Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.

Mae ein Swyddogion Cyfreithiol yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu i gyflawni cyfiawnder. Os ydych chi'n bwriadu gwasanaethu'r cyhoedd drwy ddarparu gwasanaeth rhagorol, a'ch bod yn frwdfrydig am weithio gyda'r farnwriaeth, yna mae'r rôl hon yn rhoi cyfle i chi chwarae rhan ganolog o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF)..



Amdanom ni

Yn rhan o GLlTEF, mae'r Gyfarwyddiaeth Tribiwnlysoedd yn gyfrifol am weinyddu Tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr a Thribiwnlysoedd nad ydynt wedi'u datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn effeithiol. Rydym yn gweithio gyda barnwriaeth annibynnol ar draws ystod eang o awdurdodaethau i ddarparu system gyfiawnder deg, effeithlon ac effeithiol.



Eich rôl

Gan weithio o fewn Canolfan Gwrandawiad Ranbarthol (RHC), byddwch yn cefnogi gweinyddiad busnes Tribiwnlysoedd yn effeithiol ar raddfa genedlaethol drwy ymgymryd ag ystod o waith achos cymhleth a gweithgareddau asesu er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o hyrwyddo llwythi achosion a chael gwared ar unrhyw rwystrau i ddilyniant achosion effeithiol ac amserol.



Gan weithio'n annibynnol gyda chefnogaeth tîm ehangach, byddwch yn gwneud penderfyniadau gwybodus ar y ffordd orau o brosesu apeliadau gan ganiatáu gwell mynediad at gyfiawnder. O dan oruchwyliaeth Uwch Swyddog Cyfreithiol a barnwriaeth arweinyddol, bydd y Swyddog Cyfreithiol yn gwneud penderfyniadau rheoli achos fel rhan o'u pwerau barnwrol dirprwyedig. Bydd y Swyddog Cyfreithiol yn cysylltu â rhanddeiliaid allweddol a chydweithwyr GLlTEF i sicrhau gweinyddu cyfiawnder yn effeithiol.



Bydd y rôl Swyddog Cyfreithiol wedi'i lleoli yn nhîm Siambr Mewnfudo a Lloches (IAC) y Tribiwnlys Haen Gyntaf yng Nghasnewydd.



Hoffem dynnu sylw at y ffaith bod hon yn swydd yn y swyddfa, a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r swyddfa isod yn bersonol:


AIT Casnewydd, Tŷ Columbus, Casnewydd, NP18 2LXP16



Amdanoch chi

Ydych chi'n gallu myfyrio ar fater a chymryd agwedd wybodus a diduedd at eich gwaith, gan wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth? Os gallwch wneud hynny, mae'r rôl amrywiol a heriol hon ar eich cyfer chi.



Yn gyfathrebwr a phenderfynwr hyderus, byddwch yn defnyddio'ch sgiliau a'ch galluoedd i weithio'n effeithiol ac ymgysylltu â'r holl ddefnyddwyr llys. Byddwch yn deall pwysigrwydd gwneud penderfyniadau diduedd, a'r angen i ddeall ystod eang o wybodaeth ar gyflymder. Bydd gennych y gallu i gyfathrebu â sawl lefel o randdeiliaid mewnol ac allanol i'r Tribiwnlys, gyda dulliau cyfathrebu amrywiol a'r gallu i addasu eich cyfathrebu i'ch cynulleidfa.





Am swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch y ddogfen ategol a'r pecyn i ymgeiswyr isod cyn gwneud cais.




Profiad

Mae gradd yn y gyfraith neu brofiad technegol cyfatebol yn ddymunol.



Mae'r profiad technegol cyfatebol wedi'i ddiffinio fel:



Arddangos gallu i wneud penderfyniadau trosglwyddadwy, gan weithio o fewn fframwaith neu ganllawiau penodol a chynsail blaenorol, o dan fath o oruchwyliaeth





Rhagor o fanylion

Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i’r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.

Yn y swyddi gweithredol hyn byddwch yn delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid, ac felly bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi’u lleoli yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i’r cyhoedd. Efallai y bydd gweithio hybrid heb gytundeb ar gael, ond ni allwn hwyluso ceisiadau am amserlen gweithio o adref/yn y swyddfa penodol.

Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos. Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser, yn hyblyg ac i rannu swydd pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac yn diwallu anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Sesiwn Holi ac Ateb

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifft ac sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn cael cyfle i fynychu sesiwn Holi ac Ateb cyn i'r cyfweliadau ddechrau i ddarganfod mwy am y rôl a'r broses asesu. Bydd manylion hyn yn cael eu hanfon at ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio.



Teithio achlysurol i lysoedd eraill

Ar gyfer y swydd hon, efallai y bydd angen teithio o bryd i'w gilydd i safleoedd eraill .





Fisa Gweithiwr Medrus

O 22 Gorffennaf 2025, cynyddodd y Llywodraeth y trothwy cyflog a'r lefel sgiliau ar gyfer fisâu Gweithwyr Medrus. Nid yw'r rôl hon yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer nawdd yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol os ydych chi eisiau gwneud cais am Fisa Gweithiwr Medrus am y tro cyntaf.

Ni all yr adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon ond bai eich bod wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus cyn 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â'r rheolau mewnfudo a'r darpariaethau pontio sydd mewn lle.

Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd (neu'r darpariaethau trosiannol), bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.

Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU a weithredir yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.



3