Proffil Grŵp: Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol

Band 4



Cyfeirnod y Ddogfen

HMPPS OR T 46 GP Specialist Production Instructor

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

13.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

31 Hydref 2022

Statws

Gwaelodlin

Lluniwyd gan Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y SDd



Proffil Grŵp

Proffil Grŵp

Enw

Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol

Lefel yn y Sefydliad

Cyflawni - Bydd y swyddi ar y lefel hon yn canolbwyntio ar y dasg ac yn darparu gweithgareddau neu wasanaethau wedi’u diffinio.

Band

4

Trosolwg

Bydd deiliaid swyddi ym Mhroffil y Grŵp hwn yn gyfrifol am ddarparu goruchwyliaeth, gwybodaeth a sgiliau i garcharorion mewn gweithdy arbenigol er mwyn iddyn nhw allu gwella eu rhagolygon cyflogaeth ar ôl cael eu rhyddhau gyda golwg ar leihau aildroseddu. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod yr holl wasanaethau’n cael eu darparu i safon uchel a bod diogelwch a rheolaeth yn cael eu cynnal bob amser. Bydd deiliad y swydd yn gallu dysgu carcharorion gyda'r nod o ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol a gall gael ei gefnogi gan sefydliadau allanol fel colegau lleol.

Nid yw’r swydd ddisgrifiad hwn i’w ddefnyddio gan ddeiliaid swyddi mewn gweithdai cydosod/pacio sylfaenol, yn hytrach dylid defnyddio Hyfforddwr Cynhyrchu - Mentrau. Fodd bynnag, ar sail tymor byr eithriadol, gall deiliaid swyddi oruchwylio carcharorion mewn gweithdai mwy sylfaenol.

Mae hon yn swydd anweithredol sy’n delio â charcharorion, a heb gyfrifoldebau rheolaeth linell.

Nodweddion

Dyma rai o’r tasgau nodweddiadol sy’n gysylltiedig â’r Proffil Grŵp hwn:

  • Cynefino'r carcharorion yn y gweithdy/lle gwaith, a’u hyfforddi mewn agweddau fel iechyd a diogelwch, Rheoli Sylweddau sy’n Beryglus i Iechyd (COSHH), a defnyddio peiriannau ac offer.

  • Rhoi cymorth i'r carcharorion fel y bo'r angen; teilwra’r gofynion dysgu a hyfforddi i anghenion yr unigolion

  • Trefnu amserlenni a rheoli targedau/safonau ansawdd, gan sicrhau bod trefniadau cytundebol yn cael eu darparu

  • Asesu a gwerthuso sgiliau carcharorion hyd at safonau cymwysterau cenedlaethol

  • Goruchwylio a chynnal disgyblaeth carcharorion o fewn y gweithdy/lle gwaith, gyda chyfrifoldeb am berfformiad, cymhelliant, disgyblaeth, gwerthuso, a datblygu carcharorion

  • Agor a llenwi ffurflenni Asesu, Gofal yn y Ddalfa a

Gwaith Tîm (ACCT), Adroddiadau ar Ddigwyddiadau Lleihau Trais (VRIR) ac Adroddiadau Gwybodaeth Diogelwch (SIR) pan fo angen, a chyfrannu at adroddiadau ar Gymhellion a Breintiau a Enillir (IEP)

  • Cofnodi presenoldeb a chymeradwyo’r oriau a weithiwyd gan garcharorion a chyflogau, gan gynnwys cofnodi darnau gwaith lle bo hynny’n briodol

  • Cynnal gwiriadau o ddeunyddiau ac offer yn y gweithdai, a sicrhau bod yr ardaloedd yn ddiogel gan gofnodi unrhyw namau ar offer/cyfarpar. Cynnal rhaglen cynnal a chadw ar beiriannau

  • Cyfrannu at asesiadau risg Iechyd a Diogelwch sy’n gysylltiedig â'r gweithdy/lle gwaith a mannau arbenigol

  • Cynnal sgan canfod metel neu chwiliad drwy ‘batio i lawr’ ar garcharorion sy’n mynychu ac yn gadael eu gweithdai eu hunain


Swydd Ddisgrifiadau sy’n berthnasol i’r Proffil Grŵp hwn

Nid yw’r swydd yn cylchdroi a bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni un o’r swydd ddisgrifiadau yn ei faes arbenigedd ei hun. Ceir rhestr enghreifftiol o swydd ddisgrifiadau isod.

