Swyddfa Cymru
Swydd Ddisgrifiad ar gyfer Swyddi Amrywiol
Teitl y Swydd Swyddi Amrywiol
Graddfa Tâl
G7
Cyflog
£58,511 - £65,329
Lleoliad
Tŷ William Morgan, Caerdydd, CF10 1EP
Nifer o swyddi, gan gynnwys contractau parhaol a chontractau cyfnod
penodol 18 mis gyda’r posibilrwydd o estyniad neu ddod yn swydd
Contract
barhaol. Bydd benthyciad gan Adrannau eraill o’r Llywodraeth yn cael ei
ystyried hefyd.
Cliriad
Cliriad Diogelwch (Gweler Gwybodaeth Ychwanegol)
Gwybodaeth am Swyddfa Cymru:
Swyddfa Cymru yw wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru, a llais Cymru yn San Steffan.
Rydyn ni’n helpu Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r tîm Gweinidogol i gynrychioli Cymru wrth
galon y Llywodraeth. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth ag Adrannau eraill o’r
Llywodraeth a gyda rhanddeiliaid eraill er mwyn cael Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig
gadarn.
Gwerthoedd ein hadran yw Ymrwymiad, Cydweithredu ac Ansawdd. Mae’r rhain yn siapio sut
rydyn ni’n gweithredu mewn amgylchedd heriol a chyflym sy’n gofyn am hyblygrwydd,
tryloywder a phroffesiynoldeb.
Mae’r Swyddfa ar ddau safle - un yng Nghaerdydd ac un arall yn Llundain. Mae’r swyddi sy’n
cael eu hysbysebu ar hyn o bryd fel rhan o’r ymgyrch hon wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, fel
rhan o’n hymrwymiad i raglen Lleoedd ar gyfer Twf y Llywodraeth.
Fel sefydliad achrededig sy’n gweithio’n gall, rydyn ni’n cynnig hyblygrwydd sylweddol o ran
‘y ffordd rydyn ni’n gweithio.’ Mae gennym ni dechnoleg wych a phecyn buddiannau deniadol
i weithwyr sy’n cynnwys ymrwymiad i fuddsoddi yn addysg a datblygiad ein staff.
Gwybodaeth am ein timau:
Mae ein timau’n gweithredu ar draws ystod eang o feysydd polisi wedi’u cadw’n ôl a rhai
datganoledig, gan weithio i nodi cyfleoedd a fyddai o fudd i Gymru o fewn polisïau newydd
Llywodraeth y DU a gweithredu i nodi problemau a datrys camddealltwriaeth. Mae’r briff hwn
sy’n gryf o ran dylanwad yn gofyn am agwedd hyblyg at drafodaethau a dealltwriaeth ragorol
o’r darlun ehangach.
Yn aml, bydd gofyn i aelodau o’r tîm ddarparu gwybodaeth i Weinidogion neu uwch
swyddogion, a darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith digwyddiadau cyfredol ar eu
meysydd polisi.
Disgrifiad:
Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer swyddi amrywiol ar lefel Gradd 7 (G7).
Mae’n bosib y bydd swyddi ychwanegol ar gael yn y dyfodol ac felly bydd rhestr wrth gefn yn
cael ei chadw am 12 mis a gellir ei defnyddio i wneud penodiadau pellach.
Diben y Swydd:
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan hollbwysig mewn gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol
ar draws Whitehall, gan gyflawni polisi ar faterion wedi’u cadw yn ôl a sicrhau bod
blaenoriaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn cael eu cyflawni ar yr un pryd. Bydd disgwyl i chi
feithrin cysylltiadau effeithiol ar draws Whitehall i helpu i gyflawni cenadaethau craidd
Llywodraeth y DU. Bydd angen i chi weithio’n gyflym i derfynau amser sy’n aml yn heriol,
gyda’r gallu i ddod â gwahanol ffynonellau gwybodaeth at ei gilydd a gwneud synnwyr ohonynt
ar gyfer Gweinidogion prysur. Bydd angen i chi allu bod yn gwbl ymwybodol o’r datblygiadau
diweddaraf yng Nghymru a ledled gweddill y DU.
Gallai’r prif ofynion a chyfrifoldebau gynnwys y canlynol:
• Arwain ar feysydd polisi penodol sydd â’r nod o sbarduno twf economaidd yng
Nghymru, datgloi potensial ynni gwyrdd Cymru, cefnogi pobl a gwasanaethau
cyhoeddus, a sicrhau bod datganoli yng Nghymru yn gweithio’n effeithiol i bobl Cymru.
