Cyfreithiwr Gradd 7 Comisiwn y Gyfraith - Y Tîm Cyfraith 
Droseddol  
 
Mae Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn recriwtio cyfreithiwr troseddol ar gyfer y 
Tîm Cyfraith Droseddol. Mae hwn yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i’r gyfraith 
droseddol yng Nghymru a Lloegr drwy weithio ar ddiwygio’r gyfraith mewn ffordd heriol ac 
uchel ei phroffil.  
 
Gall y swydd hon gynnwys gwaith ar ein prosiect presennol ar Gyfraith Lladdiadau neu ein 
prosiectau sydd ar y gweill ar yr Amddiffyniad Gorffwylltra, Troseddau sy’n ymwneud â 
Chyrff Marw, neu Gydsyniad yn y Gyfraith Droseddol. 
 
Gan weithio fel rhan o dîm bach dan arweiniad yr Athro Penney Lewis, Comisiynydd y 
Gyfraith sy’n gyfrifol am gyfraith droseddol, ac ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, 
bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod y gyfraith droseddol yn 
gweithio’n gyfiawn yn y cyd-destun modern.  
 
Gair am Gomisiwn y Gyfraith 
 
Mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig cyfle heb ei ail i weithio ar rai o’r cwestiynau cyfreithiol a 
pholisi mwyaf cymhleth sy’n wynebu ein cymdeithas. Mae’n cynnig gwaith ymestynnol o 
ansawdd uchel, cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymdeithas, mynediad at ddysgu 
a datblygu boddhaus, a chydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. 
Ers 60 mlynedd, mae’r Comisiwn wedi bod â rôl unigryw - annibynnol, ond wrth galon y 
Llywodraeth. Ei nodau yw:  
•  Ceisio sicrhau bod y gyfraith mor deg, modern, syml, a chost-effeithiol â phosibl. 
•  Cynnal ymchwil ac ymgynghoriadau er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer diwygio. 
•  Codeiddio’r gyfraith, dileu anghysondebau, diddymu deddfiadau sydd yn ddiangen ac 
wedi darfod, a lleihau nifer y statudau ar wahân. 
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff anadrannol annibynnol sy'n cael ei noddi gan y 
Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae ganddo Gadeirydd barnwrol, pedwar Comisiynydd, a thua 
80 aelod o staff. Trefnir ei waith yn bedwar maes: Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaeth; 
Cyfraith Masnach a’r Gyfraith Gyffredin; Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru; a 
Chyfraith Droseddol.  
 
Mae rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Gyfraith a’i waith ar gael yn www.lawcom.gov.uk/. 
 
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://lawcom.gov.uk/working-at-law-commission/ 
Gwybodaeth am ein cyfreithwyr 
 
Rydym yn recriwtio cyfreithwyr creadigol gwych o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ymuno 
â’n timau. Ond nid cyfreithwyr yn unig yw ein cyfreithwyr. Maent yn ymwneud â llunio 
polisïau, gweithdrefnau deddfwriaethol, rheoli prosiectau, ac arweinyddiaeth. Maent yn 
archwilio materion cyfreithiol a pholisi o bob safbwynt, yn ymgysylltu’n agos ag amrywiaeth 
enfawr o randdeiliaid o bob cefndir, yn drafftio papurau ac adroddiadau ymgynghori clir a 
deniadol, ac yn gweithio gyda swyddogion y Llywodraeth i fwrw ymlaen â’n gwaith yn y 
Senedd. Tra bo cyfreithwyr mewn practis preifat yn cymhwyso’r gyfraith i achosion unigol, 
mae gan gyfreithwyr yng Nghomisiwn y Gyfraith ryddid i ystyried beth ddylai’r gyfraith fod.  
 

Gwybodaeth am y tîm Cyfraith Droseddol 
 
Mae’r tîm Cyfraith Droseddol yn cynnal gwaith prosiect proffil uchel ar draws cyfraith 
droseddol Cymru a Lloegr. Mae gennym hanes rhagorol o ddiwygio’r gyfraith yn ymarferol. 
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Senedd wedi pasio cyfreithiau sy’n seiliedig ar ein 
hargymhellion sy’n ymwneud â chamddefnyddio delweddau personol, atebolrwydd troseddol 
corfforaethol, troseddau cyfathrebu, a diogelu data swyddogol, ymysg pethau eraill. 
 
