SWYDDOGOL







Disgrifiad Swydd Band 3

Proffil Grŵp: Hyfforddwr Analwedigaethol

Disgrifiad Swydd: NVI: Hyfforddwr Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu

Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-3221-JD-B3: NVI: Hyfforddwr Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu fersiwn 1.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

1.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

9 Mawrth 2026

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan

Tîm Sicrwydd a Chefnogi Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan

Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y Disgrifiad Swydd






Disgrifiad Swydd

Teitl y Swydd

NVI: Hyfforddwr Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu

Proffil Grŵp

Hyfforddwr Analwedigaethol

Lefel y Sefydliad

Cyflawni


Band

3


Trosolwg o’r swydd

Mae hon yn swydd anweithredol mewn sefydliad.


Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio carcharorion yn yr amgylcheddau rheoli gwastraff ac ailgylchu mewn sefydliad. Bydd gofyn iddo drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i garcharorion i sicrhau bod gwastraff yn cael ei gasglu’n ddiogel ac yn effeithiol a’i waredu’n briodol.


Mae rhai unedau rheoli gwastraff yn darparu cymwysterau (neu hyfforddiant hyd at lefel gyfatebol). Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol (SPI) ac ni fydd yn cael ei wneud gan ddeiliad y swydd. Yr SPI hefyd ddylai gynghori’r sefydliad ar arferion, deddfwriaeth a gwaredu gwastraff/ailgylchu, yn ogystal â chydymffurfio â’r Economi Gylchol a Chyflwyno Data.


Bydd carcharorion sy’n gweithio tuag at gymhwyster yn y maes hwn yn cael eu hasesu gan Hyfforddwyr Cynhyrchu Arbenigol. Fodd bynnag, efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu datganiadau cefnogol ar gyfer asesiadau.


Er bod hon yn swydd anweithredol mewn sefydliad heb unrhyw gyfrifoldebau rheolaeth llinell, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau rheoli gweithdy a charcharorion. Nid yw hon yn rôl sy'n cylchdroi.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn gallu briffio carcharorion yn yr Uned Rheoli Gwastraff ar yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Bydd disgwyl iddo feithrin perthynas effeithiol, briodol a chefnogol â’r carcharorion sy'n ffurfio’r gweithlu drwy eu rheoli mewn modd rhagweithiol a hyrwyddo’r agenda gwedduster.


Bydd yn cyfrannu at gynllunio dedfrydau a lleihau aildroseddu. Bydd yn dilyn arferion carcharu diogel ac yn cydymffurfio â safonau diogelwch cenedlaethol a lleol. Bydd yn gyfrifol am lefel uwch o ddiogelwch, trefn dda a glendid yn y gweithdai.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:


  • Goruchwylio a hebrwng carcharorion i gasglu, prosesu a gwaredu gwastraff/ailgylchu o bob ardal y tu mewn i’r sefydliad. Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, gweithdrefnau a pholisïau Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau amgylchedd gweithio diogel.

  • Cofnodi’n gywir yr holl wastraff sy’n cael ei symud o’r safle, gan gynnwys pwysau, cost a refeniw. Cyfrannu at fesurau rheoli ar gyfer gwastraff sydd dan gyfyngiadau a darnio gwastraff cyfrinachol.

  • Monitro, cynnal a chadw a rhoi cyfrif am holl offer, cyfarpar a deunyddiau crai y gweithdy, gan sicrhau diogelwch bob amser.

  • Agor a rheoli ardal y gweithdy, dosbarthu offer, goruchwylio a hebrwng grwpiau gwaith carcharorion, a goruchwylio safon eu gwaith yn unol â gweithdrefnau lleol.

  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddewis, cynefino a hyfforddi carcharorion ar gyfer y gweithdy, gan gynnwys iechyd a diogelwch, COSHH, defnyddio peiriannau ac offer, amcanion WMU, disgyblaeth yn y gweithdy, codi a chario, a PPE.

  • Darparu cymorth, dysg a hyfforddiant wedi’i deilwra’n benodol i garcharorion, gosod amserlenni gwaith, a rheoli targedau a safonau ansawdd.

  • Goruchwylio a rheoli carcharorion i sicrhau eu diogelwch, eu cymhelliant, eu disgyblaeth, eu harfarniad a’u datblygiad, gan gynnwys cynnal chwiliadau yn ôl yr angen.

  • Cyfrannu at adroddiadau carcharorion, cynllunio dedfrydau a pharôl, a chwblhau dogfennau perthnasol fel rhai ACCT (Asesiadau, Gofal yn y Carchar a Gwaith Tîm), SIR (Gwybodaeth am Ddiogelwch), IEP (Cymhellion a Breintiau a Enillir), monitro’r drefn, cofnodion hyfforddi a thracwyr/llyfrau cynnydd.

  • Rheoli adnoddau gweithdai drwy ofyn am ddeunyddiau, cynnal lefelau stoc, cofnodi presenoldeb, cymeradwyo oriau a chyflogau carcharorion, a darparu cymorth gweinyddol gan gynnwys cysylltu â chontractwyr.

  • Sicrhau prosesau cyfathrebu a diogelwch effeithiol drwy weithio offer radio, cefnogi cynlluniau wrth gefn lleol, hebrwng contractwyr technegol, gweithredu fel bancsmon, a gyrru cerbydau ystadau a pheiriannau yn ôl yr angen.


Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir iddynt fod yn hollgynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Os bydd addasiadau sylweddol, mae’n bosibl y bydd angen ystyried y swydd unwaith eto o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hynny’n cael ei drafod gyda deiliad y swydd yn gyntaf.


Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg (yng Nghymru).






Meini Prawf Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil


Ymddygiad

  • Datblygu eich Hun ac Eraill

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Gweld y Darlun Ehangach

Cryfderau

Rydym yn argymell eich bod yn dewis 4 i 8 cryfder yn lleol.

Profiad

  • Gallech fod wedi cwblhau cwrs codi a chario ac ymwybyddiaeth sylfaenol o ddiogelwch, ac wedi cael hyfforddiant technegau torri’n rhydd.

Gofynion technegol

  • Dangos gwybodaeth sylfaenol am yr Hierarchaeth Gwastraff

  • Deall beth yw Trwyddedau Gwastraff ac Eithriadau

  • Cydymffurfio â pholisïau a rheoliadau Iechyd a Diogelwch fel Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH).

Gallu

  • Sgiliau TG

  • Mathemateg Sylfaenol

  • Saesneg Sylfaenol


Meini Prawf Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn


  • Bydd archwiliadau i wirio pwy ydych chi ac archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn y bydd yn cychwyn ar y swydd.

  • Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis.  Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydyn nhw eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf o fewn HMPPS.

  • Mae’n rhaid i’r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan HMPPS.


Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

Wythnos waith 37 awr (safonol).


Bydd y Rheolwr Recriwtio yn cadarnhau’r trefniadau Gweithio Oriau Anghymdeithasol, a dim ond pan fydd hynny’n berthnasol y bydd tâl am hynny:


Gweithio Orau Anghymdeithasol


Mae’r rôl hon yn gofyn am weithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd a bydd taliad ar gyfradd gyfredol gymeradwy’r sefydliad yn cael ei wneud yn ychwanegol at eich cyflog sylfaenol i gydnabod hyn.


Mae oriau anghymdeithasol yn golygu oriau nad ydynt rhwng 07.00 a 19.00 o’r gloch o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn cynnwys gweithio gyda’r nos, dros nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau Banc/Cyhoeddus.




SWYDDOGOL

OR-JES-3221-JD-B3: NVI: Hyfforddwr Rheoli Gwastraff ac Ailgylchu fersiwn 1.0