Swydd Ddisgrifiad (SDd) y Pencadlys
Band 9

Cyfarwyddiaeth: Cyffredinol - Polisi

Swydd Ddisgrifiad: Uwch Reolwr Polisi






Cyf. y Ddogfen

Math o Ddogfen

Fersiwn

Dosbarthiad

Dyddiad Cyhoeddi

Statws

Cynhyrchwyd gan Awdurdodwyd gan Tystiolaeth ar gyfer y SDd







HQ JES 2088 Generic - Senior Policy Manager Rheoli

5.0

Swyddogol

29 Medi 2023

Gwaelodlin


Y Tîm Cymorth a Sicrwydd Gwerthuso Swyddi



Y Tîm Gwobrwyo













Swydd Ddisgrifiad



Teitl y Swydd

Uwch Reolwr Polisi

Cyfarwyddiaeth

Cyffredinol - Polisi

Band

9










Trosolwg o’r Swydd

Mae deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ac yn gyfrifol am gynllunio a rheoli gwaith yr uned bolisi.

Crynodeb

Bydd deiliad y swydd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli y Grŵp, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu a chynghori ar bolisi a gwella perfformiad y sefydliad ar draws amryw o faterion, yn ogystal ag arwain sesiynau briffio ar gyfer y grŵp cyfan.

Bydd yn gyfrifol am gytuno ar flaenoriaethau polisi gweithredol gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS), gan sicrhau bod deilliannau y cytunwyd arnynt a thargedau’r cynllun busnes yn cael eu cyflawni a datblygu cysylltiadau strategol â rhanddeiliaid a phartneriaid mewnol ac allanol ar lefel Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynrychioli HMPPS mewn cyfarfodydd gyda sefydliadau allanol a rhanddeiliaid ac Adrannau Eraill y Llywodraeth.

Cyfrifoldebau, Gweithgareddau a Dyletswyddau

Disgwylir i ddeiliad y swydd gyflawni’r cyfrifoldebau, y gweithgareddau a’r dyletswyddau canlynol:


  • Sicrhau bod yr holl bolisïau’n ddiogel, yn gyfreithiol, yn weddus ac yn fforddiadwy, yn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol ac yn sensitif i anghenion y llinell weithredol.

  • Bod yn gyfrifol am gyflawni polisïau amserol sydd wedi’u hymchwilio’n dda sydd â sicrwydd ansawdd ac sy’n cefnogi anghenion a nodwyd ar gyfer y busnes.

  • Drafftio ymatebion i gyflwyniadau mwy cymhleth gan weinidogion, achosion gweinidogion, Cwestiynau Seneddol ac argymhellion Byrddau Monitro Annibynnol ac Arolygaeth Carchardai Ei Fawrhydi.

  • Gweithio’n agos gyda deiliaid polisi strategol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Adrannau eraill y Llywodraeth a’u Hasiantaethau i gyflawni uchelgais y Gweinidogion drwy bolisïau gweithredol.

  • Meithrin perthynas waith gref gyda Swyddfeydd Preifat Gweinidogion, uwch swyddogion, rhanddeiliaid cyrff cyhoeddus anadrannol allanol a phartneriaid yn y trydydd sector.

  • Yn atebol am ysgrifennu a gweithredu strategaeth bolisi sydd wedi’i theilwra’n briodol ac sy’n cydymffurfio â chynllun busnes ac amcanion sefydliadol ehangach HMPPS.

  • Datblygu a rhoi cynllun busnes perthnasol ar waith
    sy’n mynd i’r afael â sut gall HMPPS gyflawni ei gyfrifoldebau o ran datblygu; gan gynnwys yr adnoddau staffio a chyllidebol sydd eu hangen a’r costau cyflawni.

  • Sefydlu prosiectau, gyda llywodraethu priodol i gefnogi’r prosiect, gan nodi risgiau a chamau lliniaru ac adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr a rhanddeiliaid.