Mae ein prosiect ar y Gyfraith Lladdiadau ar y gweill ar hyn o bryd, a bydd yn rhedeg tan 
2028. Unwaith y bydd ein prosiectau ar Apeliadau Troseddol a Dirmyg Llys wedi’u cwblhau 
yn 2026/27, byddwn yn dechrau gweithio ar brosiectau sy’n ystyried diwygio’r Amddiffyniad 
Gorffwylltra, Troseddau yn Erbyn Cyrff Marw, a Chydsyniad yn y Gyfraith Droseddol. 
 
Y swydd 
 
Mae prif ddyletswyddau’r swydd yn cynnwys y canlynol: 
 
•  Arwain, neu gyd-arwain, un neu fwy o brosiectau diwygio’r gyfraith yn erbyn 
amserlen y cytunwyd arni gyda’r Comisiynydd a Phennaeth y Tîm, gan gynnwys ei 
reolaeth strategol o ddydd i ddydd. 
•  Arwain ymchwil i’r gyfraith a sut mae’n gweithio’n ymarferol (yn y DU a thramor). 
•  Dadansoddi problemau gyda’r gyfraith, nodi opsiynau ar gyfer diwygio, a phrofi 
atebion posibl. 
•  Ymgysylltu â rhanddeiliaid, y tu mewn a’r tu allan i’r Llywodraeth. 
•  Ysgrifennu papurau ymgynghori, adroddiadau, a dogfennau eraill ar y cyd â’r 
Comisiynydd, Pennaeth y Tîm, ac aelodau eraill o’r tîm, a pharatoi’r rhain i’w 
cyhoeddi. 
•  Dadansoddi ymatebion i’r ymgynghoriadau. 
•  Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yng Nghomisiwn y Gyfraith gan gynnwys: 
y Pennaeth Cyfreithiol, y Pennaeth Cyfathrebu i drefnu cyhoeddusrwydd ar gyfer ein 
gwaith; a’r Cynghorydd Economaidd i ddadansoddi effaith opsiynau diwygio; a’r 
Cwnsler Seneddol i ystyried drafftio deddfwriaethol. 
•  Helpu i hyrwyddo a gweithredu argymhellion o brosiectau sydd wedi’u cwblhau (gan 
gynnwys gweithio o bosibl fel rhan o Dîm Biliau i fynd â deddfwriaeth drwy’r Senedd) 
a chyfrannu at ystyried gwaith prosiect newydd. 
•  Rheoli un neu fwy o Gynorthwywyr Ymchwil. 
•  Cyfrannu at ddiwylliant corfforaethol Comisiwn y Gyfraith, er enghraifft drwy gefnogi 
ac arwain gweithgareddau ar feysydd sy’n cynnwys: dysgu a datblygu, llesiant, 
amrywiaeth a chynhwysiant, a recriwtio. 
 
Sgiliau, ymddygiadau, a phrofiad 
 
Hanfodol 
 
1.  Technegol - cymwysterau: Rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol o ran cymwysterau 
academaidd a phroffesiynol: 
a.  Academaidd: Fel arfer, dylech feddu ar o leiaf radd 2.1 israddedig mewn 
unrhyw bwnc (neu gymhwyster gradd tramor sy’n cyfateb i radd 2.1) ond 
byddwn yn ystyried profiad dilynol os yw dosbarth eich gradd yn is na hyn; a 
b.  Proffesiynol: Rhaid i chi fod: 
i.  yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr sydd wedi cymhwyso i ymarfer yng 
Nghymru a Lloegr; neu 
ii.  yn rhywun sy’n gallu dangos lefel gymharol o allu cyfreithiol, er 
enghraifft: 

1.  academydd cyfreithiol; 
2.  cyfreithiwr sydd wedi cymhwyso’n broffesiynol dramor; neu 
3.  arbenigwr ar bolisi cyfreithiol. 
 
2.  Technegol - addasrwydd o ran cymhelliant personol: Rhaid i chi fod â dealltwriaeth 
amlwg o waith y tîm cyfraith droseddol yng Nghomisiwn y Gyfraith, a chymhelliant 
perthnasol i weithio fel rhan ohono. Rydym yn chwilio am bobl sydd â diddordeb 
mewn diwygio’r gyfraith a gweithio yng Nghomisiwn y Gyfraith. 
 
3.  Technegol - sgiliau cyfreithiol: Rhaid i chi feddu ar sgiliau amlwg o ran dehongli a 
dadansoddi cyfraith a pholisi cyfreithiol, ac o ran cyfleu dadansoddiad cyfreithiol 
cymhleth. Mae gennym ddiddordeb mewn derbyn ceisiadau gan gyfreithwyr neu 
academyddion sydd â chefndir mewn cyfraith droseddol, sy’n gallu dangos y gallu i 
gaffael gwybodaeth am feysydd cymhleth o’r gyfraith yn gyflym. 
 
