Proffil Swydd


Teitl y Swydd: Swyddog Cefnogi Gweithrediadau GLlTEF


Gradd: AO


Diben y Swydd


Swyddog Cefnogi Gweithrediadau GLlTEF yw’r pwynt cyswllt cyntaf i ddefnyddwyr, deiliaid swyddi barnwrol ac asiantaethau partner. Maent yn darparu gwasanaeth cwsmer eithriadol, gan gynnwys i’r rhai sy’n agored i niwed neu sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth. Mae’r rôl amrywiol hon wrth galon darparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol o ddydd i ddydd i amryw o swyddogaethau, gan gynnwys cynorthwyo pob math o wrandawiadau ar draws holl feysydd busnes GLlTEF. Bydd y rôl yn cael effaith uniongyrchol ar gyflwyno cyfiawnder. Gellir lleoli’r rôl mewn unrhyw lys neu dribiwnlys neu unrhyw un o leoliadau y Gwasanaethau Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Casglu a Gorfodi Dirwyon Troseddol.


Bydd y swydd yn cefnogi defnyddwyr GLlTEF mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) wyneb yn wyneb, dros y ffôn, trwy ddulliau digidol ac mewn gohebiaeth ysgrifenedig. Bydd y Swyddog Cefnogi Gweithrediadau yn cynorthwyo i gynnal llif esmwyth gweithrediadau, gan ddelio ag ymchwiliadau amrywiol a datrys materion i atal oedi i achosion neu wasanaethau. Bydd y rôl yn cyflawni nifer o ddyletswyddau gweinyddol cyffredinol a rheoli cyswllt â defnyddwyr i gynorthwyo i redeg swyddogaethau ar draws meysydd gweithredol GLlTEF, gan ddefnyddio sianeli digidol ac yn gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm, deiliaid swyddi barnwrol a rhanddeiliaid eraill. Pwrpas y rôl hon yw cefnogi’r ddarpariaeth weithredol o wasanaeth o ansawdd uchel, gan gynorthwyo cyflwyno cyfiawnder, o fewn a thu allan i wrandawiadau ac ar draws gweithrediadau GLlTEF.

Gall y Swyddog Cefnogi Gweithrediadau weithio ar draws sawl maes busnes, gan ymgymryd ag amryw o dasgau yn ôl yr angen yn ôl anghenion y busnes.

Prif Gyfrifoldebau


Mae’r rhestr ganlynol yn grynodeb o rai o’r gweithgareddau posibl, ond nid yw’n gynhwysfawr:

Gwasanaeth Cwsmer

Cefnogaeth Weithredol

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad


Hanfodol

Dymunol

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau


Rheoli Adnoddau

Gweithio’n Annibynol

Perthnasoedd a Chysylltiadau Allweddol


Yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Mewnol

Allanol