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Mwynderau a Chadwraeth

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Garddwriaeth Fasnachol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Gwydr Dwbl Ffenestri Alwminiwm

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Trwsio Beiciau

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Tecstilau - Cynhyrchu Dillad

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Tecstilau - Atgyweirio Peiriannau Gwnïo

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Peirianyddol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Systemau Gorchudd Powdr

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Gwaith Metel Dalennog

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Lluniadu drwy Gymorth Cyfrifiadur

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Peirianneg - Saernïo a Weldio

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Golchi Dillad

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Rheoli Da Byw

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Modiwlau Chwistrellu Plastig, Thermo Blastig

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Argraffu - Gwarchodwr Peiriant Lithograffig

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Argraffu - Gwneud Platiau Lithograffeg Gwreiddiol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Argraffu - Gorffeniad Argraffu a Rhwymo

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwastraff Amgylcheddol

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Coed - Saer Coed Gosod Gwaith Coed

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Coed - Peiriannydd Pren

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Coed - Chwistrellydd Gorffeniad Pren

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Hyrwyddo Gweithgynhyrchu

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Braille

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Arwyddion

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Concrit

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Esgidiau

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Trwsio Setiau Teledu

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gorchuddiwr Dodrefn

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Gwaith Warws a Chyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Cynnal a Chadw a Glanhau Cerbydau

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Deunyddiau Print Hyrwyddo

  • Hyfforddwr Cynhyrchu Arbenigol : Arwyddion Digidol

Isafswm Cymhwysedd

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Mae cyfnod prawf o 6 mis yn berthnasol i bob ymgeisydd allanol. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yn HMPPS.

  • Mae’n ofynnol i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad y mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn ei ystyried yn hiliol.

Sgiliau Hanfodol/

Cymwysterau/

Achrediad/

Cofrestriad

Gall fod yn asesydd NVQ cymwysedig.

Wrth drosglwyddo i sefydliad Pobl Ifanc, bydd gofyn i ddeiliad y swydd lwyddo mewn asesiad i ddangos ei fod yn addas i weithio gyda Phobl Ifanc.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Saesneg neu (pan nodir hynny yng Nghymru) yn Gymraeg.

Oriau Gwaith a Lwfansau

37 awr yr wythnos

Ymddygiad

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Gweithio gyda’n Gilydd

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Datblygu eich Hun ac Eraill

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad Hanfodol

  • Rhaid meddu ar brofiad gwaith perthnasol mewn maes arbenigol

  • Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o oruchwylio

  • Dylai fod â phrofiad o ddefnyddio peiriannau ac offer diwydiannol safonol

Technegol

Gofynion

D.S Edrychwch ar y swydd ddisgrifiad unigol sy’n ymwneud â phroffil y grŵp hwn i weld unrhyw ofynion penodol i’r swydd a’u hychwanegu os oes angen.

• Yn meddu ar Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig, neu’n barod i weithio at hynny

Gallu

  • Sgiliau Technoleg Gwybodaeth

  • Mathemateg Sylfaenol

  • Saesneg Sylfaenol

Proffil Llwyddiant

Ymddygiad

Cryfderau

Argymhellir bod cryfderau

yn cael eu dewis yn lleol,

yn argymell 4-

8.

Gallu

Profiad

Technegol

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Sgiliau Technoleg Gwybodaeth

Rhaid meddu ar brofiad gwaith perthnasol

mewn maes arbenigol

Yn meddu ar Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc cysylltiedig neu’n barod i weithio tuag at hynny

Cyfathrebu a

Dylanwadu

Mathemateg Sylfaenol

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd rywfaint o brofiad o oruchwylio

Gweithio gyda’n Gilydd

Saesneg Sylfaenol

Dylai fod â phrofiad o ddefnyddio peiriannau ac offer diwydiannol safonol

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Datblygu eich Hun ac Eraill

HMPPS OR T 46 GP Specialist Production Instructor v13.0