Disgrifiad Swydd

Band 4

Proffil Grŵp - Hwylusydd (H)

Disgrifiad Swydd - H : Gweithiwr Grŵp

Cyfeirnod y Ddogfen

OR-JES-218 JD B4: F: Gweithiwr Grŵp f8.0

Math o Ddogfen

Rheoli

Fersiwn

8.0

Dosbarthiad

Swyddogol

Dyddiad Cyhoeddi

28 Mawrth 2023

Statws

Llinell sylfaen

Cynhyrchwyd gan Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi

Awdurdodwyd gan Y Tîm Dyfarnu

Tystiolaeth ar gyfer y DS

Disgrifiad o’r Swydd

Teitl Swydd

F: Gweithiwr Grŵp

Proffil y Grŵp

Hwylusydd

Lefel yn y Sefydliad

Cyflenwi

Band

4

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd wedi’i lleoli mewn carchar a bydd yn cynnwys gweithio mewn grwpiau ac un-i-un i ddarparu rhaglen i helpu carcharorion i ddeall eu hymddygiad, meithrin perthnasoedd cadarnhaol, gwella sgiliau meddwl yn feirniadol a’u cefnogi i fyw dyfodol heb droseddu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o dîm bach o Weithwyr Grŵp i ddarparu gwasanaeth adsefydlu pwysig a chyflawni uchelgais y Llywodraeth o leihau aildroseddu.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a rhaglenni, sy’n cynnwys asesiadau, triniaeth i unigolion a thriniaeth grŵp, a bydd yn cynnig cymorth wrth ddarparu gweithgareddau adsefydlu ehangach yn y carchar.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi drwy hyfforddiant, cyfleoedd i ddatblygu gyrfa a chefnogaeth broffesiynol.

Mae hon yn swydd anweithredol na fydd yn cylchdroi ac nid yw’n cynnwys unrhyw gyfrifoldebau rheolaeth llinell.

Cyfrifoldebau,

Gweithgareddau a

Dyletswyddau

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:

  • Darparu rhaglenni i grwpiau neu i unigolion gan ddilyn llawlyfr a’u cyflwyno yn unol â’r cynllun.

  • Paratoi deunyddiau ar gyfer cyflwyno’r sesiwn.

  • Cynllunio sesiynau yn unol â gofynion y rhaglen a chanfod sut mae cyflwyno’r sesiynau mewn ffordd ymatebol er mwyn diwallu anghenion y cyfranogwyr.

  • Rhoi gwybod i’r Rheolwyr Triniaeth ac aelodau eraill y tîm pan nad oes modd cynnal y sesiynau, a threfnu sesiynau dal i fyny.

  • Canfod a recriwtio cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol, cwblhau asesiadau, ac offer sgrinio a chynnal cronfa ddata gywir o’r canlyniadau.

  • Cynnal cofnodion cywir o asesiadau a chyswllt â charcharorion.

  • Cynnal cyfweliadau cymhellol gyda charcharorion gyda’r nod o’u cynnwys mewn rhaglenni.

  • Cymell cyfranogwyr y dyfodol, y presennol a’r gorffennol ac ymgysylltu â nhw’n barhaus.

  • Cynnal sesiynau ôl-drafodaeth a chofnodi unrhyw wybodaeth allweddol o’r sesiynau’n gywir.

  • Cwblhau tasgau ar ôl y rhaglen, gan gynnwys ysgrifennu cofnod o gynnydd, gosod amcanion, cyfrannu at adolygiadau ar ôl y rhaglen a chyfleu cynnydd i’r tîm rheoli dedfrydau, ar gyfer pob un sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.


  • Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o reoli dedfrydau drwy gysylltu â Rheolwyr Troseddwyr yn y carchar a’r gymuned.

  • Gweithio’n unol â’r canllawiau cyflawni a amlinellir yn y fframwaith sicrhau ansawdd, gyda chefnogaeth eich rheolwr triniaeth.

  • Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth a ddarperir gan dimau rheoli rhaglenni a thriniaeth.

  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a gefnogir gan eich rheolwr llinell.

  • Darparu pecynnau ymwybyddiaeth i staff eraill yn y sefydliad.

Mae’r dyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir i’r rhestr hon fod yn gwbl gyflawn. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol ar lefel debyg a allai fod yn angenrheidiol. Mae'n bosib y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ailedrych ar y swydd o dan y Cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hyn yn cael ei drafod â deiliad y swydd yn y lle cyntaf.

Gallu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg (pan nodir hynny yng Nghymru).

Oriau Gwaith

(Oriau Anghymdeithasol)

Lwfansau

I’w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi (JES) yn unig

Ymddygiadau

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Datblygu eich Hun ac Eraill

  • Rheoli Gwasanaeth o Safon

  • Cydweithio

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad Hanfodol

  • Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau rhagorol wrth ddelio â phobl.

  • Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Technegol

Gofynion

Gallu

  • Gallu cwblhau'r asesiad a'r cyrsiau hyfforddi angenrheidiol er mwyn darparu ymyriadau penodol a chynnal yr achrediad hwn o fewn y swydd.

  • Gallu hwyluso mewn ffordd ryngweithiol a difyr.

Isafswm

Cymhwysedd

  • Bydd archwiliadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer pob ymgeisydd cyn cychwyn yn y swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS).

  • Mae’n rhaid i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu fudiad sy’n cael ei ystyried yn hiliol gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf.

Proffil Llwyddiant

Ymddygiadau

Cryfderau

Argymhellir bod cryfderau

yn cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8

Gallu

Profiad

Technegol

Cyfathrebu a

Dylanwadu

Gallu cwblhau'r asesiad a'r cyrsiau hyfforddi angenrheidiol er mwyn darparu ymyriadau penodol a chynnal yr achrediad hwn o fewn y swydd.

Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau rhagorol wrth ddelio â phobl.

Datblygu eich Hun ac Eraill

Gallu hwyluso mewn ffordd ryngweithiol a difyr.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Rheoli Gwasanaeth o Safon

Cydweithio

OR-JES-218 JD B4: F: Gweithiwr Grŵp f8.0

OR-JES-218 JD B4: F: Gweithiwr Grŵp f8.0