  • Goruchwylio a chymeradwyo achosion busnes drafft ac asesiadau effaith sy’n deillio o ddatblygu / addasu polisi. Sicrhau bod gofynion ar gyfer unrhyw drefniadau monitro canolog wedi cael eu trafod gyda rhanddeiliaid perthnasol a’u bod wedi cael eu sefydlu ac yn addas i’r diben.

  • Sicrhau ansawdd a chymeradwyo’r holl gyngor i Weinidogion ac uwch swyddogion HMPPS sy’n ymwneud â pholisïau.

  • Goruchwylio prosiectau yn y tîm, gan sicrhau trefniadau llywodraethu priodol i gefnogi’r prosiect, gan nodi risgiau a chamau lliniaru ac adrodd ar gynnydd i uwch reolwyr a rhanddeiliaid.

  • Datblygu a rheoli perthynas prosiectau gyda rhanddeiliaid/deiliaid polisi allanol allweddol ar lefel uwch i sicrhau gwerth am arian.
















































  • Cynrychioli HMPPS mewn ymatebion ac wrth amddiffyn heriau cyfreithiol a gyflwynir gan garcharorion / staff neu ffactorau allanol eraill mewn perthynas â’r ystod lawn o bolisïau. Briffio Cyfreithiwr y Trysorlys a’r Cwnsler ar bolisi a’r gyfraith sy’n sail i benderfyniadau, a, phan fo angen, briffio Gweinidogion ar oblygiadau canlyniadau posibl. Pan fo angen, ystyried cymryd camau gweithredu polisi adferol a sicrhau ymrwymiad Gweinidogion ac uwch swyddogion.

  • Dehongli data perfformiad perthnasol a thystiolaeth
    ymchwil i ddatblygu esboniadau o anghymesuredd yn y canlyniadau - ac enghreifftiau eraill o annhegwch - ar gyfer troseddwyr o wahanol grwpiau gwarchodedig.

  • Yn atebol am ddarparu ymatebion amserol yr ymchwiliwyd yn dda iddynt, gyda sicrwydd ansawdd.

Mae’r rhestr ddyletswyddau/cyfrifoldebau uchod yn disgrifio’r swydd fel y mae ar hyn o bryd, ac ni fwriedir iddi fod yn rhestr gynhwysfawr. Disgwylir i ddeiliad y swydd dderbyn addasiadau rhesymol a thasgau ychwanegol sydd ar lefel debyg ac a allai fod yn angenrheidiol. Mae’n bosibl y bydd addasiadau sylweddol yn golygu y bydd angen ystyried y swydd eto o dan y cynllun Gwerthuso Swyddi, a bydd hynny’n cael ei drafod yn gyntaf gyda deiliad y swydd.



























































Ymddygiadau

  • Newid a Gwella

  • Gweld y Darlun Mawr

  • Arweinyddiaeth

  • Gweithio gyda’n Gilydd

  • Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

Cryfderau

Argymhellir bod y cryfderau’n cael eu dewis yn lleol, argymhellir 4-8.

Profiad

  • Mae angen profiad perthnasol o reoli, adolygu a datblygu polisi ar lefel genedlaethol ar gyfer y swydd.
















Gofynion Technegol





Gallu


  • Sgiliau briffio rhagorol;

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol;

  • Sgiliau dadansoddi rhagorol

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyflwyno rhagorol.














Cymhwysedd Sylfaenol

Peidiwch â newid y blwch hwn

  • Bydd gwiriadau adnabod a diogelwch yn cael eu cynnal ar bob ymgeisydd cyn iddynt gychwyn swydd.

  • Bydd rhaid i bob ymgeisydd allanol gyflawni cyfnod prawf o 6 mis. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr mewnol gyflawni cyfnod prawf os nad ydynt eisoes wedi cyflawni cyfnod prawf o fewn HMPPS.

  • Mae’n ofynnol i'r holl staff ddatgan a ydynt yn aelod o grŵp neu sefydliad y mae HMPPS yn ei ystyried yn hiliol.














Lwfansau Oriau Gwaith (Oriau Anghymdeithasol)

I’w Adael yn Wag

I’w ddefnyddio gan y Tîm Gwerthuso Swyddi yn unig







HQ JES 2088 Generic - Senior Policy Manager v5.0