

Cyflawni tasgau gweinyddol eraill gan gynnwys:

  • Darparu cymorth gweinyddol yn y maes gwaith

  • Cynnal system ffeilio fanwl gywir ar gyfer y maes gwaith

  • Ymateb i ymholiadau sy’n ymwneud â’r maes gwaith ac ailgyfeirio pan fo angen

  • Gweithredu’r switsfwrdd yn briodol drwy nodi anghenion y galwyr gan sicrhau bod pob neges yn cael ei chyfleu i’r parti priodol

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.

Ymddygiadau

  • Datblygu eich Hun ac Eraill

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Gweithio gyda’n gilydd

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad Hanfodol

Technegol

Gofynion

Gallu

Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad y mae HMPPS yn ystyried eu bod yn hiliol.

Oriau Gwaith

Lwfansau

(Oriau Anghymdeithasol)


37 awr yr wythnos

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Datblygu eich Hun ac Eraill

Cyfathrebu a Dylanwadu

Gweithio gyda’n gilydd

Rheoli Gwasanaeth o Safon

OR-JES-153-JD-B2 : SSA : Visits Booking v7.0


OR-JES-153-JD-B2 : SSA : Visits Booking v7.0