Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder.
Mae ein Arweinwyr Tîm yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau cyfiawnder. Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ddangos a datblygu eich sgiliau arwain. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod eich tîm yn darparu cymorth gweinyddol rhagorol i adennill dirwyon troseddol a chosbau ariannol a osodir gan y Llysoedd.
Amdanom ni
Mae Casglu a Gorfodi Dirwyon Troseddol (Gorfodaeth) yn swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF). Mae'r adran Gorfodaeth yn chwarae rhan ganolog mewn darparu cyfiawnder trwy weithio ochr yn ochr â'r llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod partïon a fernir yn euog yn cydymffurfio â dirwyon a chosbau ariannol eraill a osodwyd gan y llysoedd. Mae'r adran hon hefyd yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â Gorchmynion Atafaelu a osodwyd gan Lys y Goron a sicrhau y telir tocynnau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd gan yr heddlu.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ac sydd am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl i sicrhau cyfiawnder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu gyrfa gyda phwrpas go iawn, ymgeisiwch.
Eich rôl
Arwain eich tîm, byddwch yn canolbwyntio ar faes gwaith y tîm, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu a’i drefnu a cbod eich tîm yn gwbl fedrus i gyflawni amcanion. Fel Arweinydd Tîm effeithiol, byddwch yn cydnabod pwysigrwydd lles cyffredinol y tîm a gallwch ysgogi eich tîm i lwyddo.
Byddwch yn cyfrannu at gyflawni targedau gweithredol, perfformiad a safon gwasanaeth ac yn darparu data ystadegol ar gyfer y tîm rheoli. Bydd eich llygad craff am fanylion ac awydd am welliant parhaus yn allweddol i'ch llwyddiant. Mae monitro a dadansoddi meysydd a thueddiadau perfformiad, cynnal adolygiadau parhaus o weithdrefnau ac arferion gwaith yn hanfodol, yn ogystal â’ch gallu i argymell gwelliannau yn llwyddiannus, llywio newid a rheoli gweithrediad mentrau a deddfwriaeth newydd.
Mae hon yn rôl heriol a gwerth chweil, sy’n allweddol i gynnal swyddogaethau gweithredol yn esmwyth ledled GLlTEF. Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau arwain, trwy ein cynnig arweinyddiaeth GLlTEF. Mae hyn yn darparu ystod eang o weithgareddau, o raglenni datblygu i ganllawiau byr hygyrch, er mwyn helpu i feithrin eich gallu a’ch hyder i arwain ac ysbrydoli eraill.
Eich sgiliau a phrofiadau
Y gallu i ysgogi a chefnogi'ch tîm i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a chyflawni perfformiad effeithiol.
Profiad o weithio mewn rôl weinyddol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Hyfedr wrth ddefnyddio TG gyda’r gallu i ddysgu ac addasu i wahanol dechnolegau a phecynnau meddalwedd.
Sgiliau cyfathrebu, trefnu a blaenoriaethu rhagorol
Gallu cryf i flaenoriaethu llwythi gwaith ac addasu i flaenoriaethau sy'n newid.
I weld y swydd ddisgrifiad lawn, darllenwch y ddogfen ategol isod cyn gwneud cais.
Rhagor o fanylion
Bydd disgwyl i recriwtiaid newydd i’r Gwasanaeth Sifil sy’n ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gychwyn ar waelod y band cyflog.
Yn y swyddi gweithredol hyn byddwch yn delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid, ac felly bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus fod wedi’u lleoli yn y swyddfa i ddarparu gwasanaethau GLlTEF i’r cyhoedd. Mae’n bosibl y bydd gwaith hybrid di-gontract ar gael, ond y busnes fydd yn penderfynu ar y trefniadau a bydd hyn ond yn opsiwn pan bennir y gellir darparu’r gwasanaeth yn effeithiol o adref. Ni allwn hwyluso ceisiadau am amserlen benodol ar gyfer gweithio o gartref/gweithio y swyddfa.
Yr oriau gwaith llawn amser safonol yw 37 awr yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae GLlTEF yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser, yn hyblyg ac i rannu swydd pan fo hynny’n bodloni gofynion y rôl ac yn diwallu anghenion y busnes, ac ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno cyn ichi gael eich penodi. Bydd pob cais i weithio’n rhan amser, yn hyblyg ac i rannu swydd yn cael ei ystyried yn unol â. pholisi Gweithio’n Hyblyg y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Teithio achlysurol i lysoedd eraill
Er bydd deiliad y swydd yn cael ei leoli mewn swyddfa benodol, efallai y bydd angen hyblygrwydd i weithio ar sail ad hoc mewn swyddfeydd GLlTEF lleol eraill.
Fisa Gweithiwr Medrus
Nid yw'r rôl hon yn gymwys ar gyfer Fisas Gweithiwr Medrus newydd, yn unol â'r rheolau mewnfudo cyfredol.
O 22 Gorffennaf 2025, cyflwynodd y Llywodraeth newidiadau i'r llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Ni all yr adran ystyried eich noddi ar gyfer y rôl hon ond bai eich bod wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus cyn y newidiadau a ddaeth i rym ar 22 Gorffennaf 2025. Os ydych wedi dal Fisa Gweithiwr Medrus yn barhaus, codwch hyn yn eich gwiriadau fetio a bydd cymhwysedd yn cael ei asesu yn unol â'r rheolau mewnfudo a'r darpariaethau pontio sydd mewn lle.
Os ydych yn gwneud cais am y rôl hon ac nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd newydd ar gyfer nawdd, bydd angen i chi ystyried eich opsiynau ar gyfer cael a/neu gynnal eich hawl i weithio yn y DU yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus sicrhau bod ganddynt yr hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac yn y Deyrnas Unedig a’u bod yn cynnal yr hawl honno.
Bydd yr Adran yn parhau i gydymffurfio â Rheolau Mewnfudo’r DU a weithredir yn y DU a’r Gwasanaeth Sifil. Gallwch ddarllen mwy am fisâu Gweithwyr Medrus a’r meini prawf cymhwyster yma.