4.  Profiad: Rhaid i chi fod â phrofiad amlwg ym maes y gyfraith droseddol, gyda hanes 
gyrfa, cyflawniadau, a sgiliau sy’n berthnasol i swydd benodol cyfreithiwr troseddol 
Comisiwn y Gyfraith.  
 
5.  Ymddygiadau: 
 
a.  Cyflawni’n gyflym - rhaid i chi allu bod yn gyfrifol am sicrhau canlyniadau 
amserol o safon gyda ffocws a chymhelliant. 
b.  Gwneud penderfyniadau effeithiol - rhaid i chi allu defnyddio tystiolaeth a 
gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau a chyngor arbenigol a chywir, gan 
ystyried opsiynau eraill yn ofalus, a goblygiadau a risgiau penderfyniadau. 
c.  Cydweithio - rhaid i chi allu ffurfio partneriaethau a pherthnasoedd effeithiol 
gyda phobl y tu mewn a’r tu allan i Gomisiwn y Gyfraith.  
d.  Cyfathrebu a dylanwadu - rhaid i chi allu cyfathrebu’n glir, yn ddidwyll, ac yn 
frwdfrydig. 
 
Dymunol  
 
•  Profiad: 
o  Profiad o ddadansoddi cyfreithiol cymhleth a/neu ddelio â dadl gyfreithiol 
gymhleth - gall hyn gynnwys drafftio barn gyfreithiol, cynnal ymchwil 
gyfreithiol, a chynghori cleientiaid.  
o  Profiad o ddrafftio dogfennau - gall hyn gynnwys profiad o: ddrafftio 
dogfennau sy’n esbonio meysydd cymhleth o’r gyfraith, datblygu dadleuon 
cyfreithiol cymhleth, neu sydd i’w cyhoeddi. 
o  Profiad o oruchwylio eraill - gallai hyn gynnwys goruchwylio cyfreithwyr dan 
hyfforddiant neu ddisgyblion a/neu gyfreithwyr eraill, goruchwylio staff neu 
fyfyrwyr ôl-raddedig, neu arwain tîm bach. 
o  Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw brofiad sydd gennych sy’n 
uniongyrchol berthnasol i’n prosiect ar Gyfraith Lladdiadau, neu ein 
prosiectau sydd ar y gweill ar yr Amddiffyniad Gorffwylltra, Troseddau yn 
erbyn Cyrff Marw, a Chydsyniad yn y Gyfraith Droseddol. 
 
Lleoliad 
 
Mae hon yn swydd genedlaethol, a gall ymgeiswyr llwyddiannus weithio o’u canolfan 
ranbarthol agosaf (eu “lleoliad penodol").  
 
Fodd bynnag, disgwylir i ymgeiswyr hefyd fynychu swyddfa Llundain yn rheolaidd (e.e. 
unwaith y mis) yn unol ag anghenion y busnes a’r tîm. Ar ben hynny, mae rhai o’n 

cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn Llundain, er enghraifft yn y Senedd, gyda 
swyddogion a Gweinidogion ar draws Whitehall a gyda rhanddeiliaid cyfreithiol yn Ninas 
Llundain a’r Llysoedd Barn Brenhinol a’r cyffiniau, a byddai disgwyl i ymgeiswyr fynychu 
cyfarfodydd o’r fath yn ôl yr angen. 
 
Disgwylir i holl staff llawn-amser Comisiwn y Gyfraith fynychu eu prif leoliad (neu swyddfa 
Llundain) o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos.. Nid yw’r trefniant gweithio hybrid hwn yn 
gytundebol ac o ganlyniad gellid gofyn i staff ddod i’w lleoliad gwaith yn amlach.  
 
Cofiwch mai dim ond o’r DU y gellir gweithio yn y swydd hon ac nid o dramor.  
 
Cyflog 
 
Mae hon yn swydd Gradd 7. Fel arfer, penodir staff newydd ar bwynt cychwyn y raddfa; 
bydd cyflogau cychwynnol uwch yn cael eu hystyried mewn amgylchiadau eithriadol. 
 
Os ydych chi eisoes yn was sifil ac yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth recriwtio allanol am 
swydd gyda ni, eich cyflog cychwynnol fydd y gorau o’r canlynol: 
• 
telerau hyrwyddo neu delerau trosglwyddo, fel y bo’n briodol; neu 
• 
trefniadau talu wrth benodi (isafswm yr ystod cyflog) 
 
Hyd Amser 
 
Mae’r swydd(i) am gyfnod penodol o 24 mis. Yn amodol ar anghenion busnes, mae 
posibilrwydd y gellid ymestyn y cyfnod penodol, neu y gellid trosi’r swydd yn swydd barhaol 
maes o law. Gall ymgeiswyr llwyddiannus ymuno ar fenthyg gan un o Adrannau eraill y 
Llywodraeth, neu ar secondiad.  
 
Ffyrdd o weithio 
 
Yng Nghomisiwn y Gyfraith, rydym yn credu mewn ffyrdd eraill o weithio ac yn eu hyrwyddo 
er mwyn recriwtio a chadw’r dalent orau, felly mae’r swydd hon ar gael fel swydd lawn-
amser, ran-amser, neu rannu swydd (lle gwneir cais gan bartneriaeth rhannu swydd). Rydym 
hefyd yn cynnig patrymau gweithio hyblyg gan gynnwys cynllun oriau hyblyg a’r cyfle i 
weithio oriau cywasgedig, yn amodol ar anghenion busnes.  
 
Mae’r ffordd y darperir adnoddau ar gyfer ein prosiectau yn golygu ein bod yn cynllunio yn 
gyfwerth â swydd lawn-amser, ond rydym yn croesawu ceisiadau gan bartneriaethau rhannu 
swydd, a allai weithio mwy na chyfwerth un swydd lawn-amser ar y cyd. Rydym hefyd yn 
croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n dymuno gweithio’n rhan-amser, ond os ydych chi’n 
dymuno gweithio llai na phedwar diwrnod yr wythnos, yna byddem yn ystyried hynny fel 
rhannu swydd ac mae angen i ni fod yn fodlon bod ail ymgeisydd rhannu swydd ar gael. 
Byddai’n ddefnyddiol cael gwybod ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno gweithio mewn 
trefniant rhannu swydd. Mae’r manylion cyswllt wedi’u nodi isod os hoffech chi drafod gyda 
ni cyn gwneud cais. 
 
Rydym wedi ymrwymo i drin pobl yn agored a gyda pharch. Rydym yn croesawu ac yn 
annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu 
ar hyn o bryd, ac rydym yn ymfalchïo ein bod yn gyflogwr o ddewis. I ddysgu rhagor am sut 
rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, ewch i: Amrywiaeth a 
chynhwysiant - Comisiwn y Gyfraith
 
 
 

Y broses ymgeisio 
 
Byddwch yn cael eich asesu yn erbyn fframwaith proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil ar 
Ymddygiadau, Profiad, a Sgiliau Technegol. Edrychwch ar fframwaith Ymddygiadau’r 
Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o fanylion ar y raddfa hon (Gradd 7): Proffiliau Llwyddiant - 
GOV.UK 
 
Yn ystod y cam didoli (cais ysgrifenedig) byddwch yn cael eich asesu ar eich profiad, eich 
cymwysterau, a’ch sgiliau technegol - addasrwydd o ran cymhelliant personol.  
 
Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cam didoli yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Gofynnir 
i chi gwblhau darn ysgrifenedig o waith a chyflwyniad byr i fesur eich addasrwydd ar gyfer y 
swydd ac asesu eich sgiliau technegol a chyfreithiol. Yn y cyfweliad, byddwch hefyd yn cael 
eich asesu ar sail 4 ymddygiad sydd wedi’u rhestru isod.  
 
Os bydd nifer fawr o geisiadau, efallai y byddwn yn cynnal camau didoli cychwynnol ar y 
meini prawf technegol arweiniol, sef addasrwydd o ran cymhelliant personol, ynghyd â’ch 
CV. Os bydd nifer fawr o geisiadau’n parhau ar ôl y cam didoli cychwynnol, byddwn yn 
cynnal ail gam didoli llawn ar yr holl feini prawf sy’n weddill ar gyfer y rhai a basiodd y cam 
didoli cychwynnol. 
 
Profiad 
 
Yn ystod y cam didoli, gofynnir i chi ddarparu CV a Datganiad Addasrwydd (750 gair) yn 
ystod y broses ymgeisio. Dangoswch eich profiad ym maes y gyfraith droseddol, ac unrhyw 
elfennau o hanes eich gyrfa, eich cyflawniadau a’ch sgiliau sy’n berthnasol i’r swydd hon 
(rhaid i hyn gynnwys sut rydych chi’n bodloni’r profiad hanfodol a, lle bo hynny’n berthnasol, 
y profiad dymunol uchod). 
 
Ar gyfer eich CV, dylech gynnwys trosolwg byr yn unig o’ch gyrfa hyd yma gan nodi pob 
cyflogwr, dyddiadau’r gyflogaeth, a disgrifiad ffeithiol byr o’ch swydd a’ch prif gyfrifoldebau. 
Cadwch eich CV yn gryno ac yn ffeithiol. Cewch gyfle yn eich datganiad addasrwydd i egluro 
sut mae eich hanes cyflogaeth yn berthnasol i’r profiad sy’n ofynnol gan y swydd.  
 
Ymddygiadau  
 
Bydd y pedwar ymddygiad hanfodol (cyflawni’n gyflym; gwneud penderfyniadau effeithiol; 
cydweithio; a chyfathrebu a dylanwadu) i gyd yn cael eu profi yn y cyfweliad. 
 
Technegol 
 
Cymwysterau: Wrth wneud cais, gofynnir i chi ddangos sut rydych chi’n bodloni gofynion 
hanfodol y cymwysterau academaidd a phroffesiynol.  
 
Addasrwydd o ran cymhelliant personol: Wrth wneud cais, gofynnir i chi ddangos eich 
cymhelliant dros y swydd a sut rydych chi’n cyd-fynd â’r gofynion. 
 
Sgiliau cyfreithiol: Bydd y rhai sy’n pasio’r cam didoli cychwynnol (cais ysgrifenedig) yn cael 
eu gwahodd am gyfweliad. Cyn y cyfweliad, gofynnir i chi sefyll prawf ysgrifenedig byr. Yn y 
cyfweliad, gofynnir i chi baratoi cyflwyniad byr. Defnyddir y rhain i asesu eich sgiliau 
cyfreithiol. 
 
 
 

Gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad  
 
Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Byddwn yn ystyried ceisiadau am 
gyfweliad ar-lein os bydd eich amgylchiadau’n gofyn am hynny.  
 
Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal ganol mis Ebrill 2026.  
 
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr ffurfiol yn cynnig penodiad i 
chi a fydd yn esbonio eich telerau ac amodau gwasanaeth yn fanwl. Bydd eich penodiad yn 
cynnwys cyfnod prawf.  
 
Os cewch eich penodi, byddwch yn dod yn was sifil a byddwch yn ddarostyngedig i God y 
Gwasanaeth Sifil a bydd cyfyngiadau ar eich gallu i ymgymryd ag ymarfer preifat. 
 
Bydd ymgeiswyr addas nad ydynt yn llwyddiannus yn cael eu cadw ar restr wrth gefn ar 
gyfer swyddi yn y dyfodol; efallai y bydd swyddi o’r fath ar gael yn ystod y 12 mis nesaf ac yn 
cael eu cynnig i ymgeiswyr addas ar y rhestr wrth gefn.  
 
Aelodaeth o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth 
 
Mae Proffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth (GLP) yn rhwydweithio â chyfreithwyr a 
hyfforddeion y Llywodraeth, sydd rhyngddynt yn darparu gwasanaethau cyfreithiol ar draws 
holl sbectrwm gweithgareddau’r Llywodraeth. Mae rhai yn aelodau o Adran Gyfreithiol y 
Llywodraeth (GLD): mae eraill (fel cyfreithwyr Comisiwn y Gyfraith) yn rhan o’r rhwydwaith 
GLP ehangach.  
 
Bydd cyfreithiwr neu fargyfreithiwr sydd wedi cymhwyso i ymarfer yng Nghymru a Lloegr, ar 
ôl ymuno â Chomisiwn y Gyfraith, yn gallu manteisio ar fuddion a chyfleoedd rhwydweithio’r 
GLP ehangach. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i gyfreithwyr sydd wedi cymhwyso dramor 
sy’n bodloni’r gofynion cenedligrwydd ac sy’n gymwys i ymarfer yng Nghymru a Lloegr o dan 
y Cynllun Trosglwyddo Cyfreithwyr Cymwysedig (QLTS). Gellir cael gwybodaeth am y 
Cynllun hwn gan yr SRA (www.sra.org.uk). 
 
Manylion cyswllt    
 
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd neu os oes gennych chi unrhyw 
addasiadau rhesymol, anfonwch e-bost at recruitment@lawcommission.gov.uk. Nodwch y 
swydd yn y llinell pwnc. 
 
Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0345 241 5359 (o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am - 
6pm) neu anfonwch e-bost at: Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com