• Darparu cyngor polisi o ansawdd uchel a sesiynau briffio ysgrifenedig i’r
Ysgrifennydd Gwladol neu’r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol.
• Helpu’r Ysgrifennydd Gwladol/Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol i baratoi ar gyfer
digwyddiadau Seneddol fel ymddangosiadau gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig a
sesiynau Cwestiynau Llafar Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin.
• Dylanwadu ar Adrannau Eraill o’r Llywodraeth ar draws Whitehall a rhanddeiliaid
allanol ehangach yng Nghymru i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu
hadlewyrchu’n llawn ym mholisïau Llywodraeth y DU.
• Tynnu sylw at gyfleoedd a hybu buddsoddiad yng Nghymru (gan gynnwys hyrwyddo
Cymru’n rhyngwladol).
• Cyfathrebu a rheoli cysylltiadau â Llywodraeth Cymru ac Adrannau eraill o Lywodraeth
y DU.
• Efallai y bydd angen teithio i ddarparu cymorth ar ymweliadau Gweinidogol neu wrth
fynychu cyfarfodydd â rhanddeiliaid.
• Dyletswyddau rheolwr llinell.
Ni fwriedir i’r swydd-ddisgrifiad fod yn hollgynhwysol, ac mae’n debygol y bydd dyletswyddau’n
cael eu newid o bryd i’w gilydd yn sgil amgylchiadau sy’n newid ac ar ôl ymgynghori â deiliad
y swydd.
Os cewch gynnig swydd o’r ymgyrch hon, bydd swydd ddisgrifiad lawn yn cael ei ddarparu.
Manyleb y Person
Yn eich Datganiad o Addasrwydd, dangoswch pa mor agos rydych chi'n cyd-fynd â'r meini
prawf hanfodol a, lle bo'n berthnasol, cadarnhewch ddewisiadau rôl o'r rhai a restrir yn yr
hysbyseb swydd hon.
Hanfodol:
• Gallu cyfathrebu’n hyderus â phobl ar bob lefel, meithrin perthynas a dylanwadu ar
randdeiliaid allweddol.
• Y gallu i gynllunio a rheoli eich llwyth gwaith, gan addasu’n gyflym i amgylchiadau sy’n
newid a defnyddio menter i ddatrys problemau.
• Gallu amlwg i ddadansoddi gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau, gan weithio’n
gywir a rhoi sylw trylwyr i fanylion.
• Profiad o ddrafftio, gan sicrhau bod eich gwaith yn gywir, yn fanwl ac yn effeithiol.
• Sgiliau TG canolraddol neu uwch, gyda phrofiad penodol o ddefnyddio rhaglenni
Microsoft Office.
Dymunol:
• Sgiliau Cymraeg.
Y Broses Recriwtio:
Bydd yr ymgyrch yn defnyddio fframwaith Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Bydd angen i
chi ddarparu tystiolaeth yn eich cais ar gyfer yr ymddygiadau canlynol:
• Cyfathrebu a Dylanwadu (Ymddygiad Arweiniol) (Cais a Chyfweliad)
• Gwneud Penderfyniadau Effeithiol (Cais a Chyfweliad)
• Gweithio Gyda’n Gilydd (Cyfweliad yn Unig)
• Newid a Gwella (Cyfweliad yn Unig)
Os bydd nifer fawr o ymgeiswyr, byddwn yn didoli ar sail yr ymddygiad arweiniol yn unig er
mwyn creu rhestr fer ar gyfer cyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid yw Swyddfa Cymru’n gyflogwr yn ei rhinwedd ei hun. Bydd staff sy’n cael eu recriwtio i
weithio yn Swyddfa Cymru yn cael eu cyflogi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n darparu
gwasanaethau cyflogaeth ar ein rhan.
Mae angen cliriad ar lefel Cliriad Diogelwch ar gyfer y swydd hon.
Rhaid i ymgeiswyr sydd angen Cliriad Diogelwch Gwladol (Cliriad Diogelwch) fod wedi byw
yn y DU am y 5 blynedd cyn iddynt wneud cais am Gliriad Diogelwch. Os ydych chi wedi treulio
amser sylweddol dramor (cyfanswm o 6 mis yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf), bydd rhaid i chi
roi disgrifiad rhesymol o’r rhesymau dros hynny.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad uchod, mae’n bosib y byddwch yn dal yn
cael eich ystyried am y swydd os, er enghraifft:
• Rydych chi wedi bod yn gwasanaethu dramor gyda Lluoedd Arfog EF neu mewn rhyw
swydd swyddogol arall fel cynrychiolydd Llywodraeth EF.
• Roeddech chi’n astudio dramor.
• Roeddech chi’n byw dramor gyda’ch rhieni.