Disgrifiad Swydd

Band 7

Proffil Grŵp: Ymarferydd Cofrestredig (RP)

Disgrifiad Swydd: RP : Seicolegydd Cofrestredig


Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-219-JD-B7 : RP : Seicolegydd Cofrestredig v8.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

8.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

24 Awst 2022

Statws

Gwaelodlin

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y DS

Disgrifiad o’r Swydd

Teitl Swydd

RP : Seicolegydd Cofrestredig

Proffil Grŵp

Ymarferydd Cofrestredig

Lefel yn y Sefydliad

Arbenigwr Gweithredol

Band

7

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd anweithredol sy’n ymwneud â throseddwyr.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda charcharorion, pobl sydd ar brawf a staff, ac yn rhoi eu cymhwysedd ym maes seicoleg ar waith i leihau'r risg o niwed a'r risg o aildroseddu drwy wneud amrywiaeth o waith gan gynnwys asesu risg carcharorion, cynnal ymchwil, darparu ymgynghoriaeth a hyfforddiant i staff, ac asesiadau ac ymyriadau i garcharorion. Mae hon yn swydd anweithredol heb fod yn cylchdroi sy’n ymwneud â throseddwyr.

Bydd deiliad y swydd hon yn gallu darparu cefnogaeth a goruchwyliaeth ddynodedig i seicolegwyr dan hyfforddiant.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a Dyletswyddau

Bydd rhaid i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Cynnig cyngor proffesiynol awdurdodol ar dargedau ac amcanion ar gyfer troseddwyr perthnasol a chynghori ynghylch y lleoliad gorau i’r troseddwyr hynny (yn y sefydliad neu eu hadleoli mewn sefydliad categori arall)

  • Cynnig barn broffesiynol i dimau sy’n llunio adroddiadau ee adroddiadau ar garcharorion oes, adroddiadau parôl

  • Datblygu strategaeth a chynlluniau gweithgaredd ar gyfer ambell faes gweithredu ee rheoli’r gwaith o drefnu asesiadau rhaglenni perthnasol neu reoli asesiadau a chyfweld â charcharorion sydd ar ddedfryd amhenodol

  • Cynnig cymorth ymgynghorol i gydweithwyr fel uwch dîm rheoli neu dimau eraill ynglŷn â chanlyniadau a gwasanaethau seicolegol.

  • Cynnal ymchwil berthnasol gan gynnwys casglu a dadansoddi data

  • Bod yn gyfrifol am oruchwylio staff seicoleg fforensig dan hyfforddiant

  • Darparu hyfforddiant, mentora a chefnogaeth i seicolegwyr dan hyfforddiant a staff eraill (ee staff ymyriadau).

  • Mae’n bosibl y bydd angen darparu goruchwyliaeth (ddynodedig) broffesiynol i hyfforddeion ee Goruchwyliaeth broffesiynol i wneud yn siŵr bod hyfforddeion yn gallu datblygu drwy’r camau allweddol at gyrraedd statws cofrestredig a siartredig.

  • Sicrhau bod staff yn datblygu yn unol â'r prif gymwyseddau a’r pyrth a sicrhau cysondeb ar draws y tîm wrth roi polisïau a gweithdrefnau ar waith sy’n effeithio ar staff a charcharorion

  • Arwain ar asesu risg a rheoli risg sy’n deillio o’r asesiadau

  • Cymryd rhan mewn asesiadau risg o droseddwyr i bennu’r risg o beri niwed iddyn nhw eu hunain, ac i bobl eraill a’r risg o aildroseddu. Mae’n bosibl y bydd angen gwneud Asesiadau, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm (ACCT) ac asesiadau hunan-niweidio.

  • Mae’n bosibl y bydd angen darparu a/neu oruchwylio ansawdd rhaglenni (rheoli triniaeth). Y rhai mwy cymhleth fydd y rhain sy’n gofyn am fewnbwn cymwys o’r fath

  • Cynnig rôl ymgynghorol mewn maes arbenigol ee Strategaeth Gweithio gyda rhai a gafwyd yn euog o Droseddau Rhywiol neu Strategaeth Carcharorion Dedfryd Amhenodol (ISP)

  • Bod yn ymgynghorydd negodi lle bo hynny’n addas, a lle bo deiliad y swydd yn gymwys i wneud hynny


  • Bod yn “dyst proffesiynol" mewn gwrandawiadau bwrdd parôl, cyfarfodydd aml-asiantaeth, a lleoliadau ffurfiol eraill lle mae angen mewnbwn gan seicolegydd. Mae’n bosibl hefyd y gall fod yn dyst arbenigol mewn achosion llys ar gyfer y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

  • Cynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus personol a chofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd(HCPC)

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau a restrir uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailystyried y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a chaiff hyn ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg (pan nodir hynny yng Nghymru).

Ymddygiadau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Arweinyddiaeth

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cydweithio

  • Datblygu eich Hun ac Eraill

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad

  • Meddu ar gefndir proffesiynol ym maes Seicoleg

  • Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol

  • Wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol mewn modelau effeithiol o driniaeth ac arferion gorau

Gofynion technegol

• Clinigwr cymwysedig a chofrestredig gyda’r HCPC

Gallu

Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn y bydd yn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

  • Mae’n rhaid i’r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

Lwfansau

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol - argymhellir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Meddu ar gefndir proffesiynol ym maes Seicoleg

Clinigydd cymwysedig a chofrestredig gyda’r HCPC

Arweinyddiaeth

Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol

Cyfathrebu a Dylanwadu

Wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol mewn modelau effeithiol o driniaeth ac arferion gorau

Cydweithio

Datblygu eich Hun ac Eraill

Dewiswch eitem.

Dewiswch eitem.

Dewiswch eitem.

OR-JES-219-JD-B7 : RP : Seicolegydd Cofrestredig v8.0

OR-JES-219-JD-B7 : RP : Seicolegydd Cofrestredig